Gŵyl Sŵn 2026: Uchafbwyntiau Josh Romain

Josh Romain ar dde'r llun tu allan o Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yn gwisgo cot liwgar gan bwyntio i faner binc o'r ŵyl sydd yn dweud 'Sŵn'.Ffynhonnell y llun, Josh Romain
Disgrifiad o’r llun,

Josh Romain tu allan i Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng nghanol Caerdydd, un o nifer o leoliadau oedd yn rhan o'r ŵyl

GanJosh Romain
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos cafodd yr ŵyl aml-leoliad, Sŵn, ei chynnal ar draws Gaerdydd gan ddod â phythefnos llawn o gerddoriaeth i'r brifddinas fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd i ben.

Am y tro cyntaf fe wnaeth yr ŵyl werthu'r holl docynnau, ond rhywun a oedd yn ffodus i fod yno oedd y newyddiadurwr a chefnogwr brwd o gerddoriaeth, Josh Romain. Yma, mae Josh yn rhannu ei uchafbwyntiau o'r penwythnos.

Menig

Yr artist Menig ar y chwith a'i fand yn chwarae yn Tiny RebelFfynhonnell y llun, Joshua Romain
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Menig ar y chwith a'i fand yn chwarae yn Tiny Rebel

Menig oedd un o'r artistiaid gyntaf imi weld, hynny ar ddydd Iau'r ŵyl. Mae'n gerddor electronig o ardal Aberteifi, ac mae'n un o'r artistiaid sy'n fy nghyffroi i fwya' yng Nghymru heddiw.

Dyma oedd ei berfformiad cyntaf gyda'i fand, rhywbeth a dywedodd oedd yn "anhygoel".

Roedd ei unig berfformiad byw blaenorol yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Wrth wrando ar y gerddoriaeth fywiog yma roedd 'na werthfawrogiad yn yr ystafell ei fod yn artist sbesial gyda photensial enfawr.

Harry Jowett

Y cerddor Harry Jowett yng nghanol y llun ar lwyfan gyda rapiwr Luke Rv. Tu ôl iddynt mae logo mawr Tiny Rebel. Gall weld dorf o bobl yno yn mwynhau.Ffynhonnell y llun, Joshua Romain
Disgrifiad o’r llun,

Harry Jowett (canol) wedi ymuno gan Luke RV (dde) ar lwyfan Tiny Rebel

Ro'n ni'n ymwybodol iawn o Harry Jowett, y cynhyrchydd tu ôl i lawer o waith y Cymro Luke RV, gan gynnwys ei albwm newydd.

Er hynny, nos Wener oedd y tro cyntaf i mi weld neu glywed unrhyw beth unigol gan Harry.

Cipiodd sylw'r holl ystafell yn Tiny Rebel gyda'i sŵn unigryw sydd tu hwnt i unrhyw genre.

Dywedodd wrtha' i ar ôl ei berfformiad "dwi ddim yn hoff o feddwl am genres gormod gan fy mod yn dechrau freako allan".

Wrth sefyll yng nghefn yr ystafell dechreuais siarad gyda'r rapiwr, Sage Todz, a oedd yn mwynhau'r perfformiad.

Dros y penwythnos bu cyfeillion yn rhannu rhai o'u top tips efo fi o sut i fwynhau'r ŵyl, gan gofio mai dyma oedd y tro cyntaf o'n i ddigon hen i fynd iddi!

Sold for Parts

Y band ar lwyfan gyda goleuadau pinc o’i amgylchFfynhonnell y llun, Joshua Romain
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifia y band ifanc o Abertawe ei sain fel "riot girl punk"

'Nes i fwynhau gweld hyder y band dwyieithog yma, ac er doedden nhw ddim yn hynod adnabyddus fe wnaethant yn bendant greu argraff.

Roedd hi'n hynod boeth yn Little O'Neills gydag un aelod o'r band yn cymryd darn o ddilledyn bant rhwng bron pob cân!

Sŵn oedd y tro cyntaf i mi fod yn y dafarn yma, ond dros y penwythnos fe wyliais berfformiadau gan wynebau cyfarwydd fel Dewin a Tai Haf Heb Drigolyn, a dwi'n edrych 'mlaen i ddychwelyd yno.

Chwaraeodd Sold For Parts nifer o ganeuon bant o'i EP sydd yn dod mas yn fuan ond hefyd ambell i gân arall.

Marchnad Caerdydd

Darn o stêc ar flatbread, ar blât gwyn, gyda'r farchnad gan gynnwys pobl yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, Joshua Romain
Disgrifiad o’r llun,

Bwyd blasus o'r farchnad (efallai ar ôl imi fwyta bach ohoni...)

Nid yn unig mewn lleoliadau traddodiadol oedd cerddoriaeth i'w glywed yn Sŵn - fe welais ddychweliad emosiynol yr artist Minas yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, ac mae gwerth nodi'r setiau DJ amrywiol yn y farchnad.

Un o'r tips ges i oddi wrth rheiny sydd wedi bod i'r ŵyl nifer o weithiau ers yr un cyntaf yn 2007 oedd i gofio bwyta ac yfed rhwng y cyffro, ac roedd marchnad Caerdydd yn lle perffaith ar gyfer hynny.

Gyda digon o opsiynau bwyd llwyddais i gael amrywiaeth ar draws y penwythnos, ond hefyd wrth fwynhau cerddoriaeth dda diolch i DJs Radio Sudd.

Adjua

Adjua a'i fand ar lwyfan Clwb Ifor Bach yn edrych yn lliwgarFfynhonnell y llun, Joshua Romain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd albwm Adjua, Everything Is Beautiful ar restr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2026 a chwaraeodd hi fel rhan o'r noson

Mae Adjua yn enw a ddylai fod yn gyfarwydd i nifer erbyn nawr. Roedd hi'n rhan o restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg eleni, a dwi wrth fy modd gyda'i hegni.

Roedd hi'n llawn dop yng ngwaelod Clwb Ifor Bach nos Sadwrn ond yn well na hynny roedd yn llawn pobl yn dawnsio i'w cherddoriaeth R&B sydd yn plethu dylanwadau amrywiol gan gynnwys y rheiny o'i threftadaeth Ghanaidd.

Ychwanegodd bongos i un o'i chaneuon gan ddod â ni ar daith oedd yn sicr werth ein hamser ar noson llawn perfformiadau gan artistiaid talentog.

Holybones

Perfformiwr wedi gorchuddio ei wyneb yn canu yn agos i'r dorf
Disgrifiad o’r llun,

Holybones o Lundain yn chwarae yng nghanol Caerdydd

Mae'r ŵyl yn lle perffaith i ddarganfod artistiaid newydd 'dy chi heb glywed o'r blaen ac yn hwyr nos Sadwrn ar ôl i ambell ffrind fynd adre arhosais i mas gyda'r gobaith o gael cyfle i ddawnsio.

A dyna yn union beth ges i islawr i Farchnad Jacobs; cyfle i ddawnsio'n boncyrs o flaen tri dyn a oedd wedi gorchuddio eu pennau fel hen mummies.

Maent wedi gweithio gydag enwau fel Baxter Dury ac ar y noson plethon nhw gerddoriaeth electronig gyda geiriau dwys, cymysgedd dwi'n ei fwynhau yn fawr.

Gan ddawnsio gyda dieithriaid a hen ffrindiau dywedodd un dyn wrtha i tra'n gadael taw dyna sut oedd hi yn yr 1980au hwyr - pawb yno i ddawnsio!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.