Ironman Cymru: 'Dwi eisiau profi nad oes rhaid i ddiabetes fy nal i'n ôl'

Alaw Haf Davies yn Ninbych-y-pysgod cyn cystadlu yn ei Ironman cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 23 oed sydd â diabetes math 1 yn paratoi i wynebu un o heriau corfforol mwyaf ei bywyd wrth iddi gystadlu yn Ironman Cymru dros y penwythnos.
Bydd Alaw Haf Davies yn ymuno â miloedd o athletwyr yn Ninbych-y-pysgod ddydd Sul, gan wynebu 2.4 milltir o nofio, 112 milltir o feicio ac yna marathon llawn.
Ond ochr yn ochr â'r her gorfforol, bydd yn rhaid i Alaw reoli ei diabetes drwy gydol y ras: "Dwi eisiau profi nad oes rhaid i ddiabetes math 1 fy nal i'n ôl."
Mae Alaw wedi gorfod cynllunio'n fwy gofalus na'r arfer wrth hyfforddi, gan gadw llygad ar ei lefelau siwgr a sicrhau bod ganddi ddigon o fwyd a'r offer sydd eu hangen arni.

Mae Alaw wedi bod yn hyfforddi ers misoedd ar gyfer y ras
"Mae diabetes yn golygu bod rhaid i fi feddwl lot mwy ymlaen llaw wrth hyfforddi," meddai Alaw.
"Dwi'n gorfod meddwl am fy lefelau siwgr, beth dwi'n mynd i fwyta, a gwneud yn siŵr bod gen i bopeth dwi angen gyda fi, yn enwedig ar sesiynau hir."
Ond nid yw popeth bob amser yn mynd yn ôl y cynllun.
"Mae yna adegau pan dydy fy lefelau siwgr ddim yn gwneud beth dwi eisiau iddyn nhw wneud, ac mae hynny'n gallu bod yn rhwystredig."
Mae hynny wedi golygu bod rhaid i Alaw addasu ei hyfforddiant a dysgu bod yn fwy amyneddgar gyda'i chorff.
"Dwi wedi dysgu na all popeth fod yn berffaith bob tro. Mae'n rhaid i fi weithio o gwmpas y problemau a pharhau."
'Her ychwanegol ond ddim yn diffinio be allai wneud'
Er ei bod wedi treulio misoedd yn paratoi, mae Alaw yn gwybod y bydd diwrnod y ras yn her wahanol.
Bydd angen iddi reoli ei diabetes wrth nofio yn y môr, yn ystod y beicio ac yna wrth redeg marathon.
"Ar ddiwrnod yr Ironman bydd gen i gynllun clir ar gyfer rheoli'r diabetes, ond dwi'n gwybod y bydd yn her ychwanegol.
"Mae'n rhaid i fi feddwl am y diabetes ar yr un pryd â meddwl am y nofio, y beicio a'r rhedeg."
Er hynny, mae Alaw yn gweld y ras fel cyfle i brofi iddi hi ei hun ac i eraill, beth sy'n bosib.

Bydd Alaw yn nofio, seiclo a rhedeg dros 140 o filltiroedd yn ystod yr Ironman
"Dwi'n gobeithio gallu dangos i bobl eraill, yn enwedig plant a phobl ifanc sydd â diabetes, nad oes rhaid i chi roi'r gorau i'ch breuddwydion.
"Mae cael diabetes yn rhan o fy mywyd, ond dydy e ddim yn gorfod diffinio beth alla i ei wneud.
"Dwi ddim yn poeni cymaint am amser. Dwi jyst eisiau gwneud fy ngorau a gorffen."
Ac ar ôl yr holl hyfforddi, cynllunio a pharatoi, mae hi'n edrych ymlaen at weld beth mae hi'n gallu ei gyflawni.
"Bydd hi'n ddiwrnod hir iawn, ond dwi wedi gweithio mor galed i gyrraedd fan hyn."
"Gobeithio erbyn diwedd y dydd y gallaf edrych yn ôl a dweud, 'Dwi wedi gwneud Ironman'."
'Ironman wedi dod yn rhan enfawr o'r ardal'
Yn ôl Sion Tiplady o dîm trefnu Ironman Cymru, mae miloedd o athletwyr bellach yn dod i Ddinbych-y-pysgod ar gyfer y digwyddiad.
"Mae'r ymateb i'r Ironman yng Nghymru wedi bod yn anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf."
Dywedodd fod y galw am lefydd yn parhau'n gryf, gyda'r ras yn denu mwy na 2,700 o gystadleuwyr.

Mae'r lleoliad a'r gefnogaeth yn gwneud Ironman Cymru yn "ddigwyddiad arbennig iawn," yn ôl Sion Tiplady
"Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu llenwi'r ras flwyddyn ar ôl blwyddyn yn dangos pa mor bwysig mae'r digwyddiad wedi dod i'r ardal."
Mae'r ras hefyd yn dod â nifer fawr o ymwelwyr i Sir Benfro, gyda'r effaith economaidd yn cael ei theimlo gan fusnesau lleol.
"Mae'r miloedd o athletwyr, teuluoedd a chefnogwyr sy'n dod yma yn cael effaith enfawr ar yr ardal," ychwanegodd.
'Rhywbeth arbennig am y lle'
Bydd y ras yn cychwyn gyda'r nofio yn y môr cyn i'r cystadleuwyr fynd ar eu beiciau drwy Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yna, ar ôl 112 milltir o feicio, byddant yn rhedeg drwy ganol tref Dinbych-y-pysgod cyn cyrraedd y llinell derfyn.
Mae'r awyrgylch yn rhan allweddol o'r digwyddiad, yn ôl Sion.
"Mae'r lleoliad a'r gefnogaeth gan y dorf yn gwneud Ironman Cymru yn ddigwyddiad arbennig iawn."
Un o uchafbwyntiau'r bore yw'r anthem sy'n cael ei chanu cyn i'r athletwyr fynd i'r môr.
"Mae gweld yr holl athletwyr yno, gyda'r dorf o'u cwmpas a'r anthem yn cael ei chanu, yn foment sy'n aros gyda chi."
Mae'r cwrs hefyd yn enwog am ei ddringfeydd, gan gynnwys Heartbreak Hill, sy'n cynnig her ychwanegol i'r cystadleuwyr.
"Mae'r athletwyr yn gwybod cyn dod yma fod y cwrs yn mynd i'w gwthio i'r eithaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.