'Ni gyd wedi codi'n socs lan': Adfywiad sin gerddorol Aberteifi

- Cyhoeddwyd
Mae 'na rai lleoliadau sydd wedi gwneud mwy o sŵn nag eraill yn hanes pop Cymraeg. Efo grwpiau fel Ail Symudiad, Datblygu, Jess, Dom, Swci Boscawen - a label Fflach - mae ardal Aberteifi yn un o'r rheiny.
Ond roedd y dref wedi tawelu dros y blynyddoedd diwethaf tan i adfywiad ddod mewn pryd i'r Eisteddfod.
"Mae angen rhyw gatalyst i yrru pethau ymlaen," meddai Nico Dafydd, o label Fflach Cymunedol.
"Ar ddiwedd y 70au roedd Ail Symudiad wedi ffurfio fel rhyw outlier - y band cynta' Cymraeg o'r dref.
"A gan fod nhw wedi dechrau wnaeth bandiau eraill ffurfio. O gwmpas yr egni gwreiddiol mae rhywbeth yn ffurfio ac wedyn daeth y label Fflach."
Richard a Wyn Jones, y ddau frawd o Ail Symudiad, ddechreuodd y label recordiau yn y dref yn 1981. Ac wedi'r don gyntaf fe ddaeth 'na rai eraill.

Ail Symudiad yn eu gig cyntaf ym Mart Aberteifi
Ar ddechrau'r 1990au daeth bandiau fel Jess, Dom a Cerrig Melys i'r amlwg, a sefydlwyd Semtexx, is-label Fflach.
Yn y 2000au dechreuodd Rasp fel is-label gan ryddhau cerddoriaeth gan Swci Boscawen, Texas Radio Band, Mattoidz a Lowri Evans. Roedd record gyntaf y label - Rasp001 - gan artist o du allan i'r de orllewin, Yws Gwynedd a'i fand cyntaf, Yr Anhygoel.
Mae'r cyfnod yn agos at galon Nico.
"Roedd 'na ddegau o fandiau yn ffurfio," meddai. "Ro'n i'n yr ysgol uwchradd ac yn mynd i gigs bob penwythnos - dim jest yn Aberteifi ond yng Nghrymych, Llandysul, Caerfyrddin. Roedd 'na sin rili bywiog."
Ond ar ôl hynny, fe dawelodd pethau. Yna bum mlynedd yn ôl, o fewn ychydig wythnosau fe gollodd yr ardal dri o'u hartistiaid mwyaf arwyddocaol: David R. Edwards, a'r brodyr Richard a Wyn Jones.

Wyn Jones ar y chwith, gyda Richard, mewn sesiwn recordio i BBC Radio Cymru yn 2012
Gyda marwolaeth y brodyr, daeth ansicrwydd dros ddyfodol y label arloesol roedden nhw wedi ei greu a'i redeg ers pedwar degawd. Ond gyda chydweithrediad y teulu fe lansiwyd Fflach Cymunedol fel menter gydweithredol fis Rhagfyr 2024.
Yn ogystal â gwarchod treftadaeth gerddorol y dref a rhoi hwb i'r diwylliant Cymraeg, y bwriad oedd mynd nôl i wreiddiau'r label: meithrin talent ifanc newydd o'r ardal.
Meddai Nico Dafydd, sy'n arwain y label: "Pan nes i ddechrau doedd 'na ddim bandiau newydd ar y label. Os oedde ti'n 16 neu 17 oed fydde ti'm wedi gwybod be' oedd Fflach, ac os oedd yr heyday diwetha' yn 2005, ti'n rhy ifanc i gofio."

Meiddyn Ladd Lewis, Mefin Hughes a Sam Howell - Lafant
Un o'r rheiny ydi Mefin Hughes, sydd yn 21 oed, a bellach yn brif leisydd a gitarydd y band Lafant, a chyn hynny, Gelert.
Roedd o'n arfer mynd i wylio bandiau Cymraeg tu allan i'r ardal oherwydd diffyg gigs yn ei filltir sgwâr.
"O'n i'n teimlo braidd yn unig," meddai.
"Ro'n i'n gigo am tua dwy flynedd cyn i Fflach Cymunedol ddod rownd a ni oedd yr unig fand Cymraeg yn yr ardal. O'n i'n teimlo fel bod wal lan."
Ond gyda Fflach wedi ail-sefydlu ac yn cynnig cymorth a chyfle iddyn nhw recordio, mae'n teimlo bod y wal wedi dod lawr a'r sin wedi adfywio.
"100% - mae Fflach wedi trawsnewid y sin dros nos," meddai. "Nawr mae rhywle i ni fynd iddo i ddeud 'ma 'da ni'r caneuon yma sut allen ni gael nhw ar ddisg neu i'r byd - a ma' nhw'n helpu ni.
"Ma'n neis nawr hefyd bod 'na gigiau'n digwydd yma yn weddol aml nawr.
"Ma'n bwysig pan chi'n gweld yng Nghaerfyrddin yr effaith mae un band fel Adwaith wedi cael ar y dref."
Mae gigs nawr yn cael eu cynnal yng Nghastell Aberteifi, Theatr Mwldan, Pizzatipi, yn ogystal â'r Seler, sydd wrthi ers blynyddoedd. Ers 2019 mae Gŵyl Lleisiau Eraill hefyd wedi rhoi hwb.

Dewin - fydd yn perfformio mewn sawl lleoliad yn ystod Eisteddfod y Garreg Las 2026
A tydi Lafant ddim ar ben eu hunain bellach gyda sawl band newydd yn yr ardal - gan gynnwys Chwaer, Pwrs a Dewin.
Jencyn Corp a Lefi Dafydd sydd tu cefn i'r prosiect cerddorol a byd dychmygol y band Dewin.
Roedd y ddau gerddor wedi cyd-chwarae sawl gwaith, o ennill ar y ddeuawd piano yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 2024 i grŵp gwerin mewn twmpath, cyn cael cyfle i arbrofi gan Fflach Cymunedol a chreu Dewin.
"Mae jyst yn teimlo fel bod yna fywyd cerddorol newydd yn y dref," meddai Lefi. "Roedd angen yr adfywiad bron i ffeindio'r bobl newydd yma."
Gyda'r Steddfod ar ei ffordd, bydd cyfle i bobl o bob cwr o Gymru ddarganfod y talent oherwydd fod gan Dewin - fel Lafant - wythnos brysur iawn o'u blaenau yn perfformio mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Maes B, Llwyfan y Maes a Chaffi Maes B.
"Mae'n gyffrous," meddai Jencyn. "Hwn yw dim ond yr ail Steddfod fi wedi bod rhan ohono. Sa i 'di mynd i lawer o Steddfodau cyn hynny. A so i rioed wedi bod i Maes B."

Segurdod a Dan y Dderwen - dau albwm newydd o ardal Aberteifi
Ond nid cyd-ddigwyddiad ydi'r ffaith bod y sin yn Aberteifi wedi blaguro mewn pryd i'r brifwyl yn ôl Lefi: "Falle bod y Steddfod wedi gweithio fel rhyw fath o gatalydd i deimlo bod angen i ni weithio ac adnewyddu ar ei gyfer.
"Ni'n cyflwyno gogledd Sir Benfro ac Aberteifi i weddill Cymru ac mae'r ffaith bod yr Eisteddfod mor genedlaethol a mor bwysig wedi gwneud i ni gyd i godi'n socs lan."
Mae Nico Dafydd yn cytuno gan fod angen mwy na chreu cerddoriaeth i gael sin llwyddiannus. Mae o wedi cyd-weithio gyda trefnwyr yr Eisteddfod ers sbel er mwyn i'r ardal elwa tu hwnt i wythnos cyntaf Awst.
Meddai: "Fydd y gwaddol yn rili mawr i ni mewn sawl ffordd oherwydd y gwaith ni wedi gorfod gwneud yn barod i baratoi. Roedd e'n rhywbeth da i anelu ato. Yn gwybod bod yr Eisteddfod yn dod yma roedd rhaid i ni feddwl 'reit - be' ni angen gwneud?'.
"Felly ni wedi bod yn datblygu'r isadeiledd a gwneud pethau penodol i fod yn barod.
"Ac efo'r grwpiau roedd Dewin a Lafant eisiau rhyddhau albyms a theithio'r rheiny a ma'r ffaith bod y Steddfod dod yma wedi annog ni i bwshio'r bandiau i'w wneud e'n Steddfod nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
