Gwahardd athro rhag dysgu am ddwy flynedd ar ôl taro disgybl ar daith dramor

Bro PreseliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Shôn Rowcliffe yn athro cyflenwi yn Ysgol Bro Preseli

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae athro cyflenwi yn wynebu gorchymyn atal dros dro o ddwy flynedd ar ôl torri rheolau ymddygiad ar daith ysgol i Ffrainc.

Clywodd gwrandawiad disgyblu Cyngor y Gweithlu Addysg fod Shôn Rowcliffe, 33, wedi'i wahardd rhag gweithio yn yr ysgol wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i'w ymddygiad yn ystod y daith yn 2024.

Roedd criw o chwaraewyr pêl-droed o flynyddoedd saith ac wyth, 12 a 13 oed, yn rhan o daith i Ffrainc i chwarae mewn cystadleuaeth gydag ysgol sydd wedi ei gefeillio â Bro Preseli.

Cafodd Mr Rowcliffe ei gyhuddo o fod o dan ddylanwad alcohol, taro disgybl ar draws ei frest, rhegi a chodi ei fys canol.

Roedd Mr Rowcliffe hefyd yn cael ei gyhuddo o ofyn i'r disgybl gadw'r digwyddiad yn gyfrinach.

Fe wnaeth Shôn Rowcliffe wadu tri chyhuddiad yn ei erbyn.

Ar drydydd diwrnod y gwrandawiad fe ddaeth y pwyllgor disgyblu i gasgliad fod y cyhuddiad ei fod wedi meddwi tra'n gyfrifol am ddisgyblion yn gywir.

Fe wnaethon nhw hefyd ddod i gasgliad bod yr honiad i Mr Rowcliffe daro disgybl A ar draws y frest gan adael marc coch yn gywir er i Mr Rowcliffe wadu iddo wneud hynny.

Cafodd y cyhuddiad iddo ddefnyddio iaith gref a rhegi ar noson y digwydd ei brofi yn gywir - gydag un disgybl wrth roi tystiolaeth yn honni iddo ddweud "F off yn uchel iawn" wrth Mr Martin Edwards, yr athro arall.

Cafodd y cyhuddiad iddo godi ei fys canol at yr athro arall hefyd ei brofi'n gywir.

Cafodd Mr Rowcliffe hefyd ei gyhuddo o ofyn i ddisgybl A gadw'r digwyddiad yn gyfrinach. Yn dilyn tystiolaeth, fe ddaeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd hyn wedi ei brofi.

Fe ddaeth y pwyllgor i'r casgliad felly ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol oherwydd canfyddiadau'r cyhuddiadau ac nad oedd yn cyrraedd ymddygiad disgwyliedig ei swydd.

Wrth bwyso a mesur y dystiolaeth gerbron y pwyllgor, fe ddaethon nhw i'r penderfyniad i wahardd Shôn Rowcliffe rhag dysgu am ddwy flynedd.

Gobaith y panel oedd y bydd modd i Mr Rowcliffe adlewyrchu ar ei weithredoedd yn ystod y ddwy flynedd.

Mae gan Mr Rowcliffe yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad ger bron yr Uchel Lys.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.