Ymosodiad seibr ar systemau heddlu 'o bosib wedi peryglu data staff'

Pencadlys Heddlu Dyfed Powys yn Llangynnwr ger Caerfyrddin
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn destun "digwyddiad seibr" diweddar a amharodd ar rai systemau, ond nid rhai argyfwng.

Fe ddaeth yr ymosodiad i'r amlwg ddydd Llun 14 Medi, ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ers hynny dan reolaeth yr uned rhanbarthol Tarian.

Dywed y llu na fu unrhyw effaith ar eu hymateb i achosion brys, nac ar systemau ffôn 999 a 101, ond doedd cysylltiadau ar-lein ac e-bost "ddim ar gael am gyfnod".

Does dim tystiolaeth hyd yn hyn, meddai, bod unrhyw un wedi cael mynediad at ddata personol aelodau'r cyhoedd, ond mae ymholiadau'n parhau yn achos manylion staff.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cael gwybod am y digwyddiad ac yn "asesu'r" manylion sydd wedi dod i law.

Dywed datganiad y llu bod arbenigwyr diogelwch seibr yn rhoi cymorth i'r ymchwiliad a bod camau priodol wedi eu cymryd i adfer gwasanaethau wedi'r ymosodiad.

"Ar hyn o bryd, dyw ein hymchwiliad heb ganfod tystiolaeth fod data personol y cyhoedd wedi ei gyrchu neu ei beryglu o ganlyniad i'r digwyddiad yma," dywedodd.

"Rydym, fodd bynnag, yn parhau i ymchwilio a allai unrhyw wybodaeth ynglŷn â'n staff fod wedi ei gyrchu neu ei beryglu, ac rydym yn cymryd pob cam priodol i warchod y wybodaeth yna ac yn rhoi cyngor priodol i gydweithwyr os oes angen.

"Mae'r ymchwiliad yn parhau ac yn cael ei reoli gan Tarian trwy eu huned troseddu seibr rhanbarthol ac rydym yn parhau i fonitro systemau'r llu'n fanwl.

"Rydym yn deall y pryder y gallai hyn achosi ac rydym eisiau rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ein bod wedi, a byddwn yn parhau i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i warchod ein gwybodaeth a chynnal diogelwch ein systemau."

Gan ddiolch i'r cyhoedd "am eich amynedd a dealltwriaeth", ychwanegodd y llu y bydd yn rhoi mwy o wybodaeth "pan rydym mewn sefyllfa i wneud hynny".

'Asesu'r wybodaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu bod wedi derbyn adroddiad ynghylch yr achos gan Heddlu Dyfed-Powys ac "yn asesu'r wybodaeth a gafodd ei chyflawni".

"Gall unrhyw un sy'n poeni ynghylch eu gwybodaeth bersonol ymweld â gwefan SCG am gyngor a chefnogaeth.

"Dylid gwarchod cyfrifon personol gyda chyfrinair cadarn ac ni ddylid defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer sawl cyfrif.

"Rydym hefyd yn cynghori cadw golwg yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf gan y corff sydd wedi cael ei effeithio a dilyn eu cyngor yn achos cadarnhad bod gwybodaeth bersonol person wedi ei pheryglu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.