BBC Cymru'n cadarnhau 'pecyn o arbedion' yn sgil 'pwysau ariannol'

BBC Cymru WalesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru wedi cadarnhau "pecyn o arbedion" fel rhan o'u cynlluniau i fynd i'r afael â phwysau ariannol ac yn rhan o hynny mi fydd rhaglen radio Dros Ginio ar Radio Cymru yn dod i ben.

Mae angen i'r BBC gyflawni arbedion o tua £500 miliwn ac mewn datganiad dywedodd llefarydd fod "BBC Cymru, fel pob rhan arall o'r sefydliad, yn gorfod cyfrannu tra'n ceisio diogelu ansawdd" ar draws eu gwasanaethau.

Fe wnaeth Dros Ginio, un o brif raglenni newyddion a materion cyfoes yr orsaf, olynu Taro'r Post yn 2019.

Bydd rhaglenni Dros Frecwast ac Ar y Marc yn dod i ben ar foreau Sadwrn hefyd gyda phodledliadau yn dod yn eu lle.

Mae disgwyl "i'r cynlluniau leihau lefelau staffio o tua 45 o swyddi gan gynnwys swyddi rheoli".

Dywedodd y datganiad y bydd "cyllidebau Radio Wales yn lleihau ar gyfran debyg i rai Radio Cymru" ond y "bydd arbedion pellach i'w gwneud wrth i'r sefyllfa am gyllid y BBC ac anghenion newidiol y gynulleidfa ddatblygu".

Wrth ymateb i golli rhaglenni sy'n trin materion cyfoes Cymraeg dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod y newyddion yn "ergyd drom" i'r Gymraeg.

Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dros Ginio, un o brif raglenni newyddion a materion cyfoes yr orsaf, olynu Taro'r Post yn 2019

Dywedodd y BBC eu bod "wedi ceisio lleihau'r effaith ar gynulleidfaoedd a chanolbwyntio'r buddsoddiad ar feysydd sy'n cynnig y gwerth a'r twf mwyaf i gynulleidfaoedd".

Ychwanegon nhw fod y cynlluniau "hefyd yn adlewyrchu arferion newidiol cynulleidfaoedd, gyda mwy o bobl yn dewis troi at gynnwys ar blatfformau digidol, ochr yn ochr â'r angen i sicrhau bod BBC Cymru yn parhau'n gynaliadwy ac yn gallu gwasanaethu cynulleidfaoedd ledled Cymru yn y dyfodol".

Yn rhan o weddill y cynlluniau mi fydd newidiadau i'r adran newyddion a materion cyfoes gydag argymhellion i "symleiddio strwythurau a ffyrdd o weithio i ganolbwyntio'r adnoddau ar y newyddiaduraeth sy'n creu effaith".

Yn lle Dros Ginio ddydd Gwener bydd rhaglen newydd Yr Wythnos fydd yn rhoi "crynodeb o'r newyddion a'r byd gwleidyddol".

Mae bwriad hefyd i "gynyddu cyrhaeddiad ein podlediadau drwy ddarlledu'r podlediad Gwleidydda ar foreau Sadwrn yn lle Dros Frecwast a bydd y podlediad pêl-droed Coridor Ansicrwydd yn dod yn lle Ar y Marc, ychwanega'r datganiad.

Hefyd bydd rhaglen frecwast newydd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 ar y cyd wrth i raglen John Hardy ddod i ben.

Fel rhan o'r newid, bydd y Bwletin Amaeth yn dod i ben "gyda newyddion gwledig ac amaethyddol yn cael ei adlewyrchu yn ein prif gynnwys newyddion".

Bydd buddsoddiad y cynlluniau hefyd yn "canolbwyntio'n fwyfwy ar gynnwys sy'n cael yr effaith gryfaf ar gynulleidfaoedd ar draws BBC iPlayer a phlatfformau digidol" a fydd yn golygu "comisiynu tua 20 awr yn llai o raglenni teledu Saesneg bob blwyddyn".

Dywedodd y datganiad hefyd y bydd "rhai newidiadau" i raglen flynyddol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mi fyddan nhw'n "adolygu dyfodol Gorwelion sef y fenter ar gyfer cerddoriaeth gyfoes".

"Fel rhan o'r cynlluniau, bydd teithiau cyhoeddus o bencadlys y BBC yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd yn dod i ben, yn unol â chanolfannau eraill y BBC."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.