Cofio Franco Baresi: Pan aeth arwr Yr Eidal ben-ben â Carl Roberts o'r BBC
Daeth y newyddion bod cyn-gapten AC Milan a'r Eidal, Franco Baresi, wedi marw yn 66 oed.
Cafodd ei ddisgrifio gan Diego Maradona fel "yr amddiffynnwr gorau i mi wynebu erioed".
Enillodd Baresi Cwpan y Byd 1982 gyda'r Eidal ac fe chwaraeodd ei yrfa gyfan gydag un clwb, AC Milan, gan wneud 719 ymddangosiad i'r Rossoneri rhwng 1977 a 1997.
Dim ond 5'9" o daldra oedd Baresi, sy'n gwneud yr hyn a gyflawnodd fel amddiffynnwr canol hyd yn oed yn fwy trawiadol, yn arwain tîm chwedlonol Milan yn yr 1980au a 1990au.
Ond ym mis Awst 2019 cafodd Baresi ornest tra gwahanol yng Nghaerdydd gan chwarae pêl-droed fwrdd yn erbyn gohebydd BBC Cymru, Carl Roberts.
Roedd Carl yn Stadiwm Principality gyda'r wasg cyn y gêm gyfeillgar rhwng AC Milan a Manchester United, ac fe fanteisiodd ar y cyfle i gael gêm fach gydag un o fawrion pêl-droed.
Mae Carl yn cofio'r diwrnod yn glir: "O'dd o'n brofiad swreal iawn weld i fod yng nghwmni Baresi - rhywun o'n i wedi bod yn gwylio ar y teledu pan yn blentyn.
"O'n i'n sefyll ar ochr y cae yn y Stadiwm Principality ac o'dd 'na fel bwrdd tenis 'dach chi'n chwarae pêl-droed arno – teqball di'r enw iawn am y gêm.
"Ac o'n i'n cael gêm gyda newyddiadurwr arall, pan ddaeth Franco Baresi allan o'r twnel a symud y newyddiadurwr arall o'r ffordd.
"Felly, dyna ble o'n i ar y cae yn y stadiwm yn chwarae teqball gyda Franco Baresi, un o anfarwolion y byd pêl-droed. Dim ond un pwynt nathon ni chwarae, a 'nes i ennill! Felly o'n i wrth fy modd!
"Es i draw at Franco, ysgwyd llaw a chael cwtch bach, ond gafon ni ddim fawr o sgwrs achos dwi ddim yn siarad Eidaleg, a doedd o ddim yn siarad Saesneg na Chymraeg... O'dd o'n brofiad anhygoel."