Torri cyflogau staff Coleg Llanymddyfri wedi rhybuddion ei fod 'ar fin cau'

Cae rygbi Coleg Llanymddyfri
  • Cyhoeddwyd

Mae staff yn un o golegau rygbi mwyaf y DU wedi derbyn toriadau cyflog ar ôl rhybuddion fod y coleg "ar fin cau" oherwydd pwysau ariannol.

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Coleg Llanymddyfri fod newidiadau polisi, gan gynnwys TAW ar ffioedd ysgolion annibynnol, wedi gadael dyfodol yr ysgol yn ansicr.

Mae'r coleg yn adnabyddus ym myd rygbi gyda nifer o sêr y gamp yn gyn-ddisgyblion - yn eu plith mae Alun Wyn Jones a George North.

Bu'r athrylith rygbi, Carwyn James, hefyd yn athro a hyfforddwr rygbi yno.

Dywedodd Simon Woodhead fod y newidiadau hyn wedi arwain at ddiffyg o £1m a gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio yn y coleg, ond cadarnhaodd y byddai'n aros ar agor ym mis Medi.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Pyst ar gae rygbi Coleg Llanymddyfri

Mewn llythyr at rieni, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, dywedodd Mr Woodhead y byddai'r coleg yn wynebu ailstrwythuro ariannol dros yr haf.

Bydd staff yn cymryd toriadau cyflog dros dro ac yn gadael Cynllun Pensiwn yr Athrawon yn wirfoddol, meddai, a bydd ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn cael eu torri'n ôl.

Er bod cefnogaeth ariannol leol wedi diogelu dyfodol tymor byr yr ysgol, dywedodd fod hynny'n "annigonol i sicrhau'r dyfodol yn y tymor hir".

"Y newidiadau hyn yw'r hyn sydd ei angen arnom i roi dyfodol i'r coleg," meddai Mr Woodhead, "dros amser, byddant yn gwella'r sefyllfa ariannol ac yn sicrhau nad yw ffioedd yn codi cymaint â ffioedd colegau eraill yn gyffredinol."

Mae cynnydd yn y ffioedd yn golygu bod nifer y disgyblion wedi gostwng o 265 i 211 a 175 sydd hyd yn hyn ar y gofrestr ar gyfer mis Medi.

O ganlyniad mae gan y coleg ddiffyg o £1m ac mae wedi bod yn chwilio am gyllid allanol.

Arwydd wrth gyrraedd Llanymddyfri
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r dref yn amgylchynu'r coleg - dyma galon y dref," meddai'r Maer

Er bod addysg yn faes sydd wedi'i ddatganoli yng Nghymru, dywedodd Mr Woodhead mewn llythyr at ysgrifennydd addysg llywodraeth y DU fis diwethaf nad ydy'r "cynnydd mewn costau a'r refeniw coll sydd wedi arwain yr ysgol hon at bron orfod cau yn faterion datganoledig".

Ychwanegodd fod cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraddau busnes yn ffactorau eraill sydd wedi cynyddu costau.

Dywedodd maer y dref, y Cynghorydd Handel Davies, fod y pwysau sy'n wynebu'r coleg yn codi "pryderon enfawr" i'r dref.

"Mae'n sefyllfa drist iawn. Byddai'n cael effaith ddinistriol ar y dref a'i busnesau pe bai'n cau," meddai.

"Mae'r dref yn amgylchynu'r coleg - dyma galon y dref."

Fel llywydd Clwb Rygbi Llanymddyfri, dywedodd ei fod yn poeni am ddyfodol rygbi hefyd, yn y dref sy'n cael ei chydnabod fel un o fannau geni'r gêm.

Dywedodd yr AS Plaid Cymru lleol, Ann Davies, ei bod hi'n "drist" o glywed am drafferthion y coleg.

"Ers cenedlaethau, mae'r Coleg wedi bod yn rhan bwysig o wead ein cymuned leol, gan addysgu pobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn ogystal â chyflogi cannoedd o bobl leol," meddai.

"Mae ei gyfraniad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth."

'Hynod falch o'r ymrwymiad, yr ymroddiad a'r haelioni' gan staff

Dywedodd llefarydd ar ran y coleg: "Yn dilyn trafodaethau diweddar rhwng Cadeirydd y Llywodraethwyr a staff ynghylch yr heriau y mae'r Coleg wedi'i wynebu yn ystod y misoedd diwethaf, mae cydweithwyr ar draws yr ysgol wedi gweithio ar y cyd i sefydlu cynllun cymorth a gynlluniwyd i helpu i ddiogelu dyfodol y Coleg a sicrhau bod cenedlaethau o ddisgyblion yn parhau i elwa o'r addysg a'r cyfleoedd y mae'n eu darparu.

"Mae'r Coleg yn hynod falch o'r ymrwymiad, yr ymroddiad a'r haelioni a ddangoswyd gan ei staff."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig