'Fy nghariad - merch Jonathan Ross - yn dysgu Cymraeg ac mae ei chof hi'n bonkers'

Gav Murphy a Honey RossFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gav Murphy a Honey Kinny Ross

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cynhyrchydd fideo Gav Murphy wedi sôn sut mae ei gariad Honey Ross, sy'n ferch i'r cyflwynydd teledu Jonathan Ross, yn dysgu Cymraeg.

Dywedodd ei bod yn defnyddio Duolingo a bod ganddi gof "anhygoel" a'i fod yn ei hannog i ymarfer siarad yr iaith gyda Coco eu ci.

Dywedodd y Cymro ei fod wedi cyfarfod â Honey drwy Instagram yn wreiddiol ond bod eu diddordeb mawr mewn ffilmiau wedi arwain at y ddau'n cyd-dynnu o fewn dim.

'Cwympo mewn cariad'

"Aethon ni mas am, wel un drink oedd e fod, ac wedyn wnaeth hwnna troi mewn i fel chwe pheint," meddai Gav Murphy ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"Roedd y ddau o'n ni'n siarad at ein gilydd am pa ffilm o'n i'n lyfio, a stwff fel yna, a fi'n meddwl rili nes i gwympo mewn cariad y noson yna.

"O'n i jyst yn siarad am ffilmiau am chwech neu saith awr, ac wedyn ni heb stopio siarad am ffilmiau ers hynny."

Gav a Honey Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gav a Honey ar wyliau yn Universal Studios Florida yn ddiweddar

Dywedodd ei fod yn siarad yn aml am Gymru gyda theulu Honey a bod ei gariad bellach yn dysgu'r iaith drwy'r ap Duolingo.

"Ma' hi'n rili da achos ma' hi mor glyfar a ma' gyda hi memory yma – ma' cof hi'n bonkers," meddai. "Fi'n anghofio stwff trwy'r amser ond mae ei chof hi a'r ffordd mae hi'n dod i adnabod stwff Cymraeg, ma' hi mor dda."

Gyda'r ddau yn byw yn Llundain mae'r cyfle i ymarfer yn brin heblaw am yr ap ond mae Gav yn ceisio ei annog i sgwrsio 'efo'u ci.

Meddai: "Does dim hyder 'efo hi mewn siarad e. Ond achos fi'n siarad Cymraeg 'efo Coco fi'n trio cael hi i siarad Cymraeg 'efo Coco: 'Well, if you speak Welsh with Coco, she's not going to tell you if you're wrong'.

"So dyna'r ffordd dwi'n meddwl dyle hi ymarfer."

Gav Murphy a'i gi CocoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gav Murphy a'i gi Coco

Mae Gav Murphy yn wreiddiol o Gaerffili a graddiodd mewn astudiaethau Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth yn 2007.

Ers blynyddoedd mae'n byw yn Llundain lle mae wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd cynnwys a chyflwynydd fideos, podlediadau ac adolygydd gemau a ffilmiau.

Mae o bellach yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, wnaeth o ei gyd-sefydlu yn 2019.

Beti George a Gav Murphy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gav Murphy yn siarad gyda'r cyflwynydd Beti George

Honey Ross ydi'r ieuengaf o dri o blant Jonathan Ross a'i wraig Jane Goldman a chafodd ei magu yn Hampstead yng ngogledd Llundain.

Mae hi'n adnabyddus am fod yn ymgyrchydd ffeministaidd sy'n galw am barch i fenywod waeth beth yw eu maint, siâp a lliw eu croen.

Roedd hi'n un o sylfaenwyr mudiad Pinc Protest yn 2017 wnaeth ymgyrchu dros hawliau merched, gan gynnwys cael cefnogaeth ariannol gan lywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi mislif.

"Wnaeth hi ddechrau gwneud hynny pan roedd hi'n rili ifanc a dwi'n meddwl oedd hi ddim yn sylweddoli pa mor full time oedd hwnna," meddai Gav.

"Mae hi wedi newid deddfau. Roedd hi'n 'neud eitha' lot o stwff feminism, ac roedd hi'n 'neud stwff yma 'efo cwpl o fenywod eraill, ac oedd nhw'n literally newid laws amdano fe.

"Roedd hi mor dda yn 'neud stwff ond mae'n cymryd shwt gymaint o amser, ac mae'n cymryd shwt gymaint o'ch bywyd chi."

Jonathan Ross
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Ross wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd ar radio a theledu ers y 1980au

Ers cyfarfod Honey Ross, mae Gav Murphy wedi dod i adnabod ei theulu ac yn dod ymlaen gyda'i thad gan fod y ddau yn "professional silly-billies", meddai, ac yn hoff o chwerthin.

Fel un o gyflwynwyr teledu mwyaf adnabyddus Prydain ers degawdau, mae Jonathan Ross wedi cyfarfod nifer o bobl enwog a Gav wrth ei fodd yn clywed ei straeon.

Meddai: "Os ydyn ni'n watchad ffilms neu rywbeth fel yna fi wastad yn gofyn wrtho fo am Anthony Hopkins, Tom Jones a phobl Cymraeg a stwff fel yna.

"Mae fe wedi cwrdd â phawb ac mae 'da fe storis am bawb, a fi eisiau clywed nhw."

Gallwch wrando ar gyfweliad llawn Gav Murphy ar Beti a'i Phobol am 18:00 ar 4 Hydref neu ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig