Dyn, 61, yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio 'mam gariadus'

Mae Clifford Foster wedi ei gyhuddo o lofruddio Eleanor Barnfield mewn digwyddiad ar 19 Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 61 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ymddangos o flaen llys mewn cysylltiad â llofruddiaeth menyw yn y dref.
Bu farw Eleanor Barnfield, 47 oed, yn yr ysbyty ar ôl i'r heddlu gael eu galw i wrthdrawiad car ar Heol Coety ddydd Llun.
Roedd ganddi anafiadau oedd ddim yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad, ac mae'r BBC ar ddeall ei bod hi wedi cael ei thrywanu.
Yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd barodd pum munud, fe gadarnhaodd Clifford Foster o Ger y Nant ym Mhen-y-Bont ar Ogwr ei enw, ei oed a'i gyfeiriad.
Roedd yn gwisgo siwmper lwyd golau ac yn defnyddio ffon fagl i gerdded.
Clywodd y gwrandawiad nad oedd yna gais am fechnïaeth ac mai Llys y Goron yn unig allai ddelio gyda'r mater.
Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd ar gyfer gwrandawiad fore Llun.

Cafodd Eleanor Barnfield ei disgrifio fel person "caredig, cariadus a dewr" gan ei theulu
Mewn teyrnged yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd teulu Ms Barnfield mai hi oedd "y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd".
"Hi oedd popeth i ni, a bydd ei theulu a'i ffrindiau yn ei charu ac yn ei cholli'n fawr am byth. Hi oedd ein craig."
Dywedodd Prif Weithredwr Valleys to Coast, y gymdeithas tai yr oedd Ms Barnfield yn gweithio iddo, eu bod "wedi ein llorio gan farwolaeth drasig ein cydweithiwr".
"Roedd Eleanor yn aelod gwerthfawr iawn o dîm Valleys to Coast, ac mae ei cholled wedi cael effaith ddofn ar bawb a oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio ochr yn ochr â hi," meddai Jo Oak.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
