Gohebu ar wrthdaro i 'ddod â phobl ynghyd' a 'chau'r bwlch empathi'
Caitlin Kelly: 'I fi 'ma adrodd straeon yn bethau sy'n dod a ni at ein gilydd'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys manylion allai beri gofid i rai.
Mae'r newyddiadurwraig Caitlin Kelly wedi hen arfer gohebu o rai o ardaloedd mwyaf cythryblus y byd - sy'n beth da gan mai yn y Dwyrain Canol y mae ei swydd ddiweddaraf.
Mae hi newydd gael ei phenodi'n ohebydd y rhanbarth ar ran ABC News Australia ac yn dechrau ymgynefino yno ar ôl cyrraedd Jerwsalem chwe wythnos yn ôl
Mae'n ardal sy'n gyfarwydd iddi, gan iddi dreulio amser yno ar ôl graddio - dyna lle y cymerodd ei chamau cyntaf yn y byd newyddiadurol.
Ond mae pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny gan fod llygaid y byd ar Israel ers ymosodiadau Hydref 2023, ac ar ymateb llywodraeth Benjamin Netanyahu a'r sefyllfa yn Gaza - heb sôn am wrthdaro ehangach yn erbyn Iran.
Mae Caitlin, 30, wedi trafod ei phrofiadau mewn sgwrs ar gyfer rhaglen Dros Ginio, wrth iddi baratoi ar gyfer etholiad hollbwysig yn Israel cyn diwedd y mis.
O Jerwsalem i'r Lan Orllewinol - argraffiadau dau ohebydd
- Cyhoeddwyd16 Awst 2025
'Hunllef' criw o Wynedd sy'n sownd yn sgil gwrthdaro'r Dwyrain Canol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
Enillodd Caitlin radd bellach mewn newyddiaduraeth yn Llundain cyn treulio cyfnod yn teithio o amgylch y Dwyrain Canol a chael gwaith o fewn y sector cymorth dyngarol.
Dyna pryd y dechreuodd dynnu lluniau a chasglu profiadau personol pobl.
Fe adawodd ei swydd a dechrau newyddiadura ar ei liwt ei hun, gan symud i orllewin Affrica - rhan arall o'r byd sydd wedi profi gwrthdaro ac argyfyngau dyngarol yn ddiweddar.
Fe fu'n byw yn Senegal am ddwy flynedd gan ddarparu lluniau ac adroddiadau i sawl gwasanaeth - "France 24, Associated Press, The Guardian, Al Jazeera".
Fe ohebodd o dros 10 o wledydd gan gynnwys Chad, De Sudan, Sierra Leone a'r Central African Republic.
Ond mae hi bellach yn ôl yn y Dwyrain Canol ac yn byw yn Jerwsalem fel gohebydd ABC News Awstralia yn y rhanbarth.

Mae Caitlin yn ceisio sicrhau ei bod yn casglu gymaint o wybodaeth â phosib am leoliad cyn mynd i weithio yno
"I fi, mae straeon yn bethe' sy'n dod â ni at ein gilydd," meddai, "ma'n nhw hefyd yn ffordd y'ch chi'n gallu codi ymwybyddiaeth."
Oherwydd ei gwaith blaenorol yn y sector dyngarol mae hi'n cael ei denu at faterion yn ymwneud â chyfiawnder ac anghyfiawnder.
"Dwi'n meddwl bod adrodd straeon mewn ardaloedd a llefydd a sefyllfaoedd anodd yn rhywbeth sy'n gallu cau'r empathy gap."
Ychwanegodd fod maes hawliau dynol yn "lle pwysig iawn i atgoffa ein gilydd bod ni gyd yn debyg."
'Ni'n bobl cyn unrhyw beth arall'
Un stori sydd wedi aros yn y cof yw'r adeg y bu ar y ffin rhwng Mali a Mauritania yn ymchwilio i'r llu parafilwrol Rwsiaidd sy'n gweithredu ar y cyfandir, yn aml ar ran llywodraethau.
Daeth Caitlin a'i thîm cynhyrchu ar draws teulu merch ifanc oedd yn honni bod y milwyr wedi ei threisio.
"Pan welon ni hi, y ferch, oedd hi'n gorwedd ar y llawr, oedd hi'n hollol llonydd," meddai.
"Roedd y geg ar agor, oedd hi'n dwym iawn - roedd hi'n marw, essentially..."
Bu'n rhaid wynebu cyfyng-gyngor cyfarwydd i sawl newyddiadurwr mewn sefyllfa argyfyngus sef dewis rhwng achub yr unigolyn a chasglu tystiolaeth.
"Penderfynon ni roi hi yn y car a gyrru hi'n syth i glinig sy'n cael ei redeg gan MSF, sef Doctors Without Borders," meddai.
"[Roedd yn] sialens achos yn y foment yna o'n i'n gw'bod bod 'na gwestiyne old school journalism 'Don't get involved'... ond o flaen ni oedd enghraifft o'r stori [oedd] bron â marw achos be' 'nath ddigwydd iddi."
Bu'n dyst i ymdrechion meddygon i achub ei bywyd cyn i'r ferch gael ei chludo i ysbyty, ac fe deithiodd yna ar ei hôl gyda'i pherthnasau, gan gasglu eu profiadau hwythau.
"Cwpwl o ddiwrnode'n ddiweddarach, nathon ni fynd i'r ysbyty a o'dd hi'n 'ista lan ac o'dd hi'n siarad ac yn bwyta.
"Fi'n meddwl bod ei'n atgofiad pwysig i fi bod ni'n bobl cyn unrhyw beth arall."
Ond os taw'r peth greddfol i'w wneud oedd "rhoi popeth i lawr a jest helpu'r ferch 'ma", fe gafodd yr adroddiad am yr hyn a ddigwyddodd gryn effaith maes o law, gan ei fod mor anodd i gasglu tystiolaeth bod menywod yn cael eu treisio gan filwyr.

Mae Jerwsalem yn ddinas "sy'n llawn contradictions," yn ôl Caitlin
Er gwaetha cymhlethdod y sefyllfa wleidyddol y mae Caitlin bellach yn ei chanol, a'r peryglon posib yn sgil ymosodiadau achlysurol ar y wlad, mae hi'n dweud ei bod yn teimlo'n gymharol ddiogel yno.
"Mae 'na wrth gwrs bethe s'dim 'da ni control drosto, ond cyn i mi fynd i unrhyw le fi'n siarad gyda 10-20 o wahanol bobl sydd naill ai yn byw yna, sy'n diplomat, sy'n aid worker, sy'n gweithio i'r llywodraeth neu beth bynnag," meddai.
Mae hynny'n help i gasglu gymaint o'r wybodaeth â phosib sy'n angenrheidiol "i gadw fy hunan yn saff ac i 'neud swydd fi".
Mae gallu cadw cydweithwyr yn ddiogel yn hanfodol hefyd, gan ei bod yn cydnabod bod ganddi'r "privilege o allu gadael" nad sydd o reidrwydd ar gael iddyn nhw.
"Mae 'na ffordd o 'neud o'n llai danjerus na fi'n meddwl mae'n edrych i bobl ar y tu fas."
'Ceisio siarad gyda phawb o bob ochr'
Mae Jerwsalem, meddai, wedi newid, ac eto ddim, ers ei chyfnod cyntaf yn yr ardal gyda'r Groes Goch.
Mae'n le "sy'n llawn contradictions... mor bert ond hefyd mae 'na gymaint o bethe, [sydd] ddim yn bert o gwbl... lle mae pobl yn gallu bod yn rili neis ond hefyd yn rili gas".
Yr her, meddai, yw "trial aros yn y canol" a "siarad gyda phawb o bob ochr".
Ond mae'r holi y mae hi wedi ei wneud hyd yn hyn ond wedi tanlinellu cymhlethdod y sefyllfa.
Roedd hi'n awyddus i siarad gyda phobl ifanc - "y generation nesaf... a gofyn be' sy'n bwysig iddyn nhw".
"Be' fi 'di dysgu o hwnna yw cymaint o wahanol bobl sy'n byw fan hyn... o ochr Israel a ochr y Palestinians.
"Mae 'da ti gymaint o wahanol safbwyntiau ynglŷn â diogelwch, be' ddigwyddodd ar ôl mis Hydref 2023 a be' sy' wedi digwydd ers hynny, ynglŷn â'r fyddin, yr economi [a'r holl] ryfeloedd ma' mae Israel yn ymladd ar y foment."
Fe fydd yr etholiad, meddai, yn "foment bwysig... ma' fe'n teimlo fel 'ma lot o bobl yn aros i weld beth sy'n mynd i ddigwydd".
Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.