Dychwelyd llyfr i Lyfrgell Llanrwst ar ôl dros ganrif yn 'sioc hyfryd'

Mae Peter O'Sullivan wedi dychwelyd llyfrau ei daid, ar ôl canrif a mwy
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi dychwelyd llyfrau llyfrgell ei ddiweddar daid - 116 mlynedd yn hwyr.
Fe wnaeth taid Peter O'Sullivan, Walter Griffith Owen, fenthyg Paradise Lost gan Milton a King Lear gan Shakespeare, yn 1910.
Mae'n nodi ar dudalen flaen y llyfrau eu bod wedi dod o hen lyfrgell yn Llanrwst ac wedi'u "benthyg am un wythnos".
Dywedodd Peter ei fod yn poeni'n wreiddiol y byddai o bosib yn derbyn dirwy, gan fod y llyfrau wedi bod allan ar fenthyg am dros 6,000 o wythnosau.
Ar y nodyn mae'n dweud - os byddai angen llyfr am ail wythnos - y "dylid gwneud cais i'r gofalwr" a bod ffi o un geiniog yr wythnos.
Dywedodd rheolwr Llyfrgell Llanrwst fod y cyfan yn "sioc fawr ac yn hyfryd".

Dywedodd Peter wrth chwerthin, ei fod wedi gweithio allan mewn hen geiniogau, bod ei ddyled i'r llyfrgell yn "ychydig gannoedd o bunnoedd".
"Ond ro'n i wedi anghofio ychwanegu'r compound interest, felly bysa fo wedi gallu bod yn filoedd!
"O'n i'n falch o'u dychwelyd achos dyna oedd y peth iawn i'w wneud," ychwanegodd.
Canfod y llyfrau yn nhŷ ei fam yn Llandrillo-yn-rhos, sir Conwy wnaeth Peter.
Roedd ei daid yn byw a gweithio yno fel rheolwr siop esgidiau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf - lle bu'n gwasanaethu cyn cael ei anafu.
Yn wreiddiol, fe gafodd y llyfrau eu rhoi i'r hen lyfrgell yn y 1890au gan ddiwydiannwr o Loegr, Benjamin Armitage.
'Sioc fawr' i'r llyfrgell
Diolchodd rheolwr Llyfrgell Llanrwst, Seren Medi Ashton, i Peter am ddychwelyd yr hen lyfrau, gan ddweud ei fod yn "sioc fawr ac yn hyfryd".
"'Sa rhywun arall yn clirio tŷ wedi gallu taflu nhw yn hawdd," meddai.
"O'dd o'n annwyl iawn yn dod â nhw i'r llyfrgell, a'r ffaith bod o mor glên yn rhannu hanes ei deulu o yn Llanrwst - straeon, coeden deulu ac yn y blaen."

Dywedodd Seren Medi Ashton (dde) eu bod, fel llyfrgell, yn "falch" o dderbyn y llyfrau gan Peter
Roedd rhywfaint o ddirgelwch ynghylch yr adeilad penodol lle y cafodd y llyfrau eu benthyg, felly aeth y llyfrgell at Archifdy Conwy i drio cael atebion.
"Daethon nhw o hyd i 10 lleoliad gwahanol yn y cyfnod a 'dan ni'n meddwl mai yn hen adeilad y farchnad ar y sgwâr oedden nhw.
"O'dd 'na lyfrgell a darllenfa yn fan'no yn y cyfnod."
Ychwanegodd Ms Ashton eu bod, fel llyfrgell, yn "falch" o gael y llyfrau, a'u bod yn gobeithio eu cynnwys fel rhan o arddangosfeydd gan fod "stori ddiddorol iddyn nhw".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst

- Cyhoeddwyd29 Medi 2024

- Cyhoeddwyd5 Mawrth
