Pwy sy'n cofio Regata Rhwyfo Gemau'r Gymanwlad ar Lyn Padarn, Llanberis?

Tîm wyth dyn Awstralia'n rhwyfo ar Lyn Padarn yn 1958
- Cyhoeddwyd
Mae Gemau'r Gymanwlad 2026 ymlaen ar hyn o bryd yn Glasgow, bron i ganrif wedi i athletwyr o 11 gwlad a thiriogaeth ymgynnull yn Hamilton, Canada, ar gyfer y carnifal chwaraeon ymerodraethol cyntaf.
Eleni fydd y 23ain tro i'r mabolgampau pedair-blynddol gael eu cynnal, a'r ail waith mewn ychydig dros ddegawd iddynt ymweld â dinas fwyaf yr Alban.
Dim ond ar un achlysur mae'r gemau wedi dod i Gymru, ac yn 1958 oedd hynny, pan gynhaliwyd y rhan fwyaf o'r cystadlaethau yng Nghaerdydd.

Y seremoni agoriadol ar Barc yr Arfau pan daeth Gemau'r Gymanwlad (neu Gemau'r Ymerodraeth fel oedden nhw'n cael eu hadnabod bryd hynny) i Gaerdydd yn 1958
Ychydig wythnosau ar ôl i bêl-droedwyr 'Gwlad y Gân' gyrraedd rownd gogynderfynol Cwpan y Byd yn Sweden, bu 962 o ddynion a 160 o ferched – yn cynrychioli 36 o dimau – yn ymryson am fedalau mewn naw camp wahanol (gan gynnwys bowlio lawnt, codi pwysau, seiclo ac reslo).
Parc yr Arfau – a'i eisteddle ddeheuol newydd, a adeiladwyd yn benodol ar gyfer yr achlysur – oedd canolbwynt y gemau: gorchuddiwyd y gylchffordd rasio milgwn oedd yn amgylchynu'r maes chwarae yno gyda thrac rhedeg lludw coch dros dro, er mwyn gallu defnyddio'r stadiwm fel lleoliad ar gyfer y cystadlaethau athletau, a thafliad carreg i ffwrdd, ar Stryd Wood, cyfleuster newydd sbon danlli oedd cartref y nofio a'r plymio.
Cyngor y brifddinas oedd yn gyfrifol am ariannu datblygiad Pwll y Gymanwlad a gwariwyd tua £700,000 i gael y ganolfan honno'n barod mewn pryd.

Yr hen Empire Pool yng Nghaerdydd. Cafodd ei adeiladu ar gyfer y gemau yn 1958, ac yna ei ddymchwel 40 o flynyddoedd yn ddiweddarach wrth i Stadiwm y Mileniwm gael ei adeiladu gerllaw
Ond er mai yng Nghaerdydd a'r cyffiniau yr hawliwyd y mwyafrif llethol o'r bron i 300 o fedalau oedd ar gael yn ystod gemau yn 1958, cynhaliwyd chwe chystadleuaeth 120 milltir i'r gogledd o Dde Morgannwg.
Y penderfyniad i ddewis Llyn Padarn, ger Llanberis, fel y lleoliad ar gyfer y rasys rhwyfo oedd wrth wraidd hynny, a dros gyfnod o dridiau bu 102 o gychwyr gwrywaidd yn ymryson â'i gilydd ar y dyfroedd wrth droed yr Wyddfa.
Cymerodd wyth tîm cenedlaethol – gan gynnwys Yr Alban, Awstralia, De Affrica, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Seland Newydd – ran yn y regata yn Nyffryn Peris ac roedd rhai ohonynt eisoes wedi bod yn ymarfer yno ers bron i bythefnos cyn dechrau'r cystadlu ar ddydd Sadwrn, 19 Gorffennaf.
Y fintai Seisnig gafodd y mwyaf o lwyddiant, gan sicrhau medal ym mhob ras a chipio'r brif wobr mewn tair ohonynt.
Cystadlaethau rhwyfo ar Lyn Padarn, 1958
(HAWLFRAINT: British Pathé)
Ar y llaw arall, dim ond un o'r cystadlaethau a gynhaliwyd ar lyn mwyaf Sir Gaernarfon oedd yn cynnwys cynrychiolwyr Cymreig.
Gorffennodd John Lawton Fage (o Aberdaron), David Prichard (o Lanelli) a'r brodyr David a John Edwards yn drydydd yn yr ymlid dyfrol ar gyfer pedwarau heb lywiwr, wedi iddynt gwblhau'r cwrs dwy filltir o hyd mewn chwe munud a 47.9 eiliad.
Yr enillwyr o Loegr a'r cwch Canadaidd groesodd y llinell derfyn o flaen y criw cartref, oedd i gyd hefyd wedi rhwyfo'n flaenorol dros Brifysgol Rhydychen.

Clawr y cylchgrawn 'Rowing' o 1958 yn dangos y tywydd garw ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth
Gwerthwyd cyfanswm o 178,000 o docynnau ar gyfer y gemau ac felly roeddent yn llwyddiant ariannol ysgubol, gan iddynt gynhyrchu elw o £37,000.
Ond mewn cyferbyniad â hynny, mae nifer o adroddiadau papur newydd o'r cyfnod yn awgrymu bod prisiau mynediad 'afresymol' o uchel wedi effeithio'n negyddol ar faint y torfeydd wnaeth fynychu'r regata ryngwladol yng nghysgod hen chwarel lechi Dinorwig.
Honnwyd mai dim ond ychydig dros 100 o bobl oedd yn y gynulleidfa yn ystod ail ddiwrnod y cystadlu a gresynodd y Birmingham Daily Post fod tocynnau eisteddle ar gyfer uchafbwynt y rasio – y prynhawn canlynol – yn costio £2, 17 swllt a 6 cheiniog yr un (sy'n gyfwerth ag o gwmpas £90 heddiw).
Ond er bod gwynt cryf yn rhuo dros y llyn ar ddydd Mawrth, 22 Gorffennaf, ymgasglodd tua 5,000 o wylwyr ar y lan ar gyfer y gyfres o ornestau terfynol.

Merched lleol, rhai mewn gwisgoedd Cymreig traddodiadol, yn cymysgu gyda thîm Canada ar lannau'r llyn
(Fe gafodd y llun yma, ac ambell un arall yn yr erthygl yma, ei dynnu gan y diweddar Victor Schweikert - aelod o'r tîm rhwyfo Awstralaidd oedd yn cystadlu yn y gemau)
Yn eu plith roedd Dug Caeredin – sef Llywydd Ffederasiwn Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad – oedd wedi hedfan draw o'r Fali, yn Ynys Môn, er mwyn mwynhau diwrnod olaf y cystadlu a chyflwyno medalau i'r rhwyfwyr llwyddiannus.
Yn ei ragolwg yn y Western Mail, roedd Goronwy Powell wedi darogan y byddai 'poblogaeth gyfan... [Llanberis], mwy neu lai' yn 'troi allan' i'w groesawu, a gwireddwyd hynny (i raddau) pan ymdyrrodd torf enfawr i ddisgwyl dyfodiad y gwestai brenhinol.
Yn wir, mae'n debyg bod yr haid eiddgar wedi 'dechrau bloeddio'n llawen a chanu caneuon cenedlaethol Cymreig', pan ymddangosodd hofrennydd y Tywysog Philip uwchben 'y dyffryn wrth Yr Wyddfa'.
Y Dug ei hun oedd wrth y llyw ac er gwaethaf gwyntoedd 'grym chwech', llwyddodd y peilot adnabyddus i lanio 'yn berffaith' ar lawnt breifat, tu ôl i westy ger Llyn Padarn, ble cafodd ei gyfarch gan Y Cyrnol William Wynne-Finch (sef Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon).

Dug Caeredin yn annerch y dorf ar bodiwm o flaen y llyn
Ychydig oriau'n ddiweddarach, serch hynny, arweiniodd hyrddiadau'r dymestl at 'gryn anhrefn' ar y dŵr: yn fuan wedi pedwar o'r gloch, dechreuodd yr ysgraffau – oedd yn dal llwyfan y beirniaid a'r cofnodwyr amser – suddo.
Llwyddodd rhai o'r 20 o swyddogion oedd ar fwrdd y strwythur gynyddol anwadal i ddianc drwy ddringo i lawr at y bompren dros dro – oedd wedi ei gosod i gysylltu'r cychod gwaelod gwastad â'r tir – tra daliodd eraill eu gafael wrth i fadau modur a chriw o Beirianwyr Brenhinol frysio i'w hachub.
Gyda'r esgynlawr bellach ar ongl o 45 gradd – ac un pen ohono yn prysur ddiflannu o dan wyneb y llyn – bu'n rhaid atal y rasio am bron i awr.

Baneri gwledydd y Gymanwlad yn hedfan a chwarel Dinorwig yn y cefndir
Ochr yn ochr â gwobr efydd y pedwarawd rhwyfo, hawliodd Cymru ddeg medal arall yn 1958.
Y paffiwr Howard Winstone oedd yr unig Gymro i gamu i frig y podiwm wedi iddo drechu Oliver Taylor o Awstralia yn rownd derfynol y bocsio pwysau bantam, ym Mhafiliwn Gerddi Soffia. Enwyd ef yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru, ychydig fisoedd yn ddiweddarach.
114 o athletwyr wnaeth gynrychioli Gwlad y Gân yng ngemau cartref 1958 a drwy gyd-ddigwyddiad, dyna yn union yw maint carfan Tîm Cymru eleni hefyd.
Ond nid oes unrhyw gychwyr yn y fintai Gymreig gyfredol, serch hynny, oherwydd nid yw rhwyfo wedi bod yn rhan o Gemau'r Gymanwlad ers 1986.
Ym Mharc Gwledig Ystrad Clud – tua 15 milltir o ganol Glasgow – y cynhaliwyd y rasys badau, bryd hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd15 Mehefin

- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
