Sêr Hollywood ym Mangor yn gwneud ffilm am The Beatles

Tybed pa aelodau o'r Beatles sydd yn yr olygfa yma?
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm am The Beatles, un o fandiau mwyaf poblogaidd y byd yn cael ei ffilmio ym Mangor ar hyn o bryd.
Fore Mercher 30 Medi, roedd yn ymddangos fel bod John Lennon, Paul McCartney, George Harrison a Ringo Starr yn crwydro Ffordd Siliwen, Bangor rhywben yn ystod yr 1960au, ac wedi cyrraedd yno mewn hen geir.
Fe ddechreuodd y ffilmio ar gyfer The Beatles – A Four-Film Cinematic Event yn gynharach eleni.
Sam Mendes yw'r cyfarwyddwr ac mae aelodau o The Beatles yn cael eu portreadu gan Harris Dickinson, Paul Mescal, Joseph Quinn, a Barry Keoghan (John Lennon, Paul McCartney, George Harrison a Ringo Starr).
Mae'r pedwar ffilm yn canolbwyntio ar bersbectif un o'r Beatles. Mae disgwyl iddyn nhw gael eu rhyddhau fis Awst 2028.
Roedd y lonydd o gwmpas y lleoliad ffilmio – rhan o'r hen Goleg Normal, sydd bellach yn gartref i Ganolfan Reolaeth Prifysgol Bangor - ar gau.

Y Gwyddel Paul Mescal, sy'n actio Paul McCartney yn y ffilm, yn yr Oscars yn Hollywood yn gynharach eleni
Ond beth ydy cysylltiad The Beatles â Bangor?
Fe wnaeth y Beatles ymweld â Bangor fis Awst 1967, yn fuan ar ôl rhyddhau Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band.
Roedden nhw yno ar gyfer seminar o fyfyrdod gyda mudiad ysbrydol Maharishi Mahesh Yogi.

John Lennon, Ringo Starr a George Harrison yn cael eu holi gan newyddiadurwyr ym Mangor ar ôl clywed am farwolaeth Brian Epstein

Ydych chi'n gallu gweld John Lennon sy'n cael ei chwarae gan Harris Dickinson mewn sbectol a dillad lliwgar yma?
Mae'r ymweliad yn arwyddocaol yn hanes y band oherwydd dyma pryd wnaeth y pedwar glywed am farwolaeth sydyn eu rheolwr, Brian Epstein.
Fe wnaeth y Maharishi roi cyngor i'r aelodau ar sut i ddelio â'u colled, cyn i'r wasg ryngwladol heidio i fynedfa'r coleg i gael ymateb y band, cyn iddyn nhw ddychwelyd i Lundain.

The Beatles ar dir y Coleg Normal ar 27 Awst 1967
Cip o'r ffilmio ym Mangor...

Dyma rhai o'r cymeriadau oedd i'w gweld ar Ffordd Siliwen fore Mercher

Hen arwydd prop Y Coleg Normal yn cael ei osod

Ffilmio tu allan i hen safle y Coleg Normal, neu'r Hen Goleg erbyn heddiw

Car o'r cyfnod ar Ffordd Siliwen
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2022

- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025
