Gobaith adfywio adeilad hanesyddol i fod yn 'gartref i'r Gymraeg'

Cyngor Sir Conwy sy'n berchen ar yr adeilad ar hyn o bryd
- Cyhoeddwyd
Mae criw o wirfoddolwyr yn gobeithio adfywio adeilad hanesyddol er mwyn creu "cartref i'r Gymraeg" yn nhref Conwy.
Mae Pwyllgor Cymraeg Aberconwy ynghyd â'r fenter iaith leol wedi cyflwyno cais i sefydlu canolfan i hybu'r Gymraeg yn Neuadd Ddinesig y dref.
Dywedodd aelod o'r pwyllgor mai'r nod yw creu "canolbwynt i ddenu siaradwyr Cymraeg at ei gilydd".
Cyngor Sir Conwy sy'n berchen ar yr adeilad ar hyn o bryd, ond mae'r criw yn gobeithio y bydd modd newid hynny yn y dyfodol agos.
'Lleoliad arbennig'
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Gwener, dywedodd Morgan Dafydd, aelod o Bwyllgor Cymraeg Aberconwy: "Be' 'da ni isio 'neud ydy ei droi o yn hwb Cymraeg, yn ganolfan ddiwylliannol - rhoi cartref i'r iaith Gymraeg yn ardal tref Conwy."
Wrth sôn am weledigaeth y criw, dywedodd fod ganddyn nhw "sawl syniad" ar gyfer sut i ddefnyddio'r adeilad.
Un o'r rheiny yw "adfer y gofod perfformio" sydd ar lawr ucha'r adeilad, gan "gynnal digwyddiadau a cherddoriaeth fyw, dim jyst pethau Cymraeg wrth gwrs... yn debyg i'r hyn 'da ni'n weld yn Neuadd Ogwen ym Methesda".
Ychwanegodd y byddai'r criw yn hoff weld "ryw gynnig bwyd" yn y gofod ar y llawr gwaelod - "neuadd fwyd neu neuadd farchnad, gofod hyblyg i gael pobl i mewn i'r adeilad a defnyddio fo".
Dywedodd Mr Dafydd fod "lleoliad yr adeilad reit yng nghanol y dre... wedyn mae'n bechod mewn ffordd bod yr adeilad wedi bod ar gau mor hir.
"Dwi'n siŵr fod 'na ddyfodol llewyrchus o'i flaen o."
'Galw am ddigwyddiadau Cymraeg'
Gyda'r criw eisoes wedi bod yn cynnal digwyddiadau ger y cei yn ystod yr haf, dywedodd Mr Dafydd eu bod yn "gwybod bod y galw yno am ddigwyddiadau Cymraeg".
"Mae lot o'n cefnogwyr yn diolch i ni am y cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu yn y Gymraeg mewn ardal 'wyrach sydd ddim yn cael ei ystyried fel un o gadarnleoedd yr iaith.
"Mae o'n rhoi cartref ffisegol i ni gario 'mlaen efo'r gwaith 'da ni wedi bod yn 'neud ac mae o'n rhoi ryw ganolbwynt i ddenu siaradwyr Cymraeg at ei gilydd."
Esboniodd fod y criw eisoes wedi "cynnig datganiad o ddiddordeb" a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y cyngor.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst

- Cyhoeddwyd16 Mai
