Bwrdd iechyd yn parhau i ariannu canolfan ymchwil er gwaethaf pryderon

GIG
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r GIG yng ngogledd Cymru yn ariannu dwy swydd mewn canolfan ymchwil sy'n cael ei rhedeg gan Brifysgol Bangor

GanChris Dearden a Gwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i ariannu canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, er bod adroddiad archwilio mewnol wedi cwestiynu pa fudd mae'r trefniant yn ei gynnig i gleifion yng ngogledd Cymru.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos y bydd y bwrdd iechyd yn talu £110,686 i Brifysgol Bangor yn ystod y flwyddyn ariannol hon i ariannu dau ymchwilydd yng Nghanolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas (CfMHaS).

Daeth adroddiad archwilio mewnol a gafodd ei lunio ym mis Ionawr i'r casgliad nad oedd yn glir "pa wasanaethau" yr oedd y bwrdd iechyd yn eu derbyn yn gyfnewid am yr arian, na pha fudd roedd y trefniant yn ei gynnig i bobl gogledd Cymru.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r pryderon a gafodd eu codi, gan gynnwys comisiynu adolygiad allanol.

Cafodd y cytundeb rhwng y bwrdd iechyd a'r brifysgol ei sefydlu fel contract pum mlynedd yn 2012, ond ni chafodd ei adolygu'n ffurfiol wedi hynny ac fe barhaodd yn awtomatig.

Yn ôl yr adroddiad, roedd mwy na £4m o arian y GIG wedi'i dalu i'r brifysgol erbyn mis Medi 2025. Ond, ni allai'r bwrdd iechyd ddangos ei fod wedi cael gwerth am arian o'r trefniant.

Dywedodd 'Llais', y corff sy'n cynrychioli lleisiau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, nad oedd y pryderon yn cael eu datrys yn ddigon cyflym.

Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, cyfarwyddwr rhanbarthol Llais yng ngogledd Cymru: "Byddwn wedi disgwyl trafodaeth fanwl i edrych yn ofalus ar beth oedd yn cael ei brynu gyda'r arian yma, ac i benderfynu a ddylai'r cytundeb barhau.

"Doedd hi ddim yn ymddangos bod hynny wedi digwydd.

"Mae arian y GIG yn gyfyngedig, ac mae'n rhaid i fyrddau iechyd sicrhau'r gwerth gorau posib am bob punt sy'n cael ei gwario.

"Hoffwn i weld yn union beth mae pobl gogledd Cymru yn ei gael am y £110,000 yma."

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'r ymchwil sy'n cael ei hariannu ar hyn o bryd yn cynnwys astudiaethau o brofiadau myfyrwyr mewn carchardai, canlyniadau iechyd meddwl a'r defnydd o opiadau mewn gofal sylfaenol.

Adolygiad allanol ar y gweill

Dywedodd Teresa Owen, dirprwy brif weithredwr dros dro'r bwrdd iechyd, fod ymchwil, datblygu ac arloesi yn rhan bwysig o waith byrddau iechyd prifysgol.

"Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr berthynas waith gadarnhaol gyda sefydliadau academaidd, gan gynnwys Prifysgol Bangor," meddai.

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd trefniadau llywodraethu cadarn ar gyfer cydweithio ymchwil ac rydym yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn yr adolygiad archwilio mewnol.

"Fel rhan o'r broses honno, rydym yn comisiynu adolygiad allanol o'n swyddogaeth ymchwil, datblygu ac arloesi, a fydd hefyd yn helpu i gryfhau'r trefniadau llywodraethu yn y maes hwn."

Dywedodd y bwrdd iechyd a Phrifysgol Bangor eu bod wedi adolygu'r cytundeb ac nad oedd tystiolaeth o dwyll nac ymddygiad amhriodol yn y ffordd y cafodd ei sefydlu na'i weithredu.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn canolbwyntio ar ymchwil "sydd â chymhwysiad uniongyrchol i wella lles meddyliol y boblogaeth gyffredinol neu wella gofal iechyd meddwl".

Ychwanegodd fod y brifysgol yn parhau'n ymrwymedig i gydweithio'n adeiladol â'r bwrdd iechyd, ac y byddai'n cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau neu brosesau adolygu yn y dyfodol pe bai cais iddi wneud hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.