Lauren Evans o Hendy i'w hanrhydeddu yn BAFTA Cymru

Lauren Evans a'i BAFTAFfynhonnell y llun, Getty Images
GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bu bron i gyfarwyddwr castio o Hendy, sir Gâr anfon ei newyddion am anrhydedd gan BAFTA Cymru i'r ffolder sothach.

Bydd y cyfarwyddwr castio Lauren Evans, sy'n adnabyddus am ei gwaith ar Sex Education a Lost Boys and Fairies, yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru y penwythnos hwn.

Pan gyrhaeddodd e-bost â'r teitl 'Confidential BAFTA' tra'r oedd hi'n y gwaith, meddyliodd Lauren Evans mai neges sothach oedd hi.

"Roeddwn i bron â'i anfon i'r ffolder sothach ac yna fe ddarllenais a meddyliais, 'Oh my good grief!'" meddai wrth Dot Davies ar BBC Radio Wales.

"Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn wir."

Ond roedd yr e-bost yn un go iawn ac fe fydd hi'n cael ei hanrhydeddu nos Sul. Mae'n cyfaddef ei bod hi'n dal i gael trafferth credu'r newyddion.

"Mae'n dal i deimlo fel rhyw fath o prank," meddai. "Wrth gwrs, dwi'n hynod falch ac yn teimlo'n wirioneddol anrhydeddus. 'Ches i ddim gwobrau nac anrhydeddau wrth dyfu i fyny, felly mae'r peth yn teimlo'n overwhelming iawn, bron fel profiad y tu allan i fy nghorff, mai fi yw'r un sy'n ei dderbyn."

Daw'r wobr yn dilyn ei buddugoliaeth yn y categori castio yng Ngwobrau BAFTA y llynedd am y ffilm I Swear. Fe gipiodd ei haraith syml a gonest galonnau'r gwylwyr.

"Mae llawer o bobl sydd heb fy ngweld ers blynyddoedd yn dweud, 'O, dwyt ti ddim wedi newid'," meddai.

Lauren Evans yn derbyn BAFTAFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dw i am fwynhau hyn achos fydd fy mhlant yn malio dim yfory!" - roedd araith Lauren wedi creu argraff yn y BAFTAs yn gynharach eleni

O Hendy i'r BAFTAs

Cafodd Lauren ei magu yn Sir Gaerfyrddin ac aeth i'r ysgol yn Hendy, lle oedd disgyblion yn arfer edrych ar lun o'r cyn-gricedwr dros Loegr a Morgannwg, Robert Croft, un o gyn-ddisgyblion enwocaf yr ysgol.

"Roedden ni'n dweud, 'Oh my god, mae e mor enwog'," meddai gan chwerthin.

Mae'n cofio ei gyfarfod pan fu hi'n gweithio yn y Farmer's Arms ym Mhontardawe.

"Mae cael fy nghrybwyll yn yr un anadl ag e'n teimlo'n hollol ryfedd."

Gweithio ar brosiectau â neges iddynt

Lost Boys and Fairies. O'r chwith i'r dde Fra Fre, Leo Harris a Sion Daniel Young
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lauren fod gan Lost Boys and Fairies "ystyr mor bwysig"

Mae ei gwaith castio yn cynnwys cyfres Netflix Sex Education, a lansiodd yrfaoedd nifer o actorion anhysbys ar y pryd fel Emma Mackey, Aimee Lou Wood a Ncuti Gatwa, a Lost Boys and Fairies, sef ei hunig brosiect dwyieithog hyd yma. Dywedodd fod gan y prosiect hwnnw "ystyr mor bwysig".

"Dw i wedi dysgu i chwilio am brosiectau sy'n dweud rhywbeth ac sy'n sbarduno trafodaeth am rywbeth gwirioneddol ystyrlon," meddai.

"Dw i fwyaf balch o'r gwaith sy'n ysgogi trafodaeth am gynhwysiant a goddefgarwch."

Yn ddiweddar bu'n gweithio ar ffilm I Swear, ac mae hi bellach yn gorffen prosiect sy'n seiliedig ar straeon oedolion Roald Dahl. Mae'r cast yn cynnwys Imelda Staunton, Toby Jones a Nicola Coughlan.

Mae hi hefyd newydd weithio gyda Ruth Jones a Steve Speirs ar gyfres y BBC, Better Later, ac mae hi bellach yn castio cyfres nesaf Ruth Jones a James Corden.

Cast Sex Education. O'r chwith i'r dde: Connor Swindells, Ncuti Gatwa, Aimee Lou Wood, Asa Butterfield, Gillian Anderson, Kedar Williams-Stirlin a Mimi Keene.Ffynhonnell y llun, Netflix
Disgrifiad o’r llun,

Cast Sex Education ar Netflix, mae sawl un wedi mynd yn eu blaen i gael gyrfa lwyddiannus

Cyngor i dalent newydd

I unrhyw un sy'n gobeithio dilyn ei llwybr i fyd castio, mae ei chyngor yn syml: cael troed yn y drws.

"Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael swydd mewn swyddfa gastio, a dod o hyd i le sefydlog a diogel i weithio, gallwch gael yr hyfforddiant gorau posibl," meddai.

Ychwanegodd fod llawer o'r diwydiant yn dibynnu ar lafar gwlad, a bod cyrsiau fel diploma castio'r National Film and Television School yn gallu bod o gymorth mawr.

O ran araith dderbyn eleni, nid yw wedi'i hysgrifennu eto. "Dydw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.