Michael Sheen a'r 'anrhydedd' o chwarae Owain Glyndŵr

Michael SheenFfynhonnell y llun, Kirsten Mcternan
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ar hyn o bryd mae llygaid miliynau o bobl ar gyfres newydd o Celebrity Traitors ar y BBC, ac un sy'n cymryd rhan eleni yw Michael Sheen.

Ond i ffwrdd o gastell The Traitors, mae'r actor, sy'n wreiddiol o Bort Talbot, yng nghanol ymarferion i chwarae rhan ffigwr enwog yn hanes Cymru mewn drama newydd gan Gary Owen.

O bosib y byddai'r triciau sydd ei angen ar gyfres The Traitors wedi bod o werth i Owain Glyndŵr 600 mlynedd yn ôl wrth geisio canfod pwy oedd ei elyn a'i gyfeillion agos.

Y gwrthdaro a pherthynas Owain Glyndŵr a Brenin Harri IV sydd wrth wraidd drama newydd Owain and Henry sydd wedi'i seilio yng nghanol y cyfnod o wrthdaro ar ddechrau'r 15fed ganrif.

Michael Sheen sy'n chwarae rhan Owain Glyndŵr ac roedd yn esbonio wrth Manon Steffan Ros ar raglen Llwyfan y pwysau a'r cyfrifoldeb sydd arno wrth chwarae ffigwr mor arwyddocaol yn hanes Cymru.

'Cyfle gwych'

"Fe ddigwyddodd y stori yma 600 mlynedd yn ôl a dyma'r tro cyntaf i gynhyrchiad o'r fath ddigwydd i ddweud yr hanes anhygoel yma.

"Mae'n anrhydedd ac yn gyfle gwych i fod yn gallu dweud y stori," meddai.

Er gwaethaf ei brofiad helaeth o actio cymeriadau eiconig ar lwyfan ac ar y sgrîn, mae Michael Sheen yn teimlo 'cyfrifoldeb mawr' o bortreadu Owain Glyndŵr.

"Rhan o ymgymryd â rôl fel hyn yw deall beth yw disgwyliadau pobl am Owain Glyndŵr a deall beth mae'n ei gynrychioli.

"Ond person yw e sydd ag amheuon a thrafferthion fel unrhyw un arall. Rhan o beth dwi'n ei garu am y stori yw'r daith mae'n mynd arni.

"O fod yn rhan o deulu bonedd cyn troi yn rhyw fath o rebel yn ymladd yn erbyn y Brenin."

Does dim syndod gan Michael Sheen nad oes gan Gymru eu fersiwn nhw eu hunain o Braveheart, a'r rheswm am hynny meddai o bosib yw oherwydd fod Glyndŵr wedi colli.

"Mae pobl yn gofyn, pam nad oes gennym ni ein fersiwn o ffilm fawr fel Braveheart; wel mae'n colli, mae'r gwrthryfel yn methu ac mae'r goblygiadau o ganlyniad i hynny yn enfawr.

"Mae rhai hyd yn oed yn awgrymu ein bod yn teimlo'r canlyniadau yna hyd heddiw o'r hyn ddigwyddodd yn ystod y gwrthryfel, ac mae hyn yn chwarae fewn i'r rhan fawr sydd gennym ni i adrodd y stori," meddai.

Michael SheenFfynhonnell y llun, John Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Michael Sheen yn ystod yr ymarferion o Owain & Henry

Un o'r syniadau mae Michael yn ceisio ei gyfleu yw i ysgogi'r gynulleidfa i fod "eisiau gwneud rhywbeth," yn enwedig meddai gan fod "Canolfan y Mileniwm (ble mae'r ddrama yn cael ei pherfformio) y drws nesa i'r Senedd.

"Rydym yn meddwl sut yr ydym eisiau gwneud i'r gynulleidfa deimlo wrth iddyn nhw gamu allan; yn y bôn rydym eisiau iddyn nhw deimlo eu bod nhw eisiau gwneud rhywbeth," meddai.

Fe soniodd Michael Sheen hefyd am ei rôl o fewn cymdeithas gan ymateb i'r sylw ei fod yn dod yn "symbol o rywbeth" yng Nghymru a'i fod yn gwneud sŵn am faterion gwleidyddol.

"Mae'n anochel y rheswm fy mod wedi fy nhynnu fewn i stori Glyndŵr cymaint yw oherwydd ei fod yn adlewyrchiad o rai pethau dwi wedi ei brofi fy hun ar raddfa lawer llai.

"Chi'n gweld hynny i raddau, nid yn unig am yr hyn dwi wedi gwneud fel actor ond y tu allan i hynny hefyd.

"Unwaith chi'n dechrau, mae pobl wedyn yn rhoi ei gobaith ynddoch oherwydd nid pawb sy'n cael y cyfle i wneud be' dwi'n wneud. Nid pawb sy'n cael yr un platfform na'r gallu i gael cyfarfodydd gyda rhai pobl neu gael llais yn yr un ffordd, ac i greu newid neu i wthio am newid yn yr un ffordd â mi.

"Felly mae'r bobl hynny wedyn, sy'n cytuno gyda'r hyn dwi yn ei wneud yn rhoi ei gobaith ynddo chi," meddai.

Roedd yn cyfaddef fod hynny yn gyfrifoldeb mawr a'i fod weithiau yn gwneud camgymeriadau.

Ond, meddai fod yna bŵer y tu ôl i'r symbol yna o obaith a'i fod yn dod â phobl at ei gilydd ac yn creu momentwm ynddo fe a bod portreadu Owain, sy'n gymeriad meddai ar "raddfa llawer mwy" yn rhoi ffordd iddo fewn i'r byd hwnnw, gan nad yw Michael yn gweld ei hun fel symbol ond fel person.

Mae Michael Sheen i'w weld nawr ar raglen The Traitors a bydd Owain & Henry yn cael ei berfformio rhwng 5 - 28 Tachwedd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.