O Bloemfontein i Durban - newid mawr mewn pedair blynedd i rygbi Cymru

Capten presennol Cymru, Dewi Lake, yn cofleidio Taulupe Faletau ar ôl sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn De Affrica yn Bloemfontein yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn Durban, lle bydd y garfan yn gorffen y tymor gyda'r her fwyaf oll – wynebu pencampwyr y byd ar eu tomen eu hunain.
Mae'n anodd peidio â meddwl yn ôl i daith ddiwethaf Cymru i Dde Affrica yn 2022.
Roedd talcen caled yn wynebu tîm Wayne Pivac ar ôl i Gymru gael diwedd siomedig i'r Chwe Gwlad, gyda'r golled gartref yn erbyn Yr Eidal yn codi cwestiynau difrifol am gyfeiriad y tîm.
Ond dros dair wythnos, newidiodd Cymru'r naratif.
Roedd hi'n gyfres a oedd yn cynnwys siom, hanes, ac yn bwysicaf oll, gobaith.
Creu hanes
Roedd y prawf cyntaf yn Pretoria yn wefreiddiol, gyda'r Cymry ar drothwy buddugoliaeth enwog cyn i gôl gosb hwyr Damian Willemse sicrhau buddugoliaeth 32-29 i'r Springboks.
Saith diwrnod yn ddiweddarach daeth un o nosweithiau enwocaf rygbi Cymru yn y cyfnod proffesiynol.
Yn Bloemfontein, daeth trosiad Gareth Anscombe yn yr eiliadau olaf â buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru dros Dde Affrica ar dir y Springboks.
Roedd y lluniau o'r dathlu yn yr ystafell newid yn adlewyrchu maint y gamp.
Er i'r Springboks ennill y gyfres gyda buddugoliaeth yn Cape Town wythnos yn ddiweddarach, roedd y daith wedi gwneud rhywbeth pwysig.
Roedd hi wedi adfer balchder.

Hyfforddwr Cymru ar y pryd, Wayne Pivac, yn annerch ei dîm ar ôl i Dde Affrica guro Cymru 30-14 yn y trydydd prawf yn Cape Town
Daeth un o'r delweddau sy'n aros yn y cof o'r daith honno ar ôl y chwiban olaf yn Cape Town.
Wrth baratoi i gyfweld y chwaraewyr ar y cae, roedd hi'n amhosib peidio â sylwi ar y cyferbyniad rhwng y ddau dîm.
Wrth i Siya Kolisi arwain dathliadau gwyllt y Springboks, ymgasglodd holl aelodau carfan Cymru - y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r staff cefnogol - yn gylch yng nghanol y cae.
Siaradodd Wayne Pivac yn gyntaf, cyn i'r capten Dan Biggar ychwanegu ychydig eiriau.
Doedd dim dathlu, ond doedd dim teimlad o fethiant chwaith.
Ar ôl y siom yn erbyn Yr Eidal ychydig fisoedd ynghynt, roedd Cymru wedi dangos eu bod yn gallu cystadlu â'r goreuon.
Roedd hi'n teimlo fel dechrau rhywbeth.
Newid a siom ers hynny
Ond mewn rygbi rhyngwladol, gall pethau newid yn gyflym.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach collodd Wayne Pivac ei swydd.
Dychwelodd Warren Gatland i'r awenau, ac er i Gymru gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 2023, dirywiodd y canlyniadau wedi hynny.
Syrthiodd Cymru i lawr safleoedd y byd wrth i genhedlaeth o chwaraewyr profiadol ymddeol, ac ym mis Tachwedd y llynedd daeth un o'r nosweithiau anoddaf yn hanes rygbi Cymru - colli 73-0 yn erbyn y Springboks yng Nghaerdydd.
Mae'r daith i Durban yr wythnos yma felly'n teimlo'n wahanol iawn i'r un yn 2022.

Enillodd Tommy Reffell wobr chwaraewr y gêm yn Bloemfontein, ac mae'n un o 11 o'r 23 a oedd yn rhan o'r fuddugoliaeth honno sydd yn y garfan bresennol
Ac eto, nid yw popeth wedi newid.
Mae 11 o'r chwaraewyr oedd yn rhan o'r fuddugoliaeth hanesyddol yn Bloemfontein yn dal yn y garfan sy'n teithio dan arweiniad Steve Tandy.
Mae rhai bellach yn arweinwyr profiadol. Mae eraill wedi gorfod ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb wrth i wynebau cyfarwydd adael y llwyfan rhyngwladol.
Yn San Juan y penwythnos diwethaf, bu Cymru'n gystadleuol am gyfnodau ond roedd bwlch amlwg i'w weld wrth i'r tîm golli 35-21 yn erbyn Yr Ariannin.
Bydd y dasg yn Durban yn llawer mwy anodd.
Llygedyn o obaith?
Wrth reswm, prin iawn yw'r rhai sy'n rhoi unrhyw obaith i Gymru yn erbyn y Springboks ddydd Sadwrn.
Mae De Affrica yn bencampwyr y byd, yn chwarae gartref ac yn meddu ar garfan gryfaf y byd ar hyn o bryd.
Ar bapur, byddai buddugoliaeth i Gymru yn Durban yn un o'r canlyniadau mwyaf annisgwyl yn hanes rygbi'r cyfnod proffesiynol.
Ond nid ar bapur y mae gemau prawf yn cael eu hennill.
Os oes un wers o daith 2022, mae'n syml - doedd neb yn disgwyl i Gymru ennill yn Bloemfontein chwaith.
Roedd y garfan honno'n credu, hyd yn oed pan nad oedd llawer o bobl eraill yn credu ynddyn nhw.
Dyna'r ysbryd a arweiniodd at un o nosweithiau enwocaf rygbi Cymru yn Ne Affrica.
Wrth ddychwelyd i Durban yr wythnos hon, mae'r darlun yn wahanol iawn.
Ond mae 11 o'r chwaraewyr a fu'n dathlu'r fuddugoliaeth honno yn dal yn y garfan.
Byddan nhw'n gwybod yn well na neb pa mor enfawr yw'r her sy'n eu hwynebu - ond hefyd, mai'r unig ffordd o roi unrhyw obaith i Gymru yw ailgynnau'r un ffydd, yr un cymeriad a'r un ysbryd a welwyd yn Ne Affrica bedair blynedd yn ôl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.