Dathlu llwyddiant clwb 'fedar Caernarfon fod yn falch ohono'

Disgrifiad o’r llun, Capten Caernarfon Danny Gossett yn dal Cwpan Cymru gyda'r ymosodwr Darren Thomas i'w chwith a chwaraewyr eraill y tu ôl iddyn nhw
1 o 6
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ddathlu yng nghanol Caernarfon ddydd Sul yn dilyn llwyddiannau diweddar clwb pêl-droed y dref.
Fis diwethaf fe gipiodd y Cofis Gwpan Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb, gan sicrhau lle yng Nghyngres Europa y tymor nesaf.
Roedd cannoedd o bobl ar Faes Caernarfon brynhawn Sul wrth i chwaraewyr arddangos y tlws, ond mae timau eraill y clwb hefyd wedi helpu sicrhau bod tymor 2025-2026 yn un cofiadwy.
Enillodd y tîm Dan-19 Gwpan Ieuenctid Cymru ddechrau Ebrill a chyn diwedd y mis fe gafodd y tîm merched Dan-17 eu coroni'n bencampwyr y North Wales Girls Football League.

Rhai o aelodau'r tîm merched Dan-17 gyda'u tlws am ennill y bencampwriaeth
Gan ddiolch i'r dorf am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, dywedodd cadeirydd y clwb Paul Evans bod ennill Cwpan Cymru wedi bod "yn freuddwyd" yr oedd llawer wedi amau na fyddai byth yn cael ei gwireddu.
"Mae hyn yn meddwl y byd i ni fel clwb," dywedodd wrth BBC Cymru.
"'Dan ni 'rioed wedi curo'r cwpan 'ma yn ein hanes felly fedrwch chi feddwl faint o bwysig a faint o sbesial ydi o."
Yr hyn sy'n bwysig wrth symud ymlaen, meddai, yw creu "clwb fedar Caernarfon a'r ardal fod yn falch ohono".
"Dyna pam 'dan ni'n 'neud o i gyd. Os fedran ni fod yn llwyddiannus [hefyd] - wel, ma' hynna'n helpu, yn tydi."

Mae'r cerflun o Lloyd George fel petai hefyd yn dathlu llwyddiant y clwb pêl-droed!
Mae llwyddiant y tîm yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru'n golygu bod y Caneris yn paratoi ar gyfer ymgyrch Ewropeaidd am yr eildro yn eu hanes.
Y tro cyntaf, yn 2024, fe aethon nhw allan yn ail rownd ragbrofol Cynghres Uefa ar ôl cael eu trechu gan un o dimau mwyaf Gwlad Pwyl, Legia Warsaw.
"Ma' mynd i Ewrop yn golygu lot fawr i ni yn ariannol, ond hefyd y ffaith bod ni 'n ca'l chwara' yn Ewrop am yr ail waith mewn tair blynedd," dywedodd Paul Evans.
Bu'n rhaid iddyn nhw chwarae eu gemau cartref yn y gystadleuaeth y tro hwnnw yn Stadiwm Nantporth, Bangor gan fod eu maes eu hunain, Yr Oval, ddim yn cyrraedd gofynion Uefa.
Mae gwaith gwerth £1m yn mynd rhagddo ers Tachwedd y llynedd i uwchraddio'r safle, sy'n golygu y bydd modd chwarae gemau Ewropeaidd yng Nghaernarfon yn y dyfodol, ac fe fydd y gêm gyntaf un yn Yr Oval, medd Paul Evans, yn "sbesial".
Cais CPD Caernarfon i ddyblu nifer y seddi yn yr Oval
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
'Clwb pêl-droed Cymreiciaf y byd'?: Ail-frandio CPD Caernarfon
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
A welwn ni'r Haaland neu Mbappé nesaf yng Nghaernarfon eleni?
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




