Cwymp sylweddol yng nghanran y plant sy'n gallu siarad Cymraeg - arolwg

plantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y plant 3 i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng 11 pwynt canran ers 2019, yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth.

Roedd 275,000 ohonynt yn gallu siarad Cymraeg ar 31 Mawrth 2019, sef 59% o blant 3 i 15 oed.

Roedd y ganran wedi gostwng i 48% (234,300) erbyn 30 Mehefin 2026, sef gostyngiad o 40,700, yn ôl y data diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

Er hynny, roedd plant 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Rydyn ni'n benderfynol o wireddu ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.

"Byddwn yn gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg i'w llawn botensial fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus ac annibynnol, creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithleoedd, gweithgareddau ac wrth dderbyn gwasanaethau a chryfhau'r amodau sy'n galluogi'r iaith i ffynnu mewn cymunedau ledled Cymru."

Heini Gruffudd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heini Gruffudd "nad yw ysgolion Cymraeg wedi tyfu yn ôl y disgwyl dros y 10 mlynedd diwethaf"

Dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, wrth y BBC ei fod yn "debygol iawn bod blynyddoedd Covid wedi effeithio ar ddysgu Cymraeg mewn ysgolion".

Roedd y lleihad yn y ganran yn "siom", meddai, ond awgrymodd bod angen gofal wrth drafod canrannau rhai dan 15 sy'n siarad Cymraeg.

Esboniodd: "O wybod mai hyd at 23% o ddisgyblion cynradd sydd mewn addysg Gymraeg a llai na hynny mewn ysgolion uwchradd Cymraeg, mae'n syndod bod y rhai y dywedir eu bod yn siarad Cymraeg ddwywaith gymaint â hynny.

"Mae angen gwybod beth yw syniad y rhieni am 'siarad Cymraeg' ac mae'n bosib iawn bod hyn yn brin o'n syniad ni am 'siarad Cymraeg'.

"Wedi dweud hynny rydyn ni'n ymwybodol iawn nad yw ysgolion Cymraeg wedi tyfu yn ôl y disgwyl dros y 10 mlynedd diwethaf.

"Mae angen i'r llywodraeth chwilio am ffyrdd newydd o sefydlu ysgolion Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.

"Hyn fydd yn cynnig twf yn nifer gwirioneddol siaradwyr Cymraeg o dan 15 oed."

Cyfanswm y siaradwyr Cymraeg 3 oed neu hŷn

Yn y flwyddyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2026, yn ôl yr arolwg blynyddol, roedd 27.4% o bobl 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, sy'n cyfateb i oddeutu 845,200 o bobl.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf 0.2 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2025 pan amcangyfrifwyd fod 27.2% o bobl 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Nid yw'r cynnydd hwn yn cael ei ystyried yn arwyddocaol yn ystadegol, gan fod newid wedi bod yn y modd o gynnal yr arolwg rhwng y ddau gyfnod.

Hefyd, penderfynwyd atal statws ystadegau achrededig yr arolwg "oherwydd gostyngiad ym maint sampl yr arolwg poblogaeth blynyddol dros y blynyddoedd diwethaf".

Mae'r amcangyfrifon, serch hynny, yn cael eu "dynodi fel ystadegau swyddogol".

Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai 17,486 o bobl oedd y sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg.

Dywed y llywodraeth ei bod "dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn".

"Fodd bynnag, nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth."

Yng Nghaerdydd (93,900), Gwynedd (93,300) a Sir Gaerfyrddin (85,500) y mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg, yn ôl yr arolwg.

Ym Merthyr Tudful (7,400) a Blaenau Gwent (8,500) y mae'r niferoedd isaf.

Yng Ngwynedd (75.9%) ac Ynys Môn (64.6%) y mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

Ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent (12.3% ill dau) a Phen-y-Bont ar Ogwr (12.7%) y mae'r canrannau isaf.

Dywedodd 31.5% (972,300) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 25% (771,400) ddarllen yn Gymraeg a 22.5% (693,800) ysgrifennu yn Gymraeg.

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn gyffredinol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl yr arolwg.

Ond mae'r niferoedd wedi cynyddu'n gyffredinol ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), ar ôl gostyngiad graddol rhwng 2001 a 2007.

Cymraeg 2050

Mae targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r Cyfrifiad.

Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8% - tua 538,000 o breswylwyr arferol 3 oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001 yn 582,400, a 562,000 oedd y ffigwr yn 2011.

Mae'r Cyfrifiad yn holiadur statudol sy'n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw'r arolwg blynyddol sy'n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.