O Sweden i Ddyffryn Conwy i dderbyn gwobr mewn eisteddfod leol

Delyth [y tiwtor dysgu Cymraeg] a Rik yn yr Eisteddfod Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Delyth [y tiwtor dysgu Cymraeg] a Rik yn yr Eisteddfod

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dyn sy'n byw yn Sweden ennill cystadleuaeth i siaradwyr newydd mewn eisteddfod leol yng ngogledd Cymru dros y penwythnos.

Dim ond ers mis Medi mae Rik wedi bod yn dysgu Cymraeg, a hynny drwy gyfrwng gwersi ar-lein.

Delyth Roberts yw ei diwtor Cymraeg, ac fe osododd her i'w chriw i gystadlu yn Eisteddfod Dyffryn Conwy.

Dywedodd Nia Clwyd Owen, cadeirydd yr Eisteddfod bod yn "rhaid i ni wneud yn siŵr bo' ni'n creu mwy o gyfleoedd iddyn nhw [siaradwyr newydd] allu cyfrannu o fewn y diwylliant Cymraeg".

'Doeddan ni methu credu'r peth'

Fe benderfynodd pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwyn ffurfio cystadleuaeth ar gyfer siaradwyr newydd y llynedd ac wedi'r llwyddiant dyma gynnwys cystadleuaeth eto eleni.

"Mi gafon ni dipyn o sypreis eleni pan ddysgon ni pwy oedd wedi ennill y gystadleuaeth.

"'Nes i sylwi ar Delyth [Roberts] yn y gynulleidfa a gweld bod 'na ddyn yn eistedd wrth ei hochr hi, a do'n i erioed wedi gweld y dyn 'ma o'r blaen.

"Ac yna ffeindio allan mai fo oedd wedyn ennill a'i fod wedi dod yr holl ffordd o Sweden, oedd o'n hollol anhygoel, doeddan ni methu credu'r peth," ychwanegodd.

Y cystadlu dros y penwythnosFfynhonnell y llun, Eisteddfod Dyffryn Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na dipyn o gystadlu yn Nyffryn Conwy dros y penwythnos

Mae Rik yn feistr ar ieithoedd, a Chymraeg yw ei ddeuddegfed iaith.

Mae wedi darllen sawl nofel Gymraeg, mae wrth ei fodd yn gwrando ar Radio Cymru 2 a'i hoff raglenni ar S4C yw Rownd a Rownd a Sgwrs dan y Lloer.

Dywedodd Nia Clwyd Owen nad oedd criw'r Eisteddfod yn gallu credu'r peth.

"Roedd o'n teimlo'n angerddol dros ddysgu'r Gymraeg a mwynhau'r profiad o fod yng ngogledd Cymru.

"'Da ni'n meddwl fod o'n hollol hollol wych ac mae'r diolch am hynny yn mynd i Delyth ei diwtor."

Wrth sôn am bwysigrwydd cynnig cyfleoedd a chystadlaethau i ddysgwyr ychwanegodd Nia Clwyd: "Fel cadeirydd yr eisteddfod mae hyn yn rhywbeth fyswn i'n ei licio ei ddatblygu 'chydig yn fwy, a denu mwy o ddysgwyr atom ni.

"Ma' rhaid i ni wneud yn siŵr bo' ni'n creu mwy o gyfleoedd iddyn nhw allu cyfrannu o fewn y diwylliant Cymraeg."

'Roedd o'n anhygoel'

"Gwnaeth o i gyd ddechrau pan 'nes i osod her i'r dysgwyr, maen nhw'n griw da iawn, a mond 'di bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi," meddai Delyth Roberts, tiwtor Cymraeg Rik.

"Felly dyma fi'n dweud 'be am i chi gystadlu yn fy eisteddfod leol i... meddwl bysa fo'n hwyl iddyn nhw, ac mae ganddyn nhw ddigon o Gymraeg i ymateb i ofynion y gystadleuaeth."

Yn fuan wedi'r cais, dywedodd iddi dderbyn gwaith ei disgybl, Rik - a oedd yn drawiadol.

"Do'n i methu credu'r peth, roedd o'n anhygoel!"

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu darn yn hel atgofion o'i ddiweddar gefnder yn ei gyflwyno i Gymru a'r iaith Gymraeg.

Fe ddaeth Rik i'r eisteddfod er mwyn cael blas o'r iaith a'i diwylliant, a heb yn wybod iddo, fe oedd wedi ennill y gystadleuaeth.

Fe geisiodd Delyth esbonio iddo mai eisteddfod leol oedd hon, ac iddo beidio disgwyl stondinau fel yr Eisteddfod Genedlaethol!

"Mi gyrhaeddodd ddydd Gwener a mi gyfarfon ni tro cynta' a dod yn ffrinida' yn syth ac roedd o'n siarad Cymraeg â mi drwy nos Wener."

Wrth sôn am y foment pan dderbyniodd y wobr, dywedodd iddo "garlamu i'r llwyfan" a'i fod o "wrth ei fodd".

Wedi iddo gael modd i fyw yng ngogledd Cymru, mae Rik eisoes yn trefnu ei drip nesaf yma.

Dywedodd Rik iddo benderfynu cystadlu ar ôl i Delyth "ddweud yn y dosbarth y bydd yr Eisteddfod ar agor i bawb".

"Pan ro'n i'n darllen bod angen ysgrifennu darn am sgwrs ar y traeth, neu sgwrs ar daith, ro'n i'n gwybod, y byddwn i'n ysgrifennu am sgwrs efo Peter, fy nghefnder Seisnig i.

"Mi wnaeth o fy ngwahodd i fynd i gerdded yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf yn 2011, felly dwi'n ddyledus iddo fo am fy nghariad at Gymru.

"Yn anffodus, mi wnaeth o farw yn 2015," meddai.

"Roedd o'n wych i ymweld â Llanrwst (a Threfriw!) ac yn ddiddorol iawn i gystadlu yn yr eisteddfod.

"Mae pawb yn 'nabod Delyth ac roedd y bobl yn garedig ac yn groesawgar iawn, yn arbennig pan ro'n i'n dweud fy mod wedi cystadlu yn yr eisteddfod leol fel siaradwr newydd.

"Mi wnaeth y profiad ddangos i mi unwaith eto, fod y gymdeithas Gymreig ar agor i bawb sy' isio trio dysgu'r iaith."

Ychwanegodd Rik fod "pobl wedi dweud wrthai: 'Rwyt ti'n Gymro rŵan' a dwi'n trysori hynny".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.