Menyw'n canfod 38 parasit ar ei hymennydd ar ôl taith i India

Yn dilyn blynyddoedd anodd i Lowri Denman, mae'n dweud ei bod yn "hapus i gael bywyd normal" erbyn hyn
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Gâr wedi sôn am sut y gwnaeth ei bywyd droi ben i waered yn sgil cyflwr hynod brin a gafodd ei achosi gan ddegau o barasitiaid yn ei hymennydd.
Daeth yr arwydd cyntaf bod rhywbeth o'i le i Lowri Denman o Gaerfyrddin ar ôl iddi ganfod llyngyr (tapeworm) medr o hyd wrth fynd i'r toiled.
Yn y pendraw, arweiniodd at ddiagnosis o gyflwr neuroscysticercosis, a chanfod 38 parasit yn ei hymennydd.
Fe wnaeth y cyflwr olygu iddi brofi pennau tost difrifol, ffitiau a seicosis.
Dim ond llond llaw o bobl ar draws y DU sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr, ac mae doctoriaid yn meddwl iddi gael yr afiechyd tra ar daith yn India.
Ar ôl treulio blynyddoedd yn ceisio adfer ei hiechyd, mae'n gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr wrth rannu ei stori.

Mae Lowri yn dal i edrych yn ôl ar ei thaith i India gyda gwên
Aeth Lowri ar daith tri mis o amgylch India gyda ffrind yn 2007 - dyma lle mae'r doctor yn meddwl iddi ddal yr afiechyd.
Fe wnaeth Lowri y penderfyniad i osgoi bwyta cig ar y daith gan obeithio osgoi gwenwyn bwyd, ond mae meddygon yn credu iddi fwyta porc yn ddiarwybod iddi - a oedd yn cynnwys wyau microsgopig y llyngyr.
Tair blynedd yn ddiweddarach yn 2010, fe wnaeth Lowri ganfodllyngyr pan aeth i'r toiled mewn bwyty.
"Daeth tapeworm mas o fy nghorff yn y tŷ bach, oedd e siŵr o fod ryw fedr o hyd.
"Ro'n i'n gwybod yn union beth oedd e, fi 'di gweld tapeworms ar y teledu neu lyfrau."
Aeth at y meddyg, ond ni wnaeth y canlyniadau ddangos unrhyw broblemau, ac roedd yn teimlo'n holliach, felly aeth ymlaen â'i bywyd fel yr arfer.

Lowri yn yr ysbyty ym Medi 2015 yn aros am ganlyniadau profion, gyda'i chwaer
Ond o fewn blwyddyn, roedd hi'n dioddef pennau tost gwael, ac yna yn 2011 fe gafodd ffit am y tro cyntaf.
"Ro'n i'n straffaglu i gael geirie fi mas... o'n i'n mynd yn anxious a self conscious," meddai.
Wedi iddi gael ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans, fe wnaeth sgan CT ganfod fod ganddi 38 parasit yn ei hymennydd.
Yn dilyn ymholiadau pellach, fe gafodd ddiagnosis o neurocysticerosis.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae pobl yn cael eu heffeithio gan yr afiechyd wrth fwyta bwyd, fel porc heb ei goginio, neu yfed dŵr wedi ei halogi ag wyau llyngyr neu drwy arferion hylendid gwael.
Mae'n gyflwr hynod o anghyffredin yn y DU.
'Ddim yn teimlo'n iawn o gwbl'
Er iddi dderbyn triniaeth a oedd i weld yn gweithio, fe gafodd ei tharo'n wael lai na blwyddyn yn ddiweddarach.
Fe wnaeth meddygon ganfod bod rhannau o'i hymennydd wedi chwyddo o amgylch y parasit.
"Nelon nhw roi fi ar steroids i gymryd y chwyddo i lawr yn yr ymennydd, ac oedd hwnna'n fine am bach.
"Ond wedyn ar ôl i fi tapero bant o rheina, oedd e'n digwydd 'to ac aeth hwn 'mlaen a 'mlaen fel hyn am sbel fach," esboniodd.
Dywedodd ei bod wedi profi sgil-effeithiau gwael gyda'r driniaeth: "Roedd e wedi newid fi i edrych ond hefyd mentally, o'n i ddim yn teimlo'n iawn o gwbl."
Fe symudodd yn ôl i fyw gyda'i thad yn y gorllewin yn ogystal â gadael ei swydd.
"Ro'n i'n straffaglu a hefyd doedd dim ryw fath o timeline pryd oedd hwn am orffen, oedd e'n very much yr unknown."

Dywedodd Lowri bod ei thaith i India yn 2007 yn anhygoel
Dywedodd iddi deimlo fel yna am flwyddyn cyn i'w hiechyd meddwl waethygu.
"O'n i'n dechrau clywed pethe, anxiety, panick attacks, so es i 'nôl i'r ysbyty ym Mryste a dyna lle 'naeth pethe rili waethygu a bues i yn yr ysbyty am dri mis yn y cyfnod 'na.
"O'n i sort of ddim yn sâff i fod gyda fy hunan, yn gweud pethe dwl.
"Roedd hwnna yn amser rili ofnadwy.
"Wedodd un o'r cwnselydd fi 'di gweld dros y blynydde, bo' fi'n rili lwcus i ddod mas o hwn gyda'r seicosis 'ma."
'Hapus i gael bywyd normal'
Erbyn 2018 roedd Lowri'n teimlo'n ddigon cryf i symud i Gaerdydd a chwblhau gradd, ac yna dychwelodd i weithio yn 2022.
Yn dilyn blynyddoedd o broblemau iechyd, mae'r parasitiaid bellach wedi caledu yn ei hymennydd.
Dydy hi ddim wedi cael ffit ers 2017, ond bydd yn rhaid iddi gymryd meddyginiaeth epilepsi am weddill ei hoes.
Mae hi bellach eisiau i bobl eraill wybod am ei stori.
"Fi'n hapus i gael bywyd normal, mynd 'nôl i'r gwaith, gyrru, pethau ma' pobl yn cymryd yn ganiataol.
"Bydden i byth yn cymryd iechyd for granted, mae'n bwysig.
"Without your health ti'n screwed," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.