Ysbyty'r Faenor yn 'ddiogel' er gwaethaf beirniadaeth, medd staff

Cafodd BBC Cymru fynediad arbennig i Ysbyty Athrofaol y Faenor i weld sut mae staff yn ymdopi â galw cynyddol
- Cyhoeddwyd
Mae uwch-staff Ysbyty Athrofaol y Faenor yn gwrthod honiadau bod yr ysbyty'n "beryglus" neu'n "methu", gan ddweud bod rhai canlyniadau cleifion ymhlith y gorau yng Nghymru.
Ers agor yr ysbyty yng Ngwent yn 2020, mae cyfres o bryderon wedi bod am oedi, gorlenwi, prinder staff a safon y gofal sy'n cael ei gynnig.
Mae'r feirniadaeth wedi bod yn arbennig o chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae penaethiaid yn cydnabod bod hyn wedi effeithio ar hyder y cyhoedd ac ysbryd staff, ond maen nhw'n mynnu bod yr ysbyty'n perfformio'n well na sawl un arall o ran diogelwch cleifion.
Maen nhw'n annog cleifion sy'n amau eu bod yn ddifrifol wael i beidio ag ofni mynd yno.
Dwi wedi cael mynediad arbennig i'r ysbyty i brofi'r amgylchiadau ac i asesu sut mae'r Faenor yn paratoi ar gyfer gaeaf a allai fod ymhlith y rhai mwyaf heriol eto.
'Galwad coch - 5 munud'
Mae'r neges dros uchelseinydd yr uned frys yn ysgytwol- mae bywyd rhywun yn y fantol ac mae claf mewn cyflwr critigol ar fin cyrraedd mewn ambiwlans.
Ond y broblem yw bod wyth gwely uned adfywio'r adran - lle mae'r cleifion mwyaf difrifol wael yn cael eu trin - eisoes yn llawn.
Rhaid i staff benderfynu'n syth pa glaf i'w symud.
Mae hynny'n her gan fod dwy alwad goch eisoes wedi cyrraedd y bore yma, ynghyd â dyn a gerddodd i mewn i'r dderbynfa yn cael trawiad ar y galon.
Mae tua 90 o gleifion eisoes yn yr adran, ac mae un wedi bod yno am 18 awr.
"Ry'n ni dros ein capasiti," medd Dr Zoe Morgan-Pittard, sydd wedi gosod sticeri ar ei breichiau gyda manylion y cleifion mae hi wedi bod yn eu hasesu.
"Ry'n ni wedi gorfod symud rhai sydd fwy na thebyg ddim yn ddigon iach, ond rhaid i ni flaenoriaethu'r cleifion salaf.
"Ry'n ni'n rhoi cleifion mewn unrhyw fan gwag allwn ni ddod o hyd iddo. Mae pawb yn gwneud eu gorau, ond dyw'r ysbyty ddim yn ddigon mawr," meddai.
'Dyw e ddim yn dderbyniol'
Mae un o'r "mannau gwag" hynny y tu hwnt i'r gwelyau ger cefn yr uned frys.
Mae Margaret Giles o Groesyceiliog wedi bod yn gorwedd ar droli yno am naw awr, ar ôl iddi faglu ac anafu ei chlun.

Bu Margaret Giles yn aros am sawl awr yn yr adran frys ar ôl anafu ei chlun
"Dyw e ddim yn dderbyniol... ond does gen i ddim dewis," meddai.
Mae'r profiad wedi cythruddo ei gŵr, Alan.
"Fe es i at aelod o'r staff dros nos am fod Margaret am fynd i'r tŷ bach, ac mi ddwedon nhw wrtha i, 'alla hi ddim cerdded i'r tŷ bach?'."
Yn ffodus, mae lluniau pelydr-X yn dangos nad yw anaf Margaret yn ddifrifol, a bydd hi'n gallu dychwelyd adref cyn bo hir.
Ond dydy'r profiad ddim wedi bod yn un da i Margaret na'i gŵr.
"Dyma'r tro cyntaf i ni ddod i'r Faenor," meddai Alan, "a gobeithio mai hwn fydd y tro olaf.
"Nid y staff yw'r broblem ond y system."
Llai o oedi i ambiwlansys
Un rheswm pam fod staff yn gosod rhai cleifion mewn mannau agored yn yr uned yw ceisio rhyddhau ambiwlansys yn gynt.
Yn ystod ein hymweliad roedd o leiaf wyth ambiwlans y tu allan i'r adran, ond yn ôl staff mae'r amser maen nhw'n gorfod aros wedi gostwng yn sylweddol.
Ar adegau yn y gorffennol gallai criwiau ambiwlans dreulio shifft gyfan yn sownd yma. Y targed nawr yw eu galluogi i adael o fewn 45 munud.

Yn ôl Darren Panniers, mae amseroedd trosglwyddo ambiwlansys wedi gwella dros y misoedd diwethaf
"Dros y misoedd diwethaf ry'n ni wedi gweld gwelliant sylweddol," meddai Darren Panniers o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
"Mae hynny'n golygu y gallwn ni ymateb yn gynt yn y gymuned i achosion fel strôc neu drawiadau ar y galon."
'Gall un gwely wneud byd o wahaniaeth'
Ond y tu hwnt i'r uned frys mae ymdrech hefyd i gyflymu llif cleifion drwy'r ysbyty cyfan.
Ar y wardiau, mae cleifion yn cael eu trin mewn corneli a chynteddau y tu allan i'r ciwbiclau.
Mae cyfleusterau hefyd yng nghefn yr ysbyty sy'n cynnwys 10 gwely a 15 cadair, lle gall cleifion gael eu paratoi i fynd adref neu eu symud i ysbytai a chanolfannau eraill.
"Ry'n ni'n cynnal cyfarfod bob bore rhwng y meddygon, y nyrsys a'r therapyddion i asesu'r cleifion a gweld pwy sy'n barod i fynd adref," meddai Lorna Lear, un o benaethiaid nyrsio'r ysbyty.

Dywedodd Lorna Lear fod pwysau ar ysbytai yn sylweddol uwch nag yr oedd pan ddechreuodd ei gyrfa nyrsio
"Ry'n ni'n trafod sut i gyflymu'r asesiadau sydd angen eu cwblhau er mwyn iddyn nhw allu mynd adref. Ry'n ni hefyd yn gwahodd teuluoedd yma i drafod beth sydd orau i'r claf."
Ond mae Lorna'n cydnabod bod y baich wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
"Pan ddechreuais i fel nyrs, o'n i'n gweithio yn yr uned asesiadau meddygol ar ddiwrnod Nadolig, a doedd neb yno.
"Nawr mae'r lle'n llawn, hyd yn oed ar ddiwrnod Nadolig."
Er gwaethaf yr ymdrechion hyn ac eraill, mae Ysbyty'r Faenor wedi bod dan y chwyddwydr bron yn ddi-baid ers iddo agor yn gynnar ym Medi 2020 yn ystod pandemig Covid.
Roedd y model yn seiliedig ar symud nifer o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys gofal dwys, gwasanaethau brys a llawfeddygaeth, o ysbytai yn Y Fenni a Chasnewydd a'u canoli ar un safle.
Y rhagdybiaeth oedd y byddai cryfhau gwasanaethau cymunedol yn lleihau'r pwysau ar yr ysbyty newydd.
Ond ym marn nifer o bobl sy'n byw yn yr ardal, roedd hynny'n gamgymeriad.
'Mae'r model yn gweithio'
Fodd bynnag, mae un o brif benaethiaid y bwrdd iechyd, y Prif Swyddog Gweithredu Leanne Watkins, yn anghytuno.
"Mae dod â'n timau at ei gilydd, er enghraifft mewn gofal plant ac obstetreg a gynaecoleg, wedi bod yn hanfodol.
"Roedd gennym wasanaethau bregus iawn mewn meysydd fel mamolaeth a phediatreg, ac roedd y risg o ganlyniad yn enfawr.
"Felly rwy'n credu y byddem wedi cael trafferthion mawr iawn heb y Faenor."
Ond wrth edrych yn ôl, mae'n cydnabod bod gwersi wedi'u dysgu.
"Rwy'n credu y gallem fod wedi elwa o gael gwelyau ychwanegol," meddai.
Eto i gyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn parhau ar Lefel 4, sef yr ail lefel uchaf o drefniadau uwchgyfeirio Llywodraeth Cymru, yn rhannol oherwydd pryderon yn ymwneud â gofal brys ac argyfwng.

Mae Leanne Watkins yn dadlau bod model gwasanaeth Ysbyty'r Faenor wedi cryfhau rhai gwasanaethau arbenigol
Mae negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynd ymhellach, gan ddisgrifio Ysbyty'r Faenor fel un "peryglus", "ofnadwy" a "gwarth".
"Dydw i ddim yn credu bod yr honiadau hynny'n deg," meddai Leanne Watkins.
"O ran cyfraddau marwolaeth, mae'r ysbyty ymhlith y gorau yng Nghymru.
"Ac mewn gwirionedd, ar gyfer rhai triniaethau, fel toriadau i wddf asgwrn y forddwyd a llawdriniaethau brys, rydym ymhlith y gorau yn y DU.
"Os ydych yn sâl iawn, yn ddifrifol wael, dyma'r lle i fod."
Mae un o feddygon amlycaf yr ysbyty, yr ymgynghorydd Dr Paul Mizen, yn ategu'r farn honno.
"Ry'n ni yma i gael ein beirniadu oherwydd ein bod ni'n gwasanaethu'r cyhoedd," meddai.
"Ond os edrychwch chi ar bethau fel cyfraddau marwolaeth, da ni'n gwybod bod y Faenor wedi bod yn llwyddiant.
"Da ni'n gwybod bod y lle'n ddiogel, ac o bosib yn fwy diogel na nifer o ysbytai eraill ledled Cymru."

Dr Paul Mizen yw un o ymgynghorwyr meddygaeth frys Ysbyty Athrofaol y Faenor
"Mae hynny oherwydd bod gennym ni bopeth rydyn ni ei eisiau fan hyn, dan un to."
Ond ydy e'n poeni y gallai unrhyw gamargraff effeithio ar hyder cleifion?
"Y peth sy'n bwysig yw bod rhywun yn mynd i'r lle iawn.
"Ac os yw claf yn ddifrifol wael, fan hyn yw'r lle i fod."
'Mae'n fy ngwneud i'n rili trist'
Ond a yw'r staff yn cymryd y feirniadaeth i'w calon?
"Ma' fe'n gwneud i fi deimlo'n rili drist. Ry'n ni, fel staff, yn deulu ac yn trio'n gorau i wella pobl," meddai'r pennaeth nyrsio, Lorna Williams.
"Dwi ddim eisiau i unrhyw un yn y gymuned fod yn sâl ac yn ofni dod i mewn oherwydd beth maen nhw'n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Achos ry'n ni wastad yn edrych ar yr hyn allwn ni ei wella.
"Felly pan fyddwn ni'n gweld y penawdau negyddol hynny, gall hynny fod yn eithaf trist."
Rhai staff ysbyty yn y de yn 'ofni mynd i'r gwaith'
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
'Angen ehangu' ysbyty mwyaf newydd Cymru yn barod
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
Bwrdd iechyd yn paratoi at 25% o staff yn absennol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
Ar ôl taith saith awr o amgylch yr ysbyty, rydym yn dychwelyd i'r adran frys, lle mae staff wedi gweld 274 o gleifion yn ystod y dydd.
Mae'r nyrs sydd wrth y llyw, Sam Taylor-Harley, yn rhoi'r diweddariad i ni.

Dywedodd Sam Taylor-Harley fod cynnydd diweddar mewn achosion Covid a ffliw yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff
"Ry'n ni wedi cael mwy o drawiadau ar y galon, ambell alwad trawma, cwpl o dderbyniadau i'r uned gofal dwys i fyny'r grisiau, ac ry'n ni hefyd wedi cael rhai materion yn ymwneud â rheoli heintiau.
"Ry'n ni wedi gweld cynnydd diweddar mewn Covid a ffliw, a chleifion sydd â'r ddau, sef 'FluVid' fel rydyn ni'n ei alw.
"Gallwch gael y ddau a bod yn sâl iawn, iawn."
'Galwad goch - 5 munud'
Wrth i ni baratoi i ymadael â'r ysbyty, mae rhybudd arall yn dod dros system gyhoeddi'r Adran Frys
Ac yn fuan mae claf ag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd yn cael ei gludo i mewn gan griw yr ambiwlans awyr.

Claf mewn cyflwr critigol yn cael ei gludo i'r adran frys gan griw Ambiwlans Awyr Cymru
Mae mwy na dwsin o staff o bob rhan o'r ysbyty, gan gynnwys meddygon brys, llawfeddygon ac anesthetyddion, yn barod ac yn aros.
I glaf mor ddifrifol wael â hwn, does dim angen aros am driniaeth.
Ond mae hynny hefyd yn golygu bod cleifion ag achosion llai difrifol yn debygol o wynebu arosiadau hirach.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.