Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad ger Aberystwyth

A44 Capel BangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A44 ger Capel Bangor nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 24 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad ger Aberystwyth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion i'r digwyddiad ar yr A44 ger Capel Bangor tua 20:50 nos Fawrth.

Dywedodd y llu mai un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Mae'r dyn hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gamdrin domestig a gyrru peryglus, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu bod y tîm troseddau difrifol yn ymchwilio i'r digwyddiad, a'u bod yn benodol eisiau siarad gydag unrhyw un welodd stŵr yn ardal Capel Bangor cyn y gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig