Bachgen, 15, wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr - cwest

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, roedd y tri pherson wedi mynd i drafferthion yn y dŵr yn ardal Traeth Marloes
- Cyhoeddwyd
Bu farw bachgen 15 oed o Bradford ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro, mae cwest wedi clywed.
Roedd Marcin Michal Komoszewski ar wyliau gyda'i deulu ac wedi ymweld â thraeth Marloes ar 30 Awst, cyn mynd i drafferthion yn y dŵr.
Er ymdrechion ei deulu ac aelod o'r cyhoedd i'w gyrraedd, nid oedd modd ei achub.
Roedd "ymgyrch chwilio sylweddol ar dir ac ar y môr" a barhaodd am ddeuddydd cyn dod i ben ar 1 Medi.
Clywodd y cwest fod Gwylwyr y Glannau wedi derbyn adroddiad am 15:30, gan sbarduno ymgyrch chwilio a oedd yn cynnwys yr RNLI, yr heddlu a'r gwasanaethau brys.
Clywodd y cwest fod cwch hwylio oedd yn pasio wedi gweld corff ger Penrhyn Santes Ann ar 8 Medi.
Cafodd y corff ei dynnu o'r dŵr gan yr RNLI, ac fe gadarnhaodd archwiliad post-mortem mai Marcin wedi ei ganfod.
Clywodd y cwest fod Marcin wedi'i eni yng Ngwlad Pwyl yn 2010, ond roedd yn ddisgybl ysgol ac yn byw yng Ngorllewin Swydd Efrog.
Dywedodd y Prif Grwner, Gareth Lewis, nad oedd achos y farwolaeth wedi'i nodi eto gan fod "ymchwiliadau labordy yn parhau".
Agorodd Mr Lewis y cwest cyn ei ohirio er mwyn aros am ganlyniadau ymchwiliadau pellach.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.