A wes heddwch? Tafodiaith ardal Sir Benfro

Mari Grug a Hedydd Hughes
GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Eleni, â'r Eisteddfod yn ymestyn dros dair sir bydd amrywiaeth tafodiaith y Gymraeg i'w chlywed a'i gweld yn ei holl ysblander.

Mewn dwy raglen arbennig Crwydro'r Garreg Las ar BBC Radio Cymru cafodd Mari Grug sgwrs gyda Hedydd Hughes am dafodiaith ei hardal hi yn Sir Benfro a'r hyn y gallwn ni ddisgwyl ei glywed yn lleol dros wythnos y Brifwyl.

Dywedodd Hedydd sy'n dod o Gwm Abergwaun:

"Dw i wedi bod yn ymddiddori'n bersonol, dim wedi bod yn astudio yn ffurfiol na dim byd fel'na, ond wedi diddori trwy'n mywyd mewn tafodiaith ein hardal ni ac mae'n bert mae pobl yn gweud 'tha i. Mae'n werth ei gadw."

Roedd hi wedi synnu'n ddiweddar wrth glirio a chael gwared ar "hen ffrwcs" i ddod o hyd i hen nodiadau o'i hugeiniau am ei thafodiaith ei hun.

Beth yw tafodiaith?

"Yr hyn sydd wedi cael ei drosglwyddo i chi gan eich rhieni a'ch mamgu a'ch tadcu. Y geiriau unigryw.

"A dw i 'di sylweddoli, chi'n gwybod, pan briodes i, er mai dim ond 10 milltir oddi wrth fy nghartre i mae 'ngŵr i'n dwad, oedd tipyn o wahaniaeth yn yr eirfa oedd ei deulu fe'n defnyddio a oedd hi'n bleser i bigo lan geiriau newydd sy'n perthyn i'r tafodiaith oddi wrthyn nhw."

Creda Hedydd fod amrywiaeth tafodiaith yr ardal yn newid o fewn 10 milltir i'w gilydd.

"Dw i'n credu taw 10 milltir yw'r mesur. Chi'n newid ardal, chi'n newid tafodiaith. Chi'n dod ar draws geirie sydd wedi byw yn y tir, yn y patshyn hwnnw."

Pa eiriau gallwn ni ddisgwyl eu clywed yn yr ardal?

cynhennu – mynd i ffraeo neu gwympo mas e.e. "maen nhw'n mynd i gynhennu"

lagen – cariad, fel arfer yn fenywaidd e.e. "hon yw lagen newy' Edward"

shigwdad – ysgytwad e.e. "gas e shigwdad dda"

lletwart – llwy ddofn, neu ladle yn Saesneg

lwffian – bwyta yn awchus, e.e. "wedd e wedi lwffian ei fwyd"

lwtsien – rhywfaint o rywbeth gwlyb neu soeglyd, e.e. "wy'n hoffi lwtsien o lâth yn fy nhê"

weddol fach – wedi cael llond bol

gapo – dylyfu gên

fel pererin – yn dragwyddol neu rywun sydd yn araf, byth a hefyd yn dod

bwrw gole/trwstie – tywydd stormus

pentygili – mynd yr holl ffordd

rhoces – merch

crwt - bachgen

pobiade – amser estynedig, e.e. "Sai 'di gweld e ers pobiade." Mae'n deillio o'r amser pan oedd pobl yn pobi ond unwaith yr wythnos, ac felly byddai pobiade yn golygu pythefnos neu dair wythnos.

Mynd i'r coed ddoe...

Gwrandewch isod ar yr amrywiaeth ynganiad wrth symud o un pen o'r sir i'r llall.

Disgrifiad,

Dim ond cyffwrdd ar eiriau tafodiaith un sir o'r tair o fewn ardal y Garreg Las y mae Hedydd. Beth am rannu mwy gyda Cymru Fyw? Anfonwch eiriau eraill yr ardal aton ni i cymrufyw@bbc.co.uk

Mae pennod gyntaf Crwydro'r Garreg Las ar gael ar BBC Sounds gyda'r ail i ddod ar 2 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.