Merched o'r gogledd am droi profiadau anodd canser yn rhai cadarnhaol

Mi fydd yr elw o galendr Breast Friends yn mynd at Ganolfan Ganser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae criw o ferched o ogledd Cymru, sydd wedi gwella neu yn brwydro canser, wedi dod at ei gilydd i lansio calendr arbennig i godi arian ar gyfer uned ganser Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Mae 11 o ferched sydd â phrofiad o ganser y fron yn awyddus i droi rhai profiadau anodd iawn yn rhywbeth cadarnhaol gan dynnu eu dillad i greu calendr Breast Friends.
Mae holl elw'r calendr noeth yn mynd at apêl sy'n helpu teuluoedd ac sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.
Yn ogystal â chodi arian a chael hwyl, roedd 'na nod ychwanegol o godi ymwybyddiaeth o ganser y fron.

Y merched yn lansio'r calendr Breast Friends
Yn ôl Sally Roberts sy'n ffotograffydd o Dremeirchion ac yn sylfaenydd y calendr Breast Friends, mi wnaeth yr uned "achub ei bywyd" ar ôl iddi gael canser ddwywaith.
Cafodd Sally driniaeth, fel y menywod eraill, yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae'r calendr yn "ymwneud â chyfeillgarwch, gwytnwch, codi ymwybyddiaeth o ganser y fron ac, yn bwysicaf oll, codi arian i gefnogi'r gwasanaethau canser anhygoel sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion a'u teuluoedd," meddai Sally.
"Dechreuodd fy nhaith fy hun gyda chanser y fron yn 2022. Cefais fastectomi, cemotherapi, therapi wedi'i dargedu a therapi hormonau, gan gredu fy mod wedi dod drwy'r gwaethaf. "
Yn anffodus, tua blwyddyn ar ôl gorffen ei thriniaeth gychwynnol, daeth y canser yn ôl mewn ffurf llawer mwy ymosodol, gan effeithio ar 15 nod lymff, yn ogystal â'r croen a'r cyhyrau oedd yn golygu rhagor o gemotherapi, therapi wedi'i dargedu a radiotherapi.
Ychwanegodd Sally "rwy'n wirioneddol gredu mai'r tîm gwych yn Uned Ganser Glan Clwyd a achubodd fy mywyd.
"Ar ôl profi'n uniongyrchol pa mor bwysig yw gofal canser lleol o'r safon uchaf, roeddwn am roi rhywbeth yn ôl."

Syniad Sally oedd y calendr er mwyn codi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru a hi wnaeth dynnu'r lluniau
Dywedodd Sally fod y calendr Breast Friends cyntaf "yn ffordd o ddod â merched ynghyd oedd wedi profi canser y fron ar wahanol oedrannau ac ar wahanol gamau yn eu bywydau".
"Fe benderfynon ni wneud rhywbeth ychydig yn wahanol: yn hytrach na chreu ymgyrch ymwybyddiaeth draddodiadol, roeddem am ddangos bod merched sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser y fron yn dal yn gallu chwerthin, cael hwyl, teimlo'n hyderus a dathlu bywyd."
Roedd yr ymateb yn anhygoel a llwyddwyd i godi dros £34,000 ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru, sy'n cefnogi'r Uned Ganser yn Glan Clwyd.
Ac felly ganwyd Calendr Breast Friends 2027 gyda 11 o ferched anhygoel sydd i gyd wedi profi canser y fron.
"Yn sicr nid modelau proffesiynol ydym ni, ond mae gennym ddigon o gymeriad, synnwyr digrifwch iach a phenderfyniad i droi rhai profiadau anodd iawn yn rhywbeth cadarnhaol," meddai Sally.
"Mae'r calendr yn ysgafn ei naws ac yn llawn hwyl, ond mae neges ddifrifol y tu ôl iddo.
"Gall canser y fron effeithio ar unrhyw un, ac rydym am annog merched i fod yn ymwybodol o iechyd eu bronnau, i'w gwirio'n rheolaidd ac i geisio cyngor meddygol os byddant yn sylwi ar unrhyw beth anarferol.
"Cafodd fy ail ddiagnosis ei ganfod oherwydd imi wirio craith fy mastectomi."

Mae Catrin Barker yn annog merched i archwilio eu bronnau
Un arall sydd wedi ymddangos yn noeth yn y calendr ac sydd wedi gwella o ganser y fron ydy Catrin Lois Humphrey Barker o Brestatyn.
Yn 2017, cafodd Catrin ddiagnosis o ganser y fron ar ôl sylwi ar lwmp ar ei bron chwith wrth archwilio'i hun.
Dywedodd: "Mae'n bwysig iawn fod pobl yn examinio eu hunain. ddim jyst ym mis Hydref pan ma hi'n fis pinc ar gyfer canser ond siecio'r bronnau bob mis o'r flwyddyn."
Mi gafodd Catrin oedd yn 47 oed, ei gweld yn sydyn gan arbenigwyr yn yr ysbyty a chanfod y canser ductal yn ddigon cynnar a chymryd tamoxifen fel bod ddim angen radiotherapi na chemotherapi.
"Mi wnes i ffeindio fo, delio efo fo yn syth bin felly dim angen triniaeth heblaw tamoxifen a chael gwared o'r canser efo double ampututation."
Fis yn ddiweddarach daeth y newyddion fod gan Catrin ganser gwahanol, canser tubular, yn y fron arall felly cafodd fastectomi a chodi'r ddwy fron. Mae'n anarferol i rywun gael dau fath gwahanol o ganser y fron.
Roedd hi'n gyfnod anodd iawn i Catrin oherwydd bythefnos ar ôl iddi orffen ei thriniaeth a chodi'r ddwy fron mi wnaeth ei mam farw o ganser.

Cafodd Catrin (top chwith) hwyl yn tynnu'r lluniau ar gyfer y calendr
Mae Catrin yn is-gadeirydd elusen Treasure Chest sy'n casglu arian at Ganolfan Ganser ysbyty Glan Clwyd, Bodwelwyddan sy'n helpu pobl sy'n mynd drwy driniaeth canser y fron.
Mae criw o ferched Red Breast yn cyfarfod unwaith y mis ac yn gyfle i drafod triniaethau a syniadau i gasglu arian a'r syniad diweddaraf oedd creu calendr i godi arian ar gyfer yr uned ganser oedd wedi helpu'r merched.
Maen nhw wedi cael hwyl yn creu'r lluniau ar gyfer y calendr a Catrin yn chwerthin wrth gofio "cerdded ar draws cae pêl-droed Y Rhyl yn rhannol noeth!".
"Roedd angen dewis llefydd penodol i dynnu'r lluniau lle ma neb yn gallu eich gweld chi," mrddai.
Canser y fron: Blwyddyn o aros, poeni, rhannu a gobeithio
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
Calendr noeth yn codi dros £20,000 i ganolfan ganser
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.