Cynghrair y Cenhedloedd: Portiwgal 1-0 Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi colli eu gêm gyntaf yn eu hymgyrch newydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Portiwgal.
1-0 oedd y sgôr terfynol, gyda João Félix yn sgorio'r unig gôl i Bortiwgal yn Estádio José Alvalade yn Lisbon nos Iau.
Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yng ngrŵp 4, gyda Phortiwgal, Denmarc a Norwy.
Bydd Cymru'n wynebu Denmarc oddi cartref yng ngêm nesaf yr ymgyrch, ddydd Sul.

Dyma'r pumed gêm heb fuddugoliaeth i dîm Craig Bellamy ers iddyn nhw guro Gogledd Macedonia 7-1 nôl ym mis Tachwedd 2025.
Dyma hefyd yw'r tro cyntaf i Gymru chwarae yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ers 2022.
Ar y cae mae'n gyfle i brofi eu hunain yn erbyn rhai o dimau gorau Ewrop, ac oddi ar y cae mi fydd y gymdeithas yn elwa'n ariannol.
Ond y broblem o chwarae ar y lefel yma yw ei bod hi'n anoddach ennill gemau - ac anoddach byth heb Harry Wilson, Nathan Broadhead a Karl Darlow yn y garfan.
Er hynny, fe wnaeth Cymru ddechrau'n gadarnhaol - yn cael cyfnodau da o feddiant gyda Lewis Koumas yn achosi helynt ar flaen yr ymosod.

Daeth gôl gyntaf y gêm ar ôl 22 munud gydag ergyd isel o bellter gan João Félix
Fel y disgwyl, daeth cyfleoedd i Bortiwgal cyn hir, gan gynnwys ergydion gan Cristiano Ronaldo, ond roedd Cymru'n amddiffyn yn dda ac yn sydyn i gau'r bylchau yn eu hanner eu hunain.
Er gwaethaf y gwaith da gan Gymru, daeth gôl gyntaf y gêm ar ôl 22 munud gydag ergyd isel o bellter gan João Félix a fownsiodd i gornel y gôl .
Mi fydd Danny Ward yn siomedig i ildio gôl o'r fath er y gwyriad oddi ar Ben Davies, ond roedd yr amddiffyn yn araf i gau'r bylchau hefyd.
Roedd gweddill yr hanner yn ddigon cyfforddus i Bortiwgal - yn mwynhau'r rhan fwyaf o'r meddiant hyd at yr egwyl.
Ond er gwaethaf goruchafiaeth y gwrthwynebwyr, aeth Cymru i'r egwyl yn dilyn o un gôl yn unig.

Cafodd Gymru ddihangfa ar ddechrau'r ail hanner wedi cyfleoedd da i Félix ac wedyn Ronaldo a roddodd y bêl drosodd ychydig droedfeddi o'r gôl.
Yn ddwfn yn hanner eu hunain am y cyfnod a ddilynodd, roedd Cymru dan bwysau gyda Phortiwgal yn anfon nifer o groesiadau at ganol y cwrt cosbi.
Ar ôl 58 munud, roedd Ronaldo yn meddwl ei fod wedi sgorio ail gôl y gêm ond roedd Ben Davies wedi dal ei dir yn dda i sicrhau fod y blaenwr 41 oed yn camsefyll.
Daeth newid cyntaf Cymru o'r gêm wedi'r awr, gyda Dan James yn cymryd lle David Brooks ar yr asgell dde.
Gydag ychydig dros chwarter awr yn weddill, cafodd Cymru eu cyfnod gorau o'r gêm.
Fe wnaeth croesiad gan Brennan Johnson yn y cwrt cosbi daro'r bar i lanio yn llwybr Koumas ond iddo a James fynd ar draws ei gilydd o flaen gôl agored.
Daeth Kieffer Moore a Sorba Thomas ar am Koumas a Jordan James am y 10 munud olaf.
Roedd yn ddiwedd cystadleuol i'r gêm a orffennodd gyda cholled i Gymru, ond ar nodyn cadarnhaol yn erbyn un o dimau rhyngwladol gorau'r byd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
