Tystiolaeth newydd am fywyd 'arwr coll' dosbarth gweithiol Cymru

Daeth wythnosau o ralïau a phrotestiadau i benllanw ym Merthyr Tudful ym Mehefin 1831Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Daeth wythnosau o ralïau a phrotestiadau i benllanw ym Merthyr Tudful ym Mehefin 1831

  • Cyhoeddwyd

Mae tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg am fywyd dyn a gafodd ei alltudio i Awstralia am arwain gwrthryfel gweithwyr yn ne Cymru bron i 200 mlynedd yn ôl.

Mae Lewis Lewis - neu Lewsyn yr Heliwr - wedi cael ei ddisgrifio fel "arwr" am ei rôl yng Ngwrthryfel Merthyr yn 1831, ble bu gweithwyr yn protestio yn erbyn cyflogau isel.

Cafodd un glöwr, Dic Penderyn, ei ddienyddio yn dilyn honiad ei fod wedi trywanu milwr.

Ond ychydig iawn oedd yn hysbys am fywyd Lewsyn wedi hynny, tan i ddogfen oedd wedi'i rhoi yn y lle anghywir gael ei darganfod yn ddiweddar.

Rhodri Johns, sydd o Gwmbrân yn wreiddiol ond wedi byw yn Awstralia ers 30 mlynedd, wnaeth y darganfyddiad gyda help Amgueddfa Kempsey yn New South Wales.

Dywedodd Johns bod yr hyn y daeth o hyd iddo yn "gwbl annisgwyl".

Mae dogfennau'n dangos bod Lewis Lewis wedi marw gyda thua £13 yn ei enwFfynhonnell y llun, Rhodri Johns
Disgrifiad o’r llun,

Mae dogfennau'n dangos bod Lewis Lewis wedi marw gyda thua £13 yn ei enw

"Ry'n ni'n weddol hyderus o ble bu farw [Lewsyn] yn Kempsey a'i fod wedi cael angladd," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod hynny o'i ddogfennau, ac ry'n ni'n credu y bu yn y fynwent leol yn fanno."

Y gred yw bod dogfen oedd yn nodi marwolaeth heb ewyllys wedi cael ei ffeilio mewn camgymeriad dan enw 'John' - enw'r cwch y daeth Lewsyn i Awstralia arni gyda throseddwyr eraill yn 1832.

Mae'r ddogfen yn rhoi mwy o wybodaeth am ei waith pan ddaeth yn ddyn rhydd, a hynny fel labrwr fferm i berchnogion tir yng nghwm Afon Macleay yn nwyrain Awstralia.

Mae Rhodri Johns, sy'n byw yn Adelaide ers 30 mlyedd, wedi bod yn ymchwilio i hanes Lewis Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Johns, sy'n byw yn Adelaide ers 30 mlyedd, wedi bod yn ymchwilio i hanes Lewis Lewis

Pan fu farw, roedd gan Lewsyn tua £13 i'w enw, yn ôl y dogfennau.

"Roedd ganddo ychydig o arian arno fe, ac roedd ganddo ddyledion lawr y dyffryn ble roedd e 'di bod yn gweithio," meddai Rhodri Johns.

"'Na'r ffordd oedd e'n gweithio - byddech chi'n mynd i ddyled ac yn creu nodyn addewid, ac wedyn byddech chi'n talu'r unigolion yn ôl.

"Felly yn economaidd roedd e fwy na thebyg mewn lle go lew. Doedd ganddo ddim lot o arian, ond digon i awgrymu ei fod wedi bod yn gweithio."

Bu farw Lewis Lewis yn Kempsey heb ei deuluFfynhonnell y llun, Rhodri Johns
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lewis Lewis yn Kempsey heb ei deulu

Fe wnaeth Lewsyn gais i'w wraig a'i bedwar o blant i ymuno ag ef yn Awstralia, ac mae'r dogfennau newydd yn dangos bod hyn wedi cael ei gymeradwyo gan awdurdodau Prydeinig yn New South Wales.

Ond roedd Lewsyn ar ei ben ei hun pan fu farw, a does dim tystiolaeth o beth ddigwyddodd i'r cais hwnnw.

"Mae'n rhaid bod e wedi mwynhau gweithio yno, ac yn gweld y lle fel cartref am weddill ei oes, ac roedd e eisiau i'w deulu ddod mas i fyw gyda fe," meddai Johns.

Beth oedd Gwrthryfel Merthyr?

Wedi wythnosau o ralïau a phrotestiadau gan lowyr a gweithwyr haearn yn erbyn cyflogau isel ac amodau gwaith sâl, daeth y cyfan i benllanw mewn golygfeydd treisgar yng nghanol Merthyr Tudful ym Mehefin 1831.

Gorymdeithiodd miloedd o weithwyr i'r Castle Inn ar 2 Mehefin, ble mae sôn y cafodd darn o ddefnydd gwyn ei drochi mewn gwaed buwch a'i godi fel baner dros y dorf fel symbol bod y dosbarth gweithiol wedi cael digon.

Y tu mewn i'r adeilad roedd cyflogwyr ac ynadon lleol yn cwrdd.

Fe wnaeth milwyr gasglu y tu allan, a dechreuon nhw saethu i mewn i'r dorf wrth i'r tensiynau gynyddu.

Safle'r hen westy'r Castell yng nghanol Merthyr
Disgrifiad o’r llun,

Safle'r hen westy'r Castell yng nghanol Merthyr

Ag yntau'n weithiwr uchel ei barch, fe wnaeth Lewis Lewis alw ar y dorf i wthio ymlaen a chymryd arfau'r milwyr.

Cafodd nifer o'r gwrthryfelwyr eu harestio a'u cyhuddo - yn eu plith, dyn ifanc o'r enw Richard Lewis, oedd yn cael ei adnabod fel Dic Penderyn.

Fe gafodd ei ddedfrydu i farwolaeth trwy grogi yn dilyn honiad ei fod wedi trywanu milwr o'r enw Donald Black yn ei goes.

Yn ddiweddarach, wrth iddo sefyll ar y grocbren yng Ngharchar Caerdydd, roedd sôn ei fod wedi gweiddi "anghyfiawnder" cyn cael ei ddienyddio.

Disgrifiodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams y gwrthryfel fel deffroad i ddosbarth gweithiol Cymru.

'Arwr coll' dosbarth gweithiol Cymru

Mae Rhodri Johns yn credu bod y ffaith fod Lewsyn wedi cael angladd yn dangos ei fod yn ffigwr oedd yn cael ei barchu.

Mae'r dogfennau'n dweud iddo farw'n "sydyn" yn 1847 tra'n gweithio i Charles Steele - perchennog tir yng nghwm Afon Macleay.

"O ystyried, fe wnaeth e'n dda iawn, ond dy'ch chi methu helpu teimlo ychydig yn drist," meddai Johns.

"Pan y'ch chi'n edrych ar ei hanes ym Merthyr, roedd e'n ffigwr poblogaidd, carismataidd.

"Roedd e eisiau gorffen ei fywyd gyda'i deulu, ond gafodd e fyth y cyfle."

Mae Johns yn gobeithio codi arian i osod cofeb i Lewis Lewis yn Kempsey erbyn 2031 - 200 mlynedd ers y gwrthryfel.

Dywedodd yr hanesydd Elin Jones y byddai'n "wych" cofio ac anrhydeddu Lewsyn - "arwr coll" dosbarth gweithiol Cymru yn y cyfnod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig