Clwb Pêl-droed Aberystwyth i gydweithio â chogydd seren Michelin

Y cogydd, Gareth Ward
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi chwarae ar Goedlen y Parc ger yr Afon Ystwyth ers 120 o flynyddoedd, ac mae'n fan bwysig i gymuned y dref.
Ond yn hytrach na'r byrgers, hotdogs a'r pei sydd ar gael yn y rhan fwyaf o stadiymau pêl-droed ledled Cymru, bydd arlwy dra gwahanol i'w gael yn Aberystwyth y tymor yma.
'Eithriadol o gyffrous'
Mae'r clwb wedi sefydlu partneriaeth gyda Gareth Ward, y cogydd adnabyddus o fwyty Ynyshir yn Eglwys Fach, rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.
Y disgwyliad yw y bydd Gareth Ward a'i dîm yn cydweithio gyda'r clwb i agor bwyty pop-up ar ddiwrnodau'r gêm, fydd yn brofiad gwahanol iawn i'r arfer i ffyddloniaid y clwb.
Dywedodd Gareth Ward: "Mae'n eithriadol o gyffrous i ddatblygu partneriaeth gyda Chlwb Pêl-droed Aberystwyth.
"Y clybiau 'ma ydy calon ein cymunedau ni, a dwi'n gweld cyfle yma i ddod â phobl at ei gilydd a chreu profiadau arbennig ar ddiwrnod gemau."

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn 1884, ac maent yn chwarae yng Nghoedlan y Parc ers 1907
Mae partner Gareth, Amelia Eiriksson, yn gyd-berchennog ar Ynyshir, ac fe ddywedodd:
"Gyda'n gilydd, ry'n ni am greu rhywbeth sy'n cyfuno pêl-droed, bwyd a chreadigrwydd mewn ffordd sy'n wirioneddol unigryw i Aberystwyth!"
Does dim manylion o'r fwydlen hyd yma, ond mae rhai sy'n ceisio dyfalu os fydd 'na ddylanwad bwydlen bwyty Ynyshir ar y bwyd fydd yn cael ei gynnig.

Mae gan Gareth Ward ddwy seren Michelin ers dechrau yn Ynyshir yn 2013 - un seren yn 2014, a'r ail yn 2022
Gethin ap Dafydd yw'r cyfarwyddwr masnachol gyda Chlwb Pêl-droed Aberystwyth:
"Bydd gweithio wrth ochr Gareth ac Amelia yn galluogi ni gynnig rhywbeth unigryw, ac arddangos Aberystwyth ar ei orau.
"Ry'n ni eisiau Coedlan y Parc fod yn fan mae pobl yn dod at ei gilydd i fwynhau pêl-droed, bwyd da, a chreu atgofion arbennig - a does 'na neb gwell i helpu ni gyflawni hynna na Gareth a thîm Ynyshir.
"Beth ni eisiau gwneud yw creu bach o destination. Mae 'na lot o Americanwyr yn dod yma, ac ymwelwyr o weddill y byd hefyd, i gael blasu bwyd Gareth. Felly, mae hwn yn gyfle i neud ein clwb yn lleoliad i'w fwynhau hefyd."
'£10 y pen'
Mae Gethin ap Dafydd yn dweud fod y clwb am gadw'r bwyd o fewn cyrraedd i'r cefnogwyr cyffredin a chadw'r costau i lawr.
"Mae lot o ofni wedi bod ynglŷn â phris y bwyd, ond ry'n ni wedi dweud mai £10 y pen yw'r cynllun, am mai 'bwyd pêl-droed' yw e fel petai.
"Mae Gareth yn gefnogwr Newcastle brwd, ac felly mae e'n dallt beth maen nhw yn chwilio amdano fel cefnogwyr.
"Mae e i weld rili eisie helpu'r clwb a chael ei enw allan yn y byd pêl-droed. Mae e wedi cael cynnig gweithio i Ipswich ond wedi gwrthod. Mae o wedi gwneud pop-ups o gwmpas Aber yn barod ac felly doedden ni ddim eisiau methu'r cyfle 'ma."

Mae Aberystwyth yn chwarae yn ail haen pêl-droed Cymru (Cynghrair y Cymru South), wedi i'r clwb ddisgyn o'r brif adran ar ddiwedd tymor 2024-25
Bydd lluniaeth Gareth a'i dîm i'w gael am y tro cyntaf ar Goedlan y Parc wrth i Aberystwyth herio Treowen ar 8 Awst, ac mae'n siŵr y bydd y cefnogwyr yn cael profiad tra gwahanol i'r arfer wrth lenwi'i boliau a mwynhau'r pêl-droed y tymor yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2023

- Cyhoeddwyd11 Chwefror

- Cyhoeddwyd14 Ionawr
