Clwb yn dathlu 80 mlynedd o rwyfo ar Afon Taf

Criw Rhywfo Llandaf yn cystadlu ar Lyn Bled yn Slofenia
- Cyhoeddwyd
Ers 80 mlynedd mae cychod wedi bod yn rhwyfo i fyny ac i lawr Afon Taf yng Nghaerdydd, a hynny o gyfeiriad Llandaf.
Eleni mae'r Clwb Rhwyfo yno'n dathlu carreg filltir go arbennig ac y penwythnos diwethaf fe rwyfodd degau o gychod lliwgar i lawr yr afon.
Roedd hi'n sioe drawiadol iawn o olau amryliw yn rhwyfo lawr yr afon i ddathlu pen-blwydd y clwb.
Un oedd yn rhan o'r dathliadau oedd Sion Dafydd Waddington, sy'n aelod o'r clwb rhwyfo.

Mae Sion yn aelod o'r clwb yn Llandaf
"Dwi wedi bod eithaf sâl ar gychod yn y gorffennol. Nes i ffeindio mas am rwyfo drwy gwraig fy ffrind pan oedd hi'n aelod o pub and club regatta.
"Nes i ddysgu'r basics cyn rasio ar ôl mis o ddysgu.
"Ar ôl hynny 'natho ni ennill y ras ac ar ôl ennill 'da chi'n gorfod newid hanner y criw.
"Ar ôl chydig o ddiodydd nes i ymuno â'r clwb. Ro'n i yn y 30au hwyr yn dechre," meddai.
Teitl Sion o fewn y clwb yw 'Master Rower.'
"Mae e fwy i wneud gydag oedran, unwaith chi'n cyrraedd certain oed mae'r teitl yna yn cael ei roi i chi.
"Mae'r clwb gydag aelodau o pob oedran, mae rhai hyd yn oed 90 oed yn rhwyfo gyda ni yma felly ni'n rhoi croeso i bawb," meddai.
"Mae e'n dda iawn o ran ymarfer corff, nes i stopio chwarae rygbi pan ganwyd fy merch i, ar ôl hynny o'n i eisiau cadw'n heini, nes i chwarae bach o golff, do'n i ddim yn dda iawn ac roeddwn eisiau defnyddio fwy o egni, a meddwl base rhwyfo'n beth da i wneud.
"Yn sicr mae'n wych i'r galon a chadw'n heini.
"Mae 'na lot o rwyfwyr ifanc yn rhwyfo sydd wedi bod drwy'r system yn Llandaf a wedi cynrychioli Cymru a Phrydain. Mae 'na lot o dalent wedi dod drwodd," meddai.

Un o gychod Clwb Rhwyfo Llandaf wedi'i goleuo ar Afon Taf
Mae Sion newydd ddychwelyd o Slofenia fel rhan o griw o'r clwb fuodd yno'n cystadlu yn regatta mwya'r byd.
Roedd yn rhaid i'r criw o Landaf yrru draw i Lyn Bled yng ngogledd orllewin y wlad er mwyn cludo eu cychod rhwyfo yno.
"Roedd hi'n daith hir o 18 awr o yrru rhwng y criw gyda pawb yn cymeryd eu twrn i yrru.
"Dyma regatta fwya'r byd ac fe gafon ni lwyddiant hefyd a chael y fedal efydd mewn dwy ras.
"Roedd o'n brofiad gwych ac yn wefr cael bod yn rhan o gystadleuaeth o'r fath."
O ran y dathliadau nôl yng Nghymru, roedd tua 10 o gychod a 100 o bobl wedi dod ynghyd i weld y sioe liwgar o oleuadau yn rhwyfo fyny Afon Taf.
"Roedd yn edrych yn ddeiniadol iawn. Roedd e'n hyfryd gweld cymaint o gychod yn rhwyfo un ar ôl y llall i fyny'r afon.
"Fel rhan o ddathliadau 80 mlynedd y clwb roedd e'n gyfle da i ni godi ymwybyddiaeth a rydym wastad yn chwilio ac yn croesawu aelodau newydd," medd Sion.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2025
