Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad ger Aberystwyth

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A44 ger Capel Bangor nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed wedi ei gyhuddo yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A44 ger Capel Bangor, Aberystwyth.
Mae Owen Rhys-Jones o Dol-y-bont, Aberystwyth wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, gyrru yn beryglus ac o ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 20:50, dydd Mawrth, 30 Mehefin.
Mae'r unigolyn wedi ei gadw yn y ddalfa nes bydd yn ymddangos yn y llys.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un allai fod wedi bod yn yr ardal ac sydd â gwybodaeth neu a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Bydd Owen Rhys-Jones yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.
Arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad ger Aberystwyth
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.