'Y golled tu ôl i fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg'

Katie a James MacGregor gyda mam Katie, Brenda Howell
- Cyhoeddwyd
Mi wnaeth ymweliad â Eisteddfod Wrecsam yn 2025 ysbrydoli Katie MacGregor a'i mam i ddechrau dysgu Cymraeg.
Ond wedi ychydig wythnosau o wersi cafodd mam Katie ddiagnosis o ganser y pancreas a bu farw yn fuan wedyn.
Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Katie o Wrecsam yn rhannu'r galar a'r golled sy'n ei hysbrydoli hi i ddysgu Cymraeg a'r gymuned mae hi wedi ei darganfod drwy wneud.
Mae Katie'n rhan o'r grŵp cerddorol Igloo Hearts gyda'i gŵr James, sy' hefyd wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae'r ddau wedi cystadlu ar Y Llais ar S4C.
Dyma ei stori:
Dechrau dysgu
Ar ôl cwblhau dros 800 o sesiynau Duolingo dechreuodd Mam a fi fynd i'r dosbarth dysgu Cymraeg yng Ngholeg Cambria gan feddwl dysgu ychydig o Gymraeg ac hefyd gwneud rhywbeth gyda'n gilydd, cael bach o amser mam-a-merch.
Doedden ni ddim wedi disgwyl mwynhau gymaint ond gawson ni lot o hwyl, lot o chwerthin, ac roedd y dosbarth yn wych.
Ond ar ôl tua chwe gwers, cawson ni'r newyddion ofnadwy fod gan Mam ganser y pancreas. Doedd ganddi ddim symptomau amlwg iawn, dim ond bol oedd wedi chwyddo, a ro'n ni'n meddwl mai rhywbeth fel IBS oedd o.
Yna'n sydyn cawson ni'r newyddion gwaethaf posib.

Katie a'i mam Brenda Howell
Roedd Mam yn 72 oed pan gafodd hi'r diagnosis. Dydy hynny ddim yn hen iawn mewn gwirionedd ac roedd y cyfan yn teimlo mor greulon.
Un diwrnod roedd ei bywyd hi'n hollol normal, roedd hi'n siopa ac yn gwarchod ei hwyrion, a'r peth nesaf o'n ni'n cael gwybod mai dim ond dau i bedwar mis oedd ganddi i fyw.
Wedyn daeth y chemo, strôcs bach, apwyntiadau ysbyty a phopeth arall.
'Dal ati'
Er gwaethaf hynny, wnaethon ni ddal ati gyda'r Gymraeg. Roedd yn rhywbeth oedd yn rhoi saib i ni o feddwl am feddyginiaethau ac ysbytai. Roedd yn rhoi rhywbeth arall i ni ganolbwyntio arno.
Yn bendant roedd y Gymraeg yn codi ei chalon. Roedd hi'n cofio caneuon rygbi Cymraeg, a bydden ni'n ysgrifennu ac yn canu nhw gyda'n gilydd. Ond yn fwy na dim, roedd yn bach o hwyl – cael pethau'n anghywir, trio gweithio allan beth oedd beth, a chael sgwrs. Doedd Dad ddim yn siarad Cymraeg, felly bydden ni'n dweud pethau o'i flaen i'w bryfocio a chael hwyl yn gwneud hynny.
Un o'r pethau cyntaf ddywedodd Mam ar ôl cael y diagnosis oedd, 'Fyddwn ni'n dal i barhau gyda'r Gymraeg, on'd fyddwn ni? Mor hir ag y gallwn ni…'
Ac roedd hynny'n anhygoel i fi.
Roedd mynd i'r dosbarth gyda'n gilydd wedi dod yn rhan o fywyd arferol, ac roedd cadw'r teimlad yna o normalrwydd yn bwysig iawn. Roedd David [Fagan], y tiwtor, yn wych. Drwy gydol triniaeth Mam roedd yn anfon y sleidiau, y gwaith cartref a phopeth arall ato ni. Collais i lot o wersi, ond o'n i'n gwybod y byddai Mam eisiau i fi fynd yn ôl.

Ar ôl colli rhywun, mae'n gwneud i chi feddwl yn wahanol. Roedd Mam wastad yn cefnogi popeth oedden ni'n 'neud, yn enwedig cerddoriaeth a phethau Cymraeg. O'n i bron yn ei chlywed hi'n dweud, 'Amdani nawr, dos yn ôl ati'.

Y band gwerin-bop Igloo Hearts yn perfformio
Cymuned
Mae dysgu Cymraeg yn rhoi teimlad o berthyn. Ti'n dod yn rhan o gymuned arbennig o bobl sy' i gyd yn rhannu'r un daith, ac mae hynny wedi bod yn brofiad arbennig.
Mae'r Gymraeg wedi agor drysau i fyd newydd i ni. Roedden ni [Igloo Hearts] wedi dechrau cefnogi artistiaid Cymraeg fel Al Lewis a Georgia Ruth, a dod i adnabod rhan anferth o ddiwylliant Cymru doedden ni ddim wir yn gwybod amdani o'r blaen.
Ar ôl mynd i'r Eisteddfod yn Wrecsam a gweld popeth oedd yno, roedd hi fel darganfod byd gwbl newydd.
Roedd cael bod ar Y Llais yn brofiad anhygoel hefyd. Fe aethon ni lawr yn ystod salwch Mam i ffilmio, a chafodd hi gyfweliad hefyd. Erbyn i'r rhaglen gael ei darlledu ar Sul y Mamau, roedd hi wedi marw, felly roedd y cyfnod hwnnw'n llawn emosiynau cymysg.

Katie a James yn perfformio ar Y Llais
Mae Yws Gwynedd [mentor Igloo Hearts ar Y Llais] wedi bod yn wych ers y rhaglen. Mae wedi helpu ni lot ac wedi bod yn gefnogol iawn. Fe wnaethon ni ryddhau cân Gymraeg trwy ei label, Recordiau Côsh.
Pan dwi'n meddwl mai prin bod ni'n gallu siarad Cymraeg flwyddyn ynghynt, mae'n teimlo'n hollol wallgof.
Rydyn ni hefyd wedi cael grant gan Gyngor y Celfyddydau i wneud prosiect Cymraeg gyda NEW Sinfonia a The Gentle Good. Y nod yw annog dysgwyr Cymraeg i greu yn y Gymraeg.
Mae pawb yn dweud mai'r blynyddoedd cyntaf yw'r rhai anoddaf wrth ddysgu iaith, ond rydyn ni wedi cael lot o gefnogaeth gan ddysgwyr eraill ac awduron caneuon Cymraeg lleol.
Ein neges yw: os ydyn ni wedi gallu dysgu'r iaith mewn cyfnod cymharol fyr, gall unrhyw un ddysgu.
Dyna'n union fyddai Mam wedi bod eisiau. Hi oedd y person mwyaf positif a charedig y gallech chi gyfarfod, a fyddai hi wrth ei bodd yn gweld popeth sydd wedi dod allan o'r daith yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Hydref

- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
