Darganfod caer Rufeinig ym Mhenfro yn 'rhoi realiti' i'r Mabinogion

CGI o'r caerFfynhonnell y llun, Mark Merrony
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedd Magnus Maximus, neu Macsen Wledig fel mae'n cael ei alw yng Nghymru, yn teyrnasu dros yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn y 380au.

Mae gwaddol Macsen Wledig ar hanes cynnar Prydain a Chymru'n fawr, ac ymhell cyn i Dafydd Iwan gyfeirio ato yn ei gân eiconig, Yma o Hyd, mae sôn am yr ymerawdwr o fewn cloriau'r Mabinogion, gyda'i hanes yn y chwedl Breuddwyd Macsen Wledig.

Gan fod y Mabinogion wedi eu hysgrifennu yn y 12fed ganrif, ac yn olrhain hanesion o ryw 800 neu 900 mlynedd ynghynt, mae llawer o ddyfalu wedi bod ynghylch faint o'r straeon sydd wedi eu seilio ar wirionedd.

Ond mae darganfyddiad diweddar o safle Rufeinig yn Sir Benfro yn hynod arwyddocaol, ac yn cefnogi elfennau o'r hanes yn y Mabinogion.

Frenni FawrFfynhonnell y llun, Mark Merrony
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenni Fawr ger Crymych, a oedd yn cael ei adnabod fel Cadair Macsen yn y gorffennol

Dr Mark Merrony o Brifysgol Rhydychen sy'n arwain yr ymchwil archeolegol ar y Frenni Fawr, ger Crymych.

"Roedd 'na ddarganfyddiad rhyfeddol o'r villa ym Margam yn ddiweddar, ac mae'r darganfyddiad newydd yma'n gwneud i chi sylweddoli bod y Rhufeiniaid wedi dod cyn belled â hyn i orllewin Cymru.

"Yn amlwg, roedd Caerfyrddin yn ddinas Rufeinig ac mae'r Mabinogion yn cyfeirio at y dref fel un Rufeinig."

Mark MerronyFfynhonnell y llun, Mark Merrony
Disgrifiad o’r llun,

Mark Merrony'n sefyll ger prif adeilad y gaer ar y Frenni Fawr

Daw Mark Merrony ei hun o Sir Benfro yn wreiddiol, ac mae'n dweud bod darganfod y gaer yma'n taro goleuni newydd ar y ddelwedd o'r llwythi yng ngorllewin Cymru yn y cyfnod.

"Mae'r darganfyddiad yma'n bwysig gan mai dyma'r ail gaer Rufeinig i gael ei ddarganfod yn Sir Benfro. Y tueddiad oedd i feddwl bod y Demetae – y llwyth o Oes yr Haearn yng ngorllewin Cymru – ddim yn fygythiad i'r Rhufeiniaid ac yn heddychlon. Ond pam felly bod dwy gaer Rufeinig yno?

"Mae'n rhaid eu bod wedi cael eu hystyried yn fygythiad o ryw fath, gan achosi i'r Rhufeiniaid i ddangos eu hawdurdod.

"Mae'r gaer newydd yma llawer mwy na chaer Rufeinig Housesteads yn Northumberland, ger Mur Hadrian. Roedd 1,000 o filwyr yn Housesteads, ac rwy'n credu y gallai'r gaer hon ger Crymych gynnwys 1,000 hefyd, a olygai bod cyfanswm o tua 2,000 o filwyr Rhufeinig yn Sir Benfro ar y pryd - presenoldeb sylweddol i'r cyfnod."

Frenni FawrFfynhonnell y llun, Mark Merrony
Disgrifiad o’r llun,

Llun arall o'r prif adeilad, ble mae Mark yn asesu'r onglau a chyfeiriad mae'r adeiladau'n wynebu

Felly, pam mae'r safle diweddara' yma'n arwyddocaol?

"Am gyfnod hir roedd rhaid i mi gadw lleoliad y safle 'ma'n gyfrinachol," meddai Mark, "ond o'n i wastad yn teimlo bod cysylltiad rhwng y lle a'r Mabinogion.

"Mae Magnus Maximus mor bwysig yn hanes chwedlonol Cymru - yn y Mabinogion a De Excidio Britanniae (Ynghylch Dinistr Prydain) gan Gildas.

"Mae'r Mabinogion yn sôn am Macsen yng Nghaerfyrddin, ond hefyd yn ochr ddwyreiniol Mynyddoedd y Preseli. Mae lleoliad y safle newydd 'ma yn Frenni Fawr yn gwneud synnwyr fel canolfan Rufeinig hefyd, a rwy'n meddwl ei fod yn fwy 'na jest cyd-ddigwyddiad."

Macsen WledigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Macsen Wledig o Gallaecia yn wreiddiol, sydd heddiw wedi ei rannu rhwng gogledd-orllewin Sbaen a gogledd Portiwgal. Ibero-Celtaidd oedd ei ddiwylliant, ac fe ddaeth i Ynysoedd Prydain gyntaf yn y 360au

Ffyrdd Rhufeinig yr ardal a arweiniodd Mark i ddarganfod safle'r gaer, fel esbonia:

"O'n i'n olrhain y ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i'r gaer ger Cas-wis, Hwlffordd, ac o'n i'n edrych ar y rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig yn yr ardal. Mae 'na ffordd Rufeinig yn mynd o Dyddewi i Gaerfyrddin, gyda chroesfan ar Sarn Helen, ac mae un arall yn mynd yr holl ffordd i'r Cleddau.

"Mae'n rhaid felly bod Clunderwen yn groesffordd, ac felly mae'n mynd drwy Landysilio, Efail Wen, ac yna i Aberteifi.

"Mae Crymych yn groesfan hefyd, a dwi wedi dilyn y ffordd o fewn pedwar cilomedr i Sarn Helen, achos mae'r ffyrdd yn anodd eu ffeindio mewn mannau."

Yr A478 ger Crymych

Roedd meddwl am yr holl ffyrdd a llwybrau Rhufeinig yn cwrdd ar wahanol fannau'n gwneud i Mark feddwl bod caer Rufeinig yn sicr o fod yn agos.

"O'n i'n trio gwneud synnwyr o'r cyfan, ac un noson 'nes i ddeffro am dri o'r gloch y bore a meddwl 'dydy rhywbeth ddim yn gwneud synnwyr am hyn'.

"Es i ar Google Earth ac edrych ar y ffordd A478 ger Crymych, ac o'n i'n sicr ei fod yn ffordd Rufeinig - dyma safle ddechreuad Terfysg Beca hefyd!

"'Nes i ddilyn y ffordd ar y map lawr i Grymych a dweud wrth fy mhartner 'mae rhaid i mi yrru i Gymru nawr - dwi'n sicr bod 'na gaer Rufeinig yna sydd heb ei ddarganfod'."

CaerFfynhonnell y llun, Mark Merrony
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd arall o sut gallai'r gaer fod wedi edrych yn y cyfnod, wedi'i hamgylchynu gan ddŵr

Beth yw'r creiriau sydd wedi eu darganfod gan Mark ar y safle?

"Mae gennym ni grochenwaith, teils a cheiniogau Rhufeinig, offer gwlân i wneud dillad, bwyell fach. Hefyd roedd 'na ffordd yn amgylchu'r gaer, sy'n nodweddiadol o geiri Rhufeinig.

"Mae'r onglau y mae'r adeiladau'n pwyntio hefyd yn awgrymu mai caer Rufeinig oedd hon. Mae siâp y prif adeiladau o fewn y gaer yn debyg i'r hyn fyddai i'w gweld yn Pompeii."

O edrych ar y lluniau o'r gaer mae Mark yn gallu dweud ble fyddai adeilad yr arweinwyr, yr ysbyty, y gof a'r adeiladau ble fyddai'r milwyr yn cysgu.

Creiriau o'r Caer RhufeiningFfynhonnell y llun, Mark Merrony
Disgrifiad o’r llun,

Bwyell fechan a ddarganfyddwyd ar un o'r ffyrdd yn y gaer, ac un o'r teiliau Rhufeinig o fewn un o'r adeiladau

Yn erbyn pwy fyddai'r Rhufeinwyr yn y Frenni Fawr wedi bod yn ymladd?

"Rwy'n meddwl efallai mai gyda'r Gwyddelod oedden nhw'n ymladd, achos yn dilyn y cyfnod yma fe gipiodd y Gwyddelod deyrnas Dyfed. Roedd 'na adeg pan newidiodd yr enwau Lladin i fod yn rhai Gwyddeleg, cyn troi'n ôl yn Lladin.

"Dyma'r cyfnod pan ddaeth Arthur i amlygrwydd, yn cael gwared o'r Gwyddelod o orllewin Cymru (cyn i Gymru fel cenedl gael ei ffurfio)."

Pan adawodd Macsen i fynd i gyfandir Ewrop roedd yna gatrodau Rhufeinig yn dal i fodoli yma, ac fe arweiniodd Arthur y rhyfelwyr Romano-Geltaidd yn erbyn y Gwyddelod.

'Rhoi realiti i'r Mabinogion'

Dywed Mark y gall y darganfyddiad drawsnewid y ffordd yr ydym yn edrych ar y Mabinogion.

"Rwy'n meddwl bod y darganfyddiad 'ma'n rhoi delwedd o realiti yn straeon y Mabinogion - dydyn nhw ddim fel rhyw chwedlau Arthuraidd.

"Llên gwerin yw'r Mabinogion wrth gwrs, ond mae wedi ei ymgorffori mewn ffeithiau.

"Rwy ddim yn arbenigwr mewn llenyddiaeth Cymraeg, ond mae chwedl Breuddwyd Macsen Wledig yn cael ei hystyried fel un sy'n eistedd o fewn ychydig mwy o ffeithiau 'na rhai o'r rhai eraill, ac mae'n fwy tebygol fyth bod gwirionedd iddi yn dilyn darganfyddiad y safle ar Frenni Fawr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.