Lluniau harddu bro Eisteddfod Y Garreg Las

Cwm GwaunFfynhonnell y llun, Enfys a Chris Howells
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Orsedd yn eu gwisgoedd cywir yn barod yng Nghwm Gwaun

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ardal bro Eisteddfod Y Garreg Las wedi bod yn brysur yn addurno eu milltir sgwar i estyn croeso cynnes i ymwelwyr o bell ac agos i faes y brifwyl yn Llantwd.

Dyma gip ar rai o'r golygfeydd y byddwch yn eu gweld ar y ffordd i'r maes ac wrth grwydro gogledd Sir Benfro a'r cyffiniau.

Ydy wir, mae ysbryd Rebeca'n fyw yn yr Efail Wen o hyd!Ffynhonnell y llun, Ceirios ac Anthony Jenner
Disgrifiad o’r llun,

Ydy wir, mae ysbryd Rebeca'n fyw yn yr Efail Wen o hyd!

Mae Deri a'i thad-cu wedi creu arwydd sy'n deyrnged i un o gewri'r ardal, sef y bardd Waldo Williams, tu allan i'w cartref, Rhosaeron yn Llandysilio. Dyma gyn gartref Waldo a 'Mewn Dau Gae' yw un o'i gerddi enwocaf. A choeliwch neu beidio... mae'r ddau gae a ysbrydolodd Waldo dros ffordd i Rosaeron!Ffynhonnell y llun, Emma Wright
Disgrifiad o’r llun,

Mae Deri a'i thad-cu wedi creu arwydd sy'n deyrnged i un o gewri'r ardal, sef y bardd Waldo Williams, tu allan i'w cartref, Rhosaeron yn Llandysilio.

Dyma gyn-gartref Waldo, a Mewn Dau Gae yw un o'i gerddi enwocaf. A choeliwch neu beidio... mae'r ddau gae a ysbrydolodd Waldo dros ffordd i Rosaeron!

Mae yna dderwyddon yn aros yn eiddgar am fws i'r maes yn Llantwd yn EglwyswrwFfynhonnell y llun, Sian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna dderwyddon yn aros yn eiddgar am fws i faes Llantwd yn Eglwyswrw

Mae plant Ysgol Beca, Efailwen wedi bod yn brysur yn creu trenau Y Cardi BachFfynhonnell y llun, Ceirios ac Anthony Jenner
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant Ysgol Beca, Efailwen wedi bod yn brysur yn creu trenau Y Cardi Bach

Esta, Teifi a'u mam sydd wedi creu'r arwydd yma yng Nghilrhedyn. Bydd y Welsh Whisperer wrth ei fodd!Ffynhonnell y llun, Shannon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Esta, Teifi a'u mam sydd wedi creu'r arwydd yma yng Nghilrhedyn. Bydd y Welsh Whisperer wrth ei fodd!

A wes heddwch yn Efailwen! Wes!Ffynhonnell y llun, Ceirios ac Anthony Jenner
Disgrifiad o’r llun,

A wes heddwch yn Efailwen? Wes!

Croeso cynnes ym Moncath
Disgrifiad o’r llun,

Croeso cynnes ym Moncath

Mae Poppy ac Ivy o Flaenffos wedi bod yn brysur iawn yn creu arwyddion croesoFfynhonnell y llun, Elaine Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Poppy ac Ivy o Flaenffos wedi bod yn brysur iawn yn creu arwyddion croeso

Bydd dim dianc rhag yr orsedd wythnos yr Eisteddfod... maen nhw wedi cyrraedd Crymych hefyd!
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dim dianc rhag yr Orsedd wythnos yr Eisteddfod... maen nhw wedi cyrraedd Crymych hefyd!

Tybed sawl bêl gwair wedi ei addurno fyddwch chi wedi cyfri' yn ystod yr wythnos?Ffynhonnell y llun, Rhunedd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tybed sawl bêl gwair wedi ei addurno fyddwch chi wedi cyfri' yn ystod yr wythnos?

Mae fferm blodau haul 1.5milltir o'r maes wedi bod yn brysur iawn wrth dorri gwair...edrychwch ar y ddraig yna!Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Sunflower Farm
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm blodau haul 1.5 milltir o'r maes wedi bod yn brysur iawn wrth dorri gwair... edrychwch ar y ddraig yna!

Mae aelodau'r orsedd yng nghymuned Maenclochog, gan gynnwys Yr Archdderwydd, yn llawn steilFfynhonnell y llun, Wendy Burge
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r Orsedd yng nghymuned Maenclochog, gan gynnwys Yr Archdderwydd, yn llawn steil

Mae cymuned Pantygrwndy wedi bod yn brysur iawnFfynhonnell y llun, Edwina Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae cymuned Pantygrwndy wedi bod yn brysur iawn

Mae yna groeso cynnes a lliwgar iawn yn Abergwaun i eisteddfodwyrFfynhonnell y llun, Sian Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna groeso cynnes a lliwgar iawn yn Abergwaun i Eisteddfodwyr

Beth am alw i Aberteifi i groesi'r bont enwog?Ffynhonnell y llun, Elaine Evans
Disgrifiad o’r llun,

Beth am alw yn Aberteifi i groesi'r bont enwog?

Mae plan bach cylch meithrin Hermon wedi bod wrth eu boddau'n peintio er mwyn croesawu eisteddodwyr hen ac ifanc i'w broFfynhonnell y llun, Cylch Meithrin Hermon
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant bach cylch meithrin Hermon wedi bod wrth eu boddau'n peintio er mwyn croesawu Eisteddfodwyr hen ac ifanc i'w bro

Mae merched Hwlffordd wedi bod yn brysur iawn yn crosio er mwyn addurno Hwlffordd dros y misoedd diwethafFfynhonnell y llun, Judith Roach
Disgrifiad o’r llun,

Mae merched Hwlffordd wedi bod yn brysur iawn yn crosio dros y misoedd diwethaf er mwyn addurno Hwlffordd

Os am hoe o'r maes beth am fynd draw i Gilgerran ac ymweld â'r castell?Ffynhonnell y llun, Rhian Green
Disgrifiad o’r llun,

Os am hoe o'r Maes beth am fynd draw i Gilgerran ac ymweld â'r castell?

Blwch post ArberthFfynhonnell y llun, Peter Spriggs
Disgrifiad o’r llun,

Beth am bostio cerdyn post o flwch post hardd Arberth?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.