Dau beilot wedi eu hanafu mewn damwain awyren RAF ar Ynys Môn

Damwain awyren ger RAF ValleyFfynhonnell y llun, Danni Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i adroddiadau o ddamwain awyren yn ardal Pencarnisiog, ger RAF Valley

  • Cyhoeddwyd

Mae dau beilot wedi cael eu hanafu yn dilyn adroddiadau o ddamwain yn ymwneud ag awyren hyfforddiant yr awyrlu ar Ynys Môn.

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod yn cael eu trin am fân anafiadau a bod hofrenyddion Gwylwyr y Glannau ac Ambiwlans Awyr Cymru ar safle'r digwyddiad yn ardal Pencarnisiog, sy'n agos at safle RAF Fali.

Dywedodd yr heddlu bod y peilotiaid yn cael eu trin "ac ar hyn o bryd nid oes adroddiadau am unrhyw ddifrod nac anafiadau eraill".

Maen nhw'n annog y cyhoedd i osgoi'r ardal.

AwyrenFfynhonnell y llun, Lewis Burgess
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa wedi'r ddamwain yn ardal Pencarnisiog

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael cais am sylw.

Mae'r Llu Awyr Brenhinol wedi dweud bod digwyddiad wedi bod yn cynnwys awyren RAF T2 Hawk yn hedfan allan o safle RAF Fali.

Ychwanegon nhw bod "ymchwiliad wrthi'n cael ei gynnal ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd".

Mae'r stori yma newydd dorri - rydym yn ychwanegu ati a bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Llwythwch y dudalen eto ar gyfer y fersiwn ddiweddaraf.

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw arGoogle Play, dolen allanolneu App Store, dolen allanol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig