'Dim un ateb' yn unig i ddelio â TB mewn gwartheg - gweinidog

Dywedodd Llyr Gruffydd bod y "darlun yn amrywio o fferm i fferm" a bod "ystod eang o opsiynau" yn cael eu hystyried
- Cyhoeddwyd
Does dim un ateb yn unig i fynd i'r afael â'r diciâu (TB) mewn gwartheg, ac mae angen "edrych ar ystod o atebion" yn ôl y gweinidog sy'n gyfrifol am amaeth.
Dywedodd Llyr Gruffydd bod y "darlun yn amrywio o fferm i fferm" a bod "ystod eang o opsiynau" yn cael eu hystyried.
Daw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn ymestyn dau brosiect sy'n ceisio dileu'r diciâu (TB) mewn gwartheg.
Fe ddechreuodd y prosiect fel cynllun peilot a gafodd ei gyflwyno mewn dwy ardal - Sir Benfro, lle mae nifer uchel iawn o achosion TB, a rhannau o'r gogledd - ond does dim bwriad ehangu hyn i ardaloedd eraill hyd yma.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 28 o ffermydd a 12 o filfeddygfeydd - gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth - yn treialu offer a dulliau lle mae ffermwyr a milfeddygon yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i nodi a rheoli risg TB yn eu gwartheg, gwella bioddiogelwch, a diogelu buchesi a busnesau rhag TB.
Dywedodd Mr Gruffydd, y Gweinidog Gwydnwch Gwledig, bod "angen edrych ar bob opsiwn achos does dim un ateb i ddelio â TB yng Nghymru".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast wedi'r cyhoeddiad fore Mawrth, dywedodd Mr Gruffydd bod 'na "lawer o ddysgu wedi bod o'r cynlluniau yma".
"Ni yn y broses o adolygu'r strategaeth i ddelio gyda TB yng Nghymru ac mae'r profiadau ni'n cael o'r cynlluniau yma yn cyfrannu'n fawr iawn at ein hystyriaethau ni, a ni'n awyddus i ddysgu rhagor oddi wrthyn nhw," meddai.
"Mae 'na ystod o atebion gwahanol yn dibynnu ar y gwahanol amgylchiadau a dyna pam mae sefyllfa TB yn Sir Benfro yn wahanol iawn i sefyllfa TB yn y gogledd, ac felly mae'r dysgu ni'n cael o'r ddau brosiect yma yn wahanol i'w gilydd.
"Dyna'r pwynt pwysig yn fan hyn, nid un ateb sy' 'na - fydd rhaid edrych ar ystod o atebion."
Dywedodd Mr Gruffydd bod y "darlun yn amrywio o fferm i fferm" a bod "ystod eang o opsiynau" yn cael eu hystyried.
"Mae brechu yn opsiwn, mae dal a phrofi anifeiliaid ym mywyd gwyllt yn opsiwn ac mae cael gwared ar anifeiliaid mewn bywyd gwyllt yn opsiwn," meddai.
"Ond mae 'na grŵp yn edrych ar y dystiolaeth yma ar hyn o bryd a mi fydden nhw'n adrodd yn ôl atom ni nes ymlaen yn y flwyddyn ac mi fyddwn ni'n edrych ar hynny gan mai nhw yw'r arbenigwyr, ac mi fydd hynny wastad yn seiliedig ar wyddoniaeth a'r wybodaeth gorau sydd ar gael i ni."
Galw am newid cynllun ffermio, sydd ag ond traean o ffermwyr Môn
- Cyhoeddwyd4 awr yn ôl
Sioeau amaethyddol angen datblygu er mwyn goroesi - Llywydd Sioe Môn
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl
Fel rhan o'r cynllun peilot, mae newidiadau wedi'u gwneud i arferion hwsmonaeth a rheoli buchesi, dulliau prynu gwartheg a mesurau bioddiogelwch i gadw clefydau rhag y ffermydd yn y gogledd a Sir Benfro.
Mae ffermwyr a milfeddygon yn rhannu profiadau ac yn defnyddio data i weithredu, gan gynnwys symud anifeiliaid risg uchel ar ffermydd yn wirfoddol fel mesur ataliol.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: "Mae llwyddiant y prosiectau yng ngogledd Cymru a Sir Benfro yn dangos i ni fod cydweithio yn allweddol, ac rwy'n canmol pawb sy'n cymryd rhan am eu gwaith hyd yma.
"Mae'r ddau brosiect yn dangos yn glir ffermwyr a milfeddygon yn datblygu camau gweithredu yn erbyn TB ar lefel buches a lleol gyda'i gilydd – i leihau risgiau TB mewn buchesi yr effeithir arnynt, ac i gadw'r clefyd allan.
"Drwy bartneriaeth a defnyddio ystod o offer, gwybodaeth a dulliau, gellir cymryd camau cadarnhaol i frwydro yn erbyn TB."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.