Rees-Zammit i gychwyn ar yr asgell wrth i Gymru wynebu Fiji

Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd Louis Rees-Zammit yn cychwyn fel asgellwr yn hytrach na chefnwr ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Fiji ddydd Sadwrn.

Dyma'r gêm agoriadol i'r crysau cochion ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd a fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe wnaeth Reez-Zammit gychwyn y pum gêm yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fel cefnwr, ond y tro hwn bydd yn cychwyn yn ei hoff safle.

Mae prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi gwneud chwe newid i'r tîm a drechodd y Barbariaid o 33-31.

Mae Rees-Zammit, Tomos Williams, Rhys Carre ac Adam Beard yn dychwelyd ar ôl peidio bod ar gael i chwarae yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r ddau o Gaerdydd, Josh Adams a Alex Mann hefyd yn dychwelyd, tra bod Taine Plumtree yn cael ei ddisodli i fod ar y fainc.

Fe allai'r prop Ben Warren - sy'n chwarae i'r Gweilch - ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.

Anghydfod arall

Daw'r cyhoeddiad ar gyfer y tÎm fydd yn cychwyn ddiwrnod wedi ffrae rhwng chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru am faint o dâl maen nhw'n ei dderbyn am gynrychioli eu gwlad.

Bu trafodaethau rhwng y corff llywodraethol a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ynghylch "telerau cyflogaeth", ac fe wnaethon nhw ddod i gytundeb yn hwyr brynhawn Mercher er mwyn sicrhau bod modd i'r gêm yn erbyn Fiji fynd yn ei blaen.

Roedd disgwyl i garfan Cymru gynnal cynhadledd i'r wasg am 14:10 ddydd Mercher ac roedd disgwyl i ddau chwaraewr siarad yn y gynhadledd.

Ond yn dilyn oedi o dros awr, fe wnaeth y garfan benderfynu peidio â chynnal y gynhadledd oherwydd yr anghydfod gydag URC.

O ganlyniad, bu'n rhaid gohirio'r gynhadledd i'r wasg yn ogystal â chyfweliadau gyda S4C.

Cafodd trafodaethau pellach eu cynnal, cyn dod i gytundeb ychydig cyn 17:00 nos Fercher.

Y tÎm yn llawn

Murray; Rees-Zammit, James, Hawkins, Adams; Edwards, Tomos Williams; Carre, Lake (capten), Lewis, Carter, Beard, Mann, Morgan, Wainwright.

Eilyddion: Elias, Smith, Warren, Plumtree, Botham, Hardy, Costelow, Mee.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.