'Torcalonnus' methu chwarae ond byd y podlediadau'n dod â 'gwefr' y gêm yn ôl

Tomi ar y chwith mewn gem bêl-droed yn rhedeg am y bel.
Beca ar y dde yn gwenu ac yn gafael yn sgôr y tîm pêl-rwyd. Ffynhonnell y llun, Sam Eaden
Disgrifiad o’r llun,

Dau o Lanrug yn dechrau podlediad wedi anaf chwaraeon

GanNel Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cael anaf chwaraeon a cholli'ch breuddwyd yn "dorcalonnus" gan eich rhoi mewn lle "unig" a thywyll ond mae dau o Lanrug yn dweud bod modd cadw gafael "ar wefr" chwaraeon.

Mae Tomi Llywelyn a Beca Fôn wedi bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon ers yn ifanc ond yn dilyn anafiadau i'w pennau gliniau bu rhaid iddyn nhw roi gorau i'w breuddwyd.

Dywedodd Beca bod prin adnoddau ar-lein: "Yr unig beth o'n i'n gallu ffeindio, oedd pobl yn cerddad yn normal two days post-op. Ma hynna mor unrealistic" – ac felly penderfynodd greu podlediad er mwyn ceisio helpu eraill sy'n mynd drwy'r un driniaeth.

Mae Tomi wedi gorfod rhoi'r gorau i'w waith fel plymiwr yn dilyn ei anaf ond mi ffeindiodd gysur yn y meic hefyd – mae ei bodlediad o'n trafod hanes pêl-droed Cymru.

"Mae o 'di newid bywyd fi rili," meddai.

Beca mewn ymarfer pêl-rwyd yn gafael mewn clipffwrdd.Ffynhonnell y llun, Kas Bayat
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca wedi dechrau helpu yn hyfforddi pêl-rwyd ar ôl ei hanaf diweddar

Keep it Quality ydy enw podlediad Beca a doedd hi "byth yn meddwl y byswn i mor excited amdan rhywbeth gymaint oeddwn i yn excited am y netball".

Dechreuodd Beca chwarae pêl-rwyd ym mlwyddyn saith. Ers dechrau chwarae mae hi wedi anafu ei phen-glin hi dair gwaith, un yn 15, yr ail yn 18 ac yr un fwyaf diweddar yn 19 oed.

Yn ôl Beca mae pob anaf wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl mewn ffyrdd gwahanol.

Roedd ei chyfnod wedi'r driniaeth yn 15 mlwydd oed yn un "unig" ac mi gaeodd llawer o bobl allan o'i bywyd.

Yn ystod ei chyfnod yn gwella o'r ail driniaeth roedd Beca yn ei blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol - dechreuodd yfed a mynd ar nosweithiau allan yn fwy aml er mwyn ceisio ymdopi â'r anaf meddai.

"O'n i mor aware bod yfad ddim yn dda i fi, yr unig beth ro'n i'n gallu meddwl am dan oedd y night-outs nesaf oherwydd bod o'n kind of distraction o hynna i gyd."

'Dwi jest yn crio'

Mae pethau wedi gwella esboniodd ond mae bellach ar ei thrydydd cyfnod o wella o anaf ac mae'n cael cyfnodau o hyd ble y gallai ond ffocysu ar ei phen-glin.

"Dwi'n cael adegau lle dwi mor zoned out a dwi'n dechrau spirialio lot. A wedyn dwi'n methu focuso ar gwaith uni fi achos dwi mewn llyfrgell a dwi ddim yn gwybod be' dwi'n neud."

Mae wedi penderfynu na fyddai'n dychwelyd nawr i chwarae pêl-rwyd ond mae'r penderfyniad wedi bod yn un anodd.

"Dwi'n dod adra o trainings weithiau dwi jest yn crio, achos dwi jest rili, rili, rili methu fo."

Ond mae ei phodlediad newydd yn cynnig cyfle iddi drafod ei phrofiadau.

Mae'n awyddus i ffocysu ar anafiadau pen-glin yn gyntaf ond mewn cyfresi pellach mi fydd hi'n edrych ar sut y mae ymarfer corff yn gallu bod yn ffordd o gryfhau o wahanol glefydau, meddai.

Tomi ar y dde ac Yws Gwynedd ar y chwith yn siarad gyda'i gilydd ar ei bodlediad newydd Pêl-Groni.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tomi'n cyfweld ag Yws Gwynedd ar bennod gyntaf ei bodlediad newydd

Pan yn 21 cafodd Tomi ei arwyddo i dîm Caergybi ac ar ddechrau ei gyfnod yn chwarae cafodd y tîm ddyrchafiad o'r drydedd haen i'r ail.

Ond yn ystod gêm gyntaf y tymor mi glywodd "pop" yn ei ben-glin.

"Oedd 'neud pen-glin fi ugain munud fewn i'r gêm gyntaf yn heartbreaking rili."

"Oedd y standard yna yn rhywbeth da ac yn rhywbeth o'n i wedi bod yn gweithio'n galed i gyrraedd at."

Tomi yn ifanc ar y chwith yn gafael mewn pêl-droed wrth gysgu.
Tomi yn ifanc ar y dde mewn gwisg Manchester United. Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomi wedi bod yn chwarae pêl-droed ers yn bump mlwydd oed

Cyn yr anaf roedd Tomi'n brentis plymiwr, ond yn dilyn ei anaf ac yn sgil natur gorfforol y swydd bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith.

Oherwydd hyn mae wedi arall gyfeirio a dilyn breuddwyd o gyfuno ei hoff bethau sef pêl-droed a'r byd teledu.

Mae wedi dechrau podlediad o'r enw Pel-Groni sy'n trafod hanes pêl-droed Cymru.

Meddai: "Ti'n cael dal bod yn rhan o'r cylch pêl-droed yna er bod chdi ddim yn chwarae."

Hefyd yn ddiweddar mae Tomi wedi dechrau gweithio gyda Sgorio fel sylwebydd, ac mae'r cyfleoedd yma'n dod â "gwefr y gêm" yn ôl meddai.

"Er dydy o ddim yr un peth â chwarae, mae o'n agos iawn i hynna, achos ti'n teimlo fel bod chdi'n rhan o ddigwyddiad pêl droed, ti'n cael sylwebu arno fo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig