Mam 'byth am dderbyn' ymddiheuriad gan lofrudd ei mab

David BraddonFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Braddon ddedfrydu oes yn y carchar ar ôl llofruddio Conner Marshall yn 2015

  • Cyhoeddwyd

Mae mam dyn ifanc gafodd ei lofruddio dros ddegawd yn ôl yn dweud na fyddai hi fyth yn derbyn ymddiheuriad ganddo.

Cafodd David Braddon, 38, ddedfryd oes yn y carchar am ladd Conner Marshall, 18, mewn ymosodiad ym Mhorthcawl yn 2015.

Mae bellach wedi ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner ychwanegol dan glo am droseddu eto tra'i fod yn y carchar.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, ble roedd mam Mr Marshall yn bresennol, fe weiddodd Braddon o'r doc ei fod "yn sori, rydw i wir yn sori".

Nadine Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nadine Marshall ganiatad i ddarllen datganiad yn y dedfrydu ddydd Gwener

Yn gynharach eleni fe wnaeth Braddon gyfaddef iddo fod â ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar a'i fod wedi defnyddio'r ddyfais i roi cyfarwyddiadau i dri pherson ar sut i symud arian rhwng cyfrifon banc.

Y bobl hynny oedd ei fam Karen Graham, 57, ei gyn-bartner, Gemma Phillips, 41 a'r cyn-swyddog carchar Claire Jones, 38.

Clywodd y llys fod cyfanswm o dros £50,000 wedi cael ei symud mewn gwahanol daliadau.

Daeth y troseddu i'r amlwg pan dderbyniodd swyddog yng Ngharchar Parc neges yn gofyn iddo fynd i gyfarfod â charcharor penodol.

Gwrthod y cais wnaeth y swyddog dan sylw a chafodd y mater ei gyfeirio at awdurdodau'r carchar a'r heddlu.

Mam Conner Marshall 'wedi teimlo bob emosiwn'

Fe ddaeth Nadine Marshall, mam Conner, i wybod am droseddau diweddaraf Braddon drwy ddarllen erthygl ar y we.

Cafodd Ms Marshall ganiatâd i ddarllen datganiad dioddefwr gan y barnwr, er nad oedd hi'n ddioddefwr uniongyrchol yn yr achos dan sylw.

Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall yn 2015

"Roedd fy mol i'n troi a ro'n i'n teimlo'n sâl [pan welodd hi'r newyddion], yn gweld lluniau o fy mab wedi ei anafu yn fy mhen unwaith eto," meddai.

"Dwi'n meddwl fy mod i wedi teimlo bob emosiwn posib; sioc, gofid, pryder a dicter."

Mewn cyfweliad gyda'r BBC wedi'r gwrandawiad, dywedodd Ms Marshall nad oedd hi'n fodlon gyda dedfryd ychwanegol Braddon a bod yr achos wedi "creu mwy o gwestiynau yn hytrach nac atebion".

"Y ffaith bod David Braddon wedi cael cyfle i droseddu eto tra bod e yn y carchar, a'r ffaith bod e 'di cael cyfle i ennill lot o arian - mae'n hollol annerbyniol."

Yn y gwrandawiad fe weiddodd David Braddon o'r doc: "Dwi'n sori, rydw i wir yn sori. Mi ydw i."

Mynnodd Ms Marshall na fyddai hi fyth yn derbyn ei ymddiheuriad.

Cafodd Braddon ei ddedfrydu i dair blynedd a saith mis am fod a ffôn yn ei feddiant a'r defnydd o eiddo anghyfreithlon ac fe gadarnhaodd y barnwr y byddai'n cael ei ychwanegu at yr isafswm o 20 mlynedd yr oedd eisoes yn gorfod ei dreulio dan glo.

Cafodd Claire Jones a Gemma Griffiths eu dedfrydu i ddwy flynedd a naw mis o garchar tra bod Karen Graham wedi cael dedfryd o flwyddyn a chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig