Amau bod dyn, 25, wedi marw o orddos cyffuriau yn ardal y Sioe Fawr - cwest

Roedd Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr yn 25 oed
- Cyhoeddwyd
Mae agoriad cwest wedi clywed bod dyn 25 oed a fu farw yn ardal y Sioe Fawr yn Llanelwedd, wedi marw o'r hyn sy'n cael ei amau o fod yn orddos (overdose) cyffuriau.
Cafodd Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen ei ganfod yn farw ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf - y penwythnos cyn i'r Sioe Fawr ddechrau.
Fore Gwener clywodd Llys Crwner Pontypridd bod ymchwiliad yr heddlu yn awgrymu bod ei farwolaeth yn "gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau".
Cafodd y dyn yn ei 20au, a gafodd ei eni yn Y Rhyl, ei adnabod yn ffurfiol gan ei dad.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal mewn ysbyty ym Merthyr Tudful a nododd y patholegydd bod achos dros dro y farwolaeth "yn gyson gyda gorddos o gyffuriau" ond bod canlyniadau tocsicoleg i ddod.
Fe wnaeth y Crwner Patricia Morgan ohirio'r cwest er mwyn i ymchwiliad yr heddlu barhau ac i brofion meddygol pellach gael eu cynnal.
Cydymdeimlodd hi â theulu a ffrindiau Mr Evans, gan ddweud y bydd cwest llawn yn cael ei gynnal ar ddyddiad yn y dyfodol.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud yn flaenorol fod person 25 oed wedi'i ganfod ym maes gwersylla Fferm Penmaenau a bod tri dyn wedi'u harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Evans ei fod yn "fab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus" a bod ei farwolaeth yn "golled enfawr i'r teulu a'r gymuned yn Uwchaled".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf
