Bwrdd iechyd dan bwysau wedi colli traean o'i gyfarwyddwyr

Mae'r newyddion yn ergyd arall i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wedi iddyn nhw dderbyn "rhybudd olaf" i wella
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd sydd o dan bwysau wedi colli traean o'u cyfarwyddwyr gweithredol, yn ôl cofnodion y cyfarfod bwrdd nesaf.
Yn ôl adroddiad i aelodau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae problemau hefyd o ran gofal iechyd, gyda "diogelwch cleifion yn parhau'n her".
Cafodd 13 o ddigwyddiadau difrifol y dylid bod wedi eu hosgoi eu cofnodi gan y bwrdd dros gyfnod o flwyddyn.
Daw'r newyddion fel ergyd arall i fwrdd iechyd y gogledd, wedi iddyn nhw dderbyn "rhybudd olaf" i wella gan y gweinidog iechyd ddiwedd mis Mehefin.
Yn ôl y bwrdd iechyd mae "trefniadau yn eu lle i sicrhau parhad o ran arweinyddiaeth" ac mae eu "ffocws yn parhau'n gadarn ar ddarparu gofal effeithiol a thosturiol, gwella perfformiad a chefnogi ein blaenoriaethau gwelliant i gleifion a chymunedau ar hyd a lled gogledd Cymru".

Mae Mabon ap Gwynfor yn disgwyl gwelliannau "erbyn diwedd mis Medi", meddai
Wedi rhybudd y gweinidog iechyd, Mabon ap Gwynfor, ym mis Mehefin, mae panel annibynnol o arbenigwyr yn adolygu diogelwch cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant o fewn y bwrdd iechyd, sydd dan fesurau arbennig ers Chwefror 2023.
Mae disgwyl iddyn nhw adrodd yn ôl i'r llywodraeth erbyn diwedd mis nesaf.
Mewn cofnodion sydd wedi eu cyhoeddi cyn i aelodau bwrdd Betsi Cadwaladr gwrdd ddydd Iau, mae cadarnhad bod y cyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth yn ymddeol.
Mae'r prif swyddog gweithrediadau, a benodwyd ym mis Mawrth y llynedd, "wedi gadael yn ddiweddar", tra bod y cyfarwyddwr ariannol a'r cyfarwyddwr amgylchedd ac ystadau hefyd wedi "sicrhau rolau newydd i'w hunain y tu allan i'r bwrdd iechyd".
'Rhaid i ni weld gwelliant'
Wrth gael ei holi am ymadawiad traean o gyfarwyddwyr y bwrdd tra bod adolygiad annibynnol o'i lywodraethiant yn parhau, dywedodd Mabon ap Gwynfor wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales fod hynny'n "amlygu'r problemau o fewn y bwrdd iechyd - problemau dwfn sydd wedi ymwreiddio yno ers amser".
"Mae'n rhaid i ni weld gwelliant cyn hir," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl gwelliannau "erbyn diwedd mis Medi" ac y byddai adroddiad yr adolygiad annibynnol ddiwedd mis nesaf yn helpu wrth benderfynu "beth sydd ei angen o ran camau nesaf".

Bydd Carol Shillabeer yn dweud wrth aelodau'r bwrdd yr wythnos hon bod "cynlluniau cadarn yn eu lle er mwyn cynnal atebolrwydd clir"
Mewn dogfennau ar gyfer cyfarfod y bwrdd yr wythnos yma, mae'r prif weithredwr, Carol Shillabeer, yn dweud wrth aelodau bod "cynlluniau cadarn yn eu lle er mwyn cynnal atebolrwydd clir, gwytnwch sefydliadol a goruchwyliaeth weithredol drwy'r cyfnod hwn o newid".
Yn ôl crynodeb un adroddiad "mae'r bwrdd iechyd yn parhau i wynebu pwysau sylweddol o ran ansawdd a diogelwch dros nifer o feysydd risg uchel".
Mae'r meysydd rheiny yn cynnwys 13 digwyddiad sydd yn cael eu galw yn "'ddigwyddiadau byth' (never event) - digwyddiadau difrifol y mae modd eu hosgoi sydd naill ai yn gallu, neu yn achosi niwed i gleifion neu yn peryglu eu diogelwch".
Gan Betsi Cadwaladr mae'r gyfradd uchaf o achosion o'r math hwn yng Nghymru fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Pedwar achos o 'driniaeth yn y man anghywir'
Ymysg yr achosion sydd yn cael eu nodi mae pum achos o wrthrych dieithr yn parhau mewn corff wedi triniaeth feddygol, pedwar achos o "driniaeth yn y man anghywir" a dau achos o "fewnblaniad neu brostheteg anghywir".
Mae'r dogfennau'n nodi bod y digwyddiadau "yn parhau yn brin o'u cymharu â chyfanswm y gweithrediadau, ond mae eu natur fel digwyddiadau allai gael eu hosgoi yn golygu bod angen cryfhau cydymffurfiaeth, sicrwydd a dysgu gweithdrefnol".
Mae'r crynodeb gweithdrefnol ar gyfer ansawdd, diogelwch a phrofiad cleifion yn nodi: "Mae ffocws yn parhau ar wella diogelwch gweithdrefnol a gweithredu safonau diogelwch yn gyson.
"Mae ymchwiliadau a dysgu o ddigwyddiadau yn parhau ynghyd â goruchwyliaeth weithdrefnol sydd wedi ei gryfhau a rhaglen ar draws y bwrdd iechyd sydd yn cydgyfnerthu safonau diogelwch lleol ar gyfer gweithdrefnau ymwthiol (invasive), cryfhau trefniadau archwilio a rhoi gwell sicrwydd ar draws gweithrediadau ymwthiol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin

- Cyhoeddwyd29 Mawrth

