Pwy yw'r pedwar ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni?

Jonathan Davies, Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan
Disgrifiad o’r llun,

[O'r chwith i'r dde] Jonathan Davies, Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r pedwar person sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Y rhai sydd wedi dod i'r brig ydy Jonathan Davies o Lwchwr ger Abertawe, Caroline Jones o Wynedd, Kierion Lloyd o ardal Wrecsam a Paige Morgan o'r UDA.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ar ddydd Mercher 5 Awst.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd.

Fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.

Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.

Pwy yw'r pedwar ar y rhestr fer?

Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jonathan Davies eisiau dysgu Cymraeg ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain

Cychwynnodd Jonathan Davies, o Lwchwr ger Abertawe, ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu â'i dreftadaeth a'i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain.

Astudiodd Gerddoriaeth yno, gan gwblhau gradd a gradd meistr cyn hyfforddi fel athro drwy gwrs TAR.

Yn 2020 dechreuodd ddysgu Cymraeg, gan wneud cynnydd cyflym a dod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Aeth ymlaen i ddechrau PhD ym maes Ieithyddiaeth ac Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd mewn addysg.

Mae'n hwyluso grŵp dysgwyr ifanc, yn dysgu ysgrifennu creadigol, ac yn sylfaenydd podlediad Ymchwil y Gweilch.

Mae hefyd yn rhan o dîm yn datblygu offeryn dwyieithog i asesu hygyrchedd testun.

Caroline JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caroline Jones eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth o'i hymdrech i ddysgu Cymraeg drwy ei gwaith

Daw Caroline Jones o Lundain yn wreiddiol, a daeth yn ymwybodol o'r Gymraeg ar ôl cyfarfod â'i gŵr 20 mlynedd yn ôl.

Yn 2004 symudodd i i'r gogledd, lle dechreuodd ddysgu'r iaith wrth astudio ar gyfer MSc a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Bellach mae'n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth Adran ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae ei chydweithwyr yn ei chanmol am ei hymroddiad i hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle, ac mae'n cynnig gwasanaethau dwyieithog i gleifion, yn enwedig plant a phobl ifanc.

Yn 2026 enillodd deitl Dysgwr y Flwyddyn lefel Canolradd/Uwch Betsi Cadwaladr.

Kierion LloydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Kierion Lloyd ddysgu Cymraeg yn 2018

Cafodd Kierion Lloyd ei eni yng Nghymru i deulu di-Gymraeg, a threuliodd ei blentyndod yn symud yn aml oherwydd gwaith ei dad yn y fyddin.

Tra roedd yn byw yn Seland Newydd, roedd yn teimlo'n siomedig nad oedd yn gallu siarad yr iaith.

Felly yn 2018, dechreuodd ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam.

Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth Gymraeg, ac mae'n mynychu gigs ac Eisteddfodau'n rheolaidd.

Mae hefyd yn cyfrannu at wefan geiriau caneuon, gan helpu i wneud cynnwys Cymraeg yn fwy hygyrch, ac mae'n benderfynol o weld yr iaith yn ffynnu.

Paige MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Daw Paige Morgan o'r Unol Daleithiau

Er bod Paige Morgan yn byw yn America, mae'n cyfrannu at y Gymraeg ac yn benderfynol o ysbrydoli eraill drwy'r iaith.

Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn ysgrifennu, ond rhoddodd y gorau i'r syniad yn ei harddegau.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, ailgydiodd yn ei hysgrifennu ac yn 2024 cafodd gyfle i ddysgu cynganeddu.

Mae bellach yn rhan o Gynllun Pencerdd Llenyddiaeth Cymru a Barddas - y fenyw Americanaidd gyntaf i wneud hynny.

Yn 2025 dechreuodd ysgrifennu erthyglau i Lingo360 ac wedyn i Golwg, gan ganolbwyntio ar wleidyddiaeth Americanaidd.

Mae hefyd yn ysgrifennu straeon byrion sydd wedi ennill cystadlaethau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.