Ffrae am dâl rhwng chwaraewyr rygbi Cymru a'r undeb cyn gemau'r haf

- Cyhoeddwyd
Mae ffrae rhwng chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru am faint o dâl maen nhw'n ei dderbyn am gynrychioli eu gwlad wedi amharu ar baratoadau'r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
Bydd y crysau cochion yn wynebu Fiji, Yr Ariannin a De Affrica yn yr wythnosau nesaf.
Bu trafodaethau rhwng y corff llywodraethol a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ynghylch "telerau cyflogaeth", ac fe wnaethon nhw ddod i gytundeb yn hwyr brynhawn Mercher er mwyn sicrhau bod modd i'r gêm yn erbyn Fiji fynd yn ei blaen.
Roedd disgwyl i garfan Cymru gynnal cynhadledd i'r wasg am 14:10 ddydd Mercher ac roedd disgwyl i ddau chwaraewr siarad yn y gynhadledd.
Ond yn dilyn oedi o dros awr, fe wnaeth y garfan benderfynu peidio â chynnal y gynhadledd oherwydd yr anghydfod gydag URC.
O ganlyniad, bu'n rhaid gohirio'r gynhadledd i'r wasg yn ogystal â chyfweliadau gyda S4C.
Cafodd trafodaethau pellach eu cynnal, cyn dod i gytundeb ychydig cyn 17:00.
Y Gweilch yn arwyddo cytundeb newydd gydag URC hyd at 2028
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
URC am orfod cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Trafodaethau URC a pherchnogion y Gweilch i brynu Caerdydd wedi dymchwel
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Dyma broblem arall i ychwanegu at y rhestr o heriau sydd wedi wynebu'r chwaraewyr a'r undeb.
Roedd y garfan yn agos at streicio ar noson y gêm gartref yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2023.
Mae cyfnod Steve Tandy wrth y llyw hefyd wedi cael ei effeithio gan ansicrwydd oherwydd cynnig URC i leihau nifer rhanbarthau proffesiynol y dynion o bedwar i dri - cynllun maen nhw'n bwriadu ei weithredu erbyn 2028.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.