'Nes i bron â cholli fy nghoes – nawr fi'n rhedeg hanner marathon'

Sam, Kiera a Louis, rhedwyr yn Hanner Marathon Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Sam, Kiera a Louis - rhai o redwyr Hanner Marathon Caerdydd fydd yn codi arian i elusennau sy'n agos at eu calonnau

GanIolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ymhlith y 30,000 o bobl fydd yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, mae gan sawl un stori am godi arian at achosion sy'n agos iawn at eu calonnau.

Mae un yn ddiolchgar i allu rhedeg lai na blwyddyn ers llawdriniaeth agored ar y galon, un arall yn awyddus i godi arian i'r ysbyty achubodd ei choes pan oedd ganddi ganser.

Ac i un tad, gweld gwên ei ferch fach wrth groesi'r llinell derfyn yw'r cymhelliad.

"Fi ddim yn poeni amdana i, fi jest isie gwneud y teulu yn prowd," meddai Sam Jordan, 31, o Cross Hands, fydd yn rhedeg dros elusen Tŷ Hafan.

"Roedd rhaid i fi ddysgu i gerdded eto ddwywaith," ychwanegodd Kiera Hodges, 21, o Gasnewydd. "Felly mae jest gallu rhedeg yn llwyddiant i fi yn barod."

Kiera yn Ysbyty Arch NoaFfynhonnell y llun, Kiera Hodges
Disgrifiad o’r llun,

Bu bron i Kiera Hodges golli ei choes ddwywaith oherwydd haint, tra'i bod hi'n derbyn triniaeth am lewcemia yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd

Mae Kiera yn un o nifer o redwyr sy'n cymryd rhan eleni ar ôl profi heriau personol – yn ei hachos hi, diagnosis o lewcemia lymffoblastig acíwt pan oedd hi'n 14 oed.

Treuliodd ran helaeth o'i harddegau yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd, ond mae bellach yn holliach ers tair blynedd.

Nawr yn fyfyriwr bioleg yng Nghaerfaddon, roedd yn awyddus i "roi yn ôl i'r ysbyty" fu'n rhan allweddol o'i hadferiad.

"Pan oeddwn i'n derbyn fy nhriniaeth, roedd rhaid i fi ddysgu i gerdded eto ddwywaith oherwydd heintiau yn fy nghoes," meddai. "Nes i bron ei cholli hi.

"Felly mae jest gallu rhedeg yn llwyddiant i fi yn barod, a fi eisiau herio fy hun. Dyma fydd fy hanner marathon cyntaf, fy her gorfforol gyntaf, ar ben yr heriau meddyliol ges i."

Hanner Marathon Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd llwybr yr hanner marathon eleni yn dechrau y tu allan i Gastell Caerdydd cyn gorffen ym Mharc Cathays

Doedd Louis Price, 25, o Aberdâr ddim yn meddwl y byddai yntau mewn sefyllfa i redeg hanner marathon y llynedd chwaith – bron i flwyddyn yn union ers iddo gael llawdriniaeth agored ar y galon.

Cafodd ei eni gyda murmur ar y galon, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i chwaraeon yn ei arddegau cyn i brofion ym mis Ionawr 2025 ddangos bod angen triniaeth fwy difrifol arno.

"Flwyddyn yn ddiweddarach, fi'n teimlo'n barod i redeg – roedd y llawfeddyg, ffisiotherapydd a'r wybodaeth gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn dweud y galla i wthio fy hunan ychydig," meddai.

"Felly ro'n i eisiau codi arian iddyn nhw, a chodi ymwybyddiaeth o bobl ifanc gyda chyflyrau ar y galon.

"Hon yw fy ras swyddogol gynta' i, felly fi jest yn edrych ymlaen at gymryd e mewn, mwynhau'r diwrnod, gwrando i'r gerddoriaeth a'r dorf fydd yn gwylio."

Bydd eraill yn rhedeg dros achosion sydd wedi effeithio ar aelodau'r teulu.

"Y rheswm fi'n 'neud e dros hosbis Tŷ Hafan yw ar gyfer fy merch i, Liwsi," meddai Sam Jordan, 31, o Cross Hands.

"Pan oedd hi'n dri mis cafodd hi ddiagnosis o nid jyst un, ond dau afiechyd geneteg prin, dim achos arall yn y byd [syndrom Cri du Chat, a thrawsleoliad dyblygiad Xq28].

"Hi yw'r ferch fach hapusaf byddwch chi byth yn cwrdd. Felly roedd rhedeg dros Tŷ Hafan yn ddewis amlwg, maen nhw wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i ni fel teulu."

Sam, Alys, Zoe a LiwsiFfynhonnell y llun, Sam Jordan
Disgrifiad o’r llun,

Sam Jordan gyda'i ferch Alys, 6, ei wraig Zoe, a Liwsi, sy'n 2 oed

Mae Sam yn cyfaddef nad yw'n rhedwr naturiol, ac wedi gorfod ffitio'i hyfforddi o gwmpas ei waith shifft ar safle dur Tata yn Nhrostre, Llanelli.

"Beth fi'n poeni mwyaf yw gadael pobl lawr sydd wedi noddi fi," meddai.

"Mae gen i tipyn o deulu yn dod lawr, teulu Tŷ Hafan a fi jest isie gwneud e iddyn nhw. Fi ddim yn poeni amdana i, fi jyst isie gwneud nhw'n prowd.

"Fi'n gwybod pan fi'n gweld Liwsi bydd hi'n gwenu, felly dyna'r unig beth sy'n bwysig i fi."

Her i'r gweinidog chwaraeon

Un arall fydd yn cymryd rhan yw'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, fydd yn codi arian dros elusen motor niwron MND wrth redeg hanner marathon am y tro cyntaf.

"'Nes i ddim wir meddwl hwn trwyddo," meddai yn ystod digwyddiad ar drothwy'r ras, gan ddweud ei bod hi wedi dewis cymryd rhan cyn i etholiad Senedd fis Mai gael ei gynnal.

Ychwanegodd mai'r "llinell derfyn" roedd hi'n edrych ymlaen ato fwyaf, gan ddweud: "Fydda i ddim mor gyflym ag Andy Burnham [yn y Great North Run], a dwi'n iawn 'efo hynna!"

Heledd Fychan yn siarad mewn digwyddiad i hyrwyddo Hanner Marathon Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heledd Fychan ei bod am osod her i'w hun a bod pobl "o bosib yn fwy tebygol o roi arian os ydyn nhw'n meddwl eich bod chi am ei chael hi'n anodd!"

Gyda chymaint o ddiddordeb yn Hanner Marathon Caerdydd eleni bu'n rhaid i'r trefnwyr ddefnyddio system balot am y tro cyntaf i weld pwy oedd yn cael cymryd rhan.

Cafwyd dros 60,000 o geisiadau, gyda thua hanner ohonynt yn cymryd rhan mewn gwahanol rasys ddydd Sul.

Mae prif weithredwr Run4Wales, Matt Newman, yn cydnabod fod hynny wedi golygu "siomi" rhai ymgeiswyr, ond bod angen cael cydbwysedd rhwng rhedwyr amatur a phroffesiynol, o Gymru ac o dramor.

"Mae gyda ni 6,000 o ymwelwyr rhyngwladol i'r ddinas, sy'n wych i Gaerdydd a Chymru, ac yn newid teimlad y digwyddiad o fod yn un domestig gwych i un o safon byd-eang," meddai.

Matt Newman, prif weithredwr Run4Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matt Newman yn gobeithio y bydd rhedwyr elusennol Hanner Marathon Caerdydd yn llwyddo i godi dros £4m eleni

"Mae'n ras i bawb – gan fod e'n rhan o'r Super Half Series gyda label World Athletics mae 'na redwyr o safon elît am fod yma, wedyn mae ganddoch chi redwyr cryf o glybiau domestig, reit drwyddo i'r 10,000 sy'n codi arian i elusen neu achos personol.

"Mae'r holl elfennau yna'n bwysig i'r digwyddiad.

"Mae 'na lawer o ddigwyddiadau mawr yn dod i Gaerdydd yn y blynyddoedd nesaf, ac mae'r hanner marathon wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol hyfryd 'dyn ni eisiau gweld yn datblygu, ac ar yr un pryd gwneud mwy dros y ddinas a Chymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig