Murlun newydd ym Mhontypridd i gofio Morfydd Llwyn Owen

- Cyhoeddwyd
Mae murlun newydd wedi ei greu ym Mhontypridd yn dathlu bywyd a gyrfa'r gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen.
Crëwyd y murlun gan artist stryd adnabyddus o Gymru, Tee2Sugars, ac mae i'w gweld ar Stryd Crossbrooke yn Chwarter Diwylliannol y dref.
Ganwyd Morfydd yn Nhrefforest yn 1891, ac er iddi farw'n ddynes ifanc fe chafodd yrfa arbennig fel cantores, pianydd a chyfansoddwraig.

Bu farw Morfydd Llwyn Owen yn 26 mlwydd oed yn Abertawe, ym mis Medi 1918
Cafodd y murlun ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn cais llwyddiannus gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac elw o gyfres o berfformiadau tair noson gan yr enillydd Grammy, Amy Wadge, fel rhan o raglen Gŵyl 2025.
Mae dadorchuddio'r murlun hefyd yn nodi lansio rhaglen Gŵyl Morfydd 2026, a fydd yn dod â chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer cyfres o berfformiadau a digwyddiadau yn dathlu cerddoriaeth a dylanwad Morfydd Owen, gydag Amy Wadge yn noddwr newydd.
Jessica Morgan a Caysha Frederick yw trefnwyr yr ŵyl, a dywedon nhw bod y ddelwedd ar y wal "yn ein hatgoffa o'i chyfraniad rhyfeddol i gerddoriaeth Cymru ac yn ysbrydoliaeth i'r gymuned."
'Ennyn chwilfrydedd'
Dywedodd Jesse Briton, Swyddog Celfyddydau Rhondda Cynon Taf: "Mae'r murlun hwn yn sicrhau bod stori Morfydd Owen yn weladwy yn y gymuned lle y dechreuodd.
"Gobeithiwn y bydd yn ennyn chwilfrydedd, yn annog pobl i ddarganfod ei cherddoriaeth ryfeddol ac yn atgoffa pobl ifanc y gall talent o'r radd flaenaf ddod o'n trefi a'n cymunedau."

Dechreuodd Morfydd Llwyn Owen astudio'r piano pan oedd yn 16 oed a chyfansoddi gyda David Evans.
Aeth i Ysgol Ganolradd Pontypridd cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ennill ysgoloriaeth gerddorol Caradog a graddio mewn cerddoriaeth yn 1912. Symudodd i Lundain i astudio dan Frederick Corder yn yr Academi Frenhinol gan ennill Ysgoloriaeth Goring Thomas.
Daeth Morfydd yn adnabyddus yn y byd celfyddydol yn Llundain, ac roedd ei chylch bohemaidd o ffrindiau yno'n cynnwys y llenorion D. H. Lawrence ac Ezra Pound, ac ambell berson o dramor fel y Tywysog Felix Yusupov o Rwsia, a chwaraeodd ran flaenllaw yn llofruddiaeth Rasputin.
Priododd Morfydd y seiciatrydd Ernest Jones - bywgraffydd swyddogol a chyfaill Sigmund Freud - ar 6 Chwefror, 1917.
Ond 18 mis yn ddiweddarach fe ddatblygodd Morfydd lid y pendics acíwt, ac yn dilyn llawdriniaeth yng nghartref teulu ei gwr yn Abertawe bu hi farw.
'Profiad hynod deimladwy'
Mae Dr Rhian Davies yn fywgraffydd o'r cyfansoddwr, ac wedi ymchwilio i'w bywyd ers degawdau: "Pan ddechreuais ymchwilio ym 1982, cefais y fraint o gyfweld â'r bobl olaf ym Mhontypridd a Threfforest a oedd yn cofio Morfydd Owen.
"Mae'r murlun yn seiliedig ar ffotograff a roddwyd i mi ar y pryd, ac mae wedi bod yn brofiad hynod deimladwy darllen yr holl sylwadau cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i drigolion heddiw ail-ddarganfod Morfydd fel un ohonyn nhw eu hunain."
Y gobaith yw y bydd y murlun yn dod yn rhan bwysig o dirlun tref Pontypridd, ac yn ddathliad o ddiwylliant a chreadigrwydd yr ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd7 Medi 2018

- Cyhoeddwyd29 Mawrth

- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2024
