'Ddaethon ni'n fêts ym Mlwyddyn 7': Candelas yn dathlu dau ddegawd

CandelasFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Candelas - fydd yn lansio eu halbwm diweddaraf ar 28 Tachwedd mewn gig yn yr ysgol lle ddechreuodd y cyfan

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dechrau ysgol uwchradd yn gallu arwain at greu cyfeillgarwch newydd ac agor drysau i brofiadau cyffrous. I griw o ardal Y Bala fe arweiniodd at ddau ddegawd o greu cerddoriaeth, pedwar albwm a pherfformio o flaen 10,000 o bobl.

Dyna stori Candelas, sydd wedi hen sefydlu eu hunain fel un o brif fandiau Cymraeg eu cenhedlaeth - ac maen nhw ar fin lansio eu halbwm diweddaraf ar yr union lwyfan ysgol lle roedden nhw'n ymarfer bron i 20 mlynedd yn ôl.

Roedd Osian Williams, Ifan Jones, a'r efeilliaid Tomos a Gruffydd Edwards, i gyd yn dod o ardaloedd gwahanol o fewn dalgylch Ysgol y Berwyn. Drwy lwc, pan ddechreuon nhw yn yr ysgol uwchradd fe ddaethon nhw'n ffrindiau.

'Lwcus' bod yn yr un flwyddyn

"Cwrdd yn blwyddyn saith 'naethon ni," meddai Osian.

"Ddaethon ni'n fêts syth bin. 'Da'n ni wastad wedi sôn, tasa ni flwyddyn hŷn neu flwyddyn yn iau be' fasa wedi digwydd?

"Doedd 'na ddim lot o ddiddordeb mewn miwsig yn gyffredinol yn y blynyddoedd rheiny so roedda ni'n reit lwcus bod ni yn y flwyddyn efo'n gilydd.

"Erbyn tua blwyddyn naw roeddan ni gyd yn chwarae gitâr, ac yn cael gwersi gitâr gan Rhys Parry, oedd yn chwarae efo Bryn Fôn. Ac fel yna wnaethon ni ddechrau."

Yn y blynyddoedd cynnar rheiny, roedd aelodau gwahanol yn mynd a dod a gwahanol fandiau yn ffurfio a chwalu. Ond roedd pedwar cerddor yn gyson drwy'r cyfnod.

"Dw i'n siŵr yn y bandiau cyntaf, roedd 'na tua saith ohonon ni ac roedd 'na bedwar gitâr - bach gormod - so 'nath Tom druan gael y short straw a mynd i chwarae bas," meddai Ifan, wnaeth gadw gafael ar ei rôl fel gitarydd.

CandelasFfynhonnell y llun, Candelas
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau cyntaf swyddogol o'r band - yn 2009 a chyn iddyn nhw'n droi'n grŵp o bump

Erbyn y chweched dosbarth, yn 2007-2008, roedd yr aelodaeth wedi sefydlogi a Candelas wedi ffurfio.

Fe ryddhaon nhw eu EP cyntaf Kim y Syniad 15 mlynedd nôl yn 2011, gan ddod yn raddol i fod yn un o brif fandiau'r sin.

Wrth i'r band ddatblygu fe gamodd Osian o fod yn brif leisydd y tu ôl i'r drymiau i fod ar flaen y llwyfan, ac ymunodd Lewis Williams (oedd eisoes efo Sŵnami) fel drymiwr ar ôl eu hail albwm.

"Roedden ni mewn adeg da, achos roedd gen ti lot o fandiau tua'r un oed â ni yn chwarae," meddai Ifan.

"Roedd gen ti Yr Ods a Bandana a Derwyddon (Dr Gonzo), so roedden ni'n gweld nhw'n gigio a roedda chdi'n meddwl 'o, roedda nhw'n dda'. So oedda ni fel, 'rhaid i ni wella i gadw efo nhw a gwneud gigs efo nhw'.

"Roedda ni wastad rhyw ddwy flynedd ar ôl y bandiau yna ac yn cymryd dipyn i ni dorri drwodd, dwi'n meddwl achos bod geno ni ddim frontman ar y dechrau. So roedd o'n fwy ara' deg i ni tan i ni gael gigs Clwb Ifor a 'Steddfod. Ond mae'n siŵr roedd o werth o'n y diwedd i gael amser i wella ar y grefft."

CandelasFfynhonnell y llun, Candelas
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2013 fe ymunodd y drymiwr Lewis gyda'r band. O'r chwith i'r dde: Tomos Edwards (gitâr fas), Gruffydd Edwards (gitâr), Osian Williams (llais a gitâr), Ifan Jones (gitâr), Lewis Williams (drymiau)

Gwella a mwynhau oedd yr uchelgais o'r dyddiau cynnar yn ôl Osian: "Mi 'dan ni wedi cymryd y peth o ddifri erioed. Allwn ni ddim mynd i gig heb ymarfer, neu os oes 'na ryw dowt am rywbeth.

"Ond dwi'm yn meddwl bod ni erioed 'di sgwrsio o ran unrhyw gôl o be' ydan ni eisiau gwneud.

"Fel mae gang o ffrindiau gorau - ti jyst yn hapus bod efo'ch gilydd ac yn gwneud be' ti'n caru gwneud. A ti jyst wastad yn meddwl, 'ocê, albym nesaf rŵan... a'r albym nesaf'."

CandelasFfynhonnell y llun, Candelas
Disgrifiad o’r llun,

Y band yn 2017, flwyddyn cyn rhyddhau eu halbwm diwethaf Wyt Ti'n Meiddio Dod i Chwarae? ar label I Ka Ching

Rhwng 2013 a 2018 fe wnaeth Candelas ryddhau tri albwm roc ac ambell i sengl gan gynnwys cyfyr o Rhedeg i Paris, ddaeth yn anthem cyfnod euraidd Euro 2016.

Nawr mae eu pedwaredd record hir ar fin cael ei rhyddhau. Pop Cymraeg fydd eu halbwm cyntaf ers wyth mlynedd, a'r cyfnod hir yn brawf o'u hoffter o chwarae'n fyw, sy'n golygu llai o amser i greu a recordio.

Mae hefyd yn adlewyrchu prysurdeb bywyd cerddorion sydd bellach yn eu 30au, ac yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng cynnal band a gofynion gwaith, teulu ac ati. Ond mae'r ffaith bod yr albwm allan ar 20 Tachwedd a'r ymateb positif yn ystod haf prysur o hedlienio ar brif lwyfannau'r Eisteddfod a Tafwyl yn brawf eu bod nhw wedi gallu gwneud hynny.

CandelasFfynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Osian Williams o flaen torf anferth Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan yn 2023

"Dwi'n meddwl bod ni wedi blaenoriaethu'r band, neu wedi gwneud ein bywyd ni fedru gweithio efo'r band," meddai Ifan.

"Mae Osh a fi yn gweithio yn y maes, ac felly'n lot haws i ni fod yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos ac wedyn gweithio trwy weekend efo gigs.

"Ond chwarae teg ma' rest o'r bois hefyd, maen nhw wedi bod mor hyblyg efo bob dim a bron dal nôl i gael fwy o gigs."

"'Da ni i gyd ddim eisiau fo orffen a r'un mor keen ag erioed ond hefyd ti ddim yn rhoi pwysau ar dy hun - wel, mae hynny'n amlwg efo'r gaps rhwng albyms," ychwanega Osian.

"Pan mae'r miwsig yn dod, mae'r miwsig yn dod, ac wedyn 'dan ni'n barod amdani, ond 'dan ni ddim yn fforsio fo'n ormodol.

"Mae 'na gyfnodau'n dod lle mae'n mynd i fod yn dawelach, ond mae hynny'n beth da. 'Da ni isio brêc hefyd, ac wedyn ti jyst yn ysu i fynd eto wedyn."

CandelasFfynhonnell y llun, Dion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Candelas heddiw

Fe fydd yr albwm yn cael ei lansio ar 28 Tachwedd yn Theatr Derek Williams, gafodd ei enwi ar ôl tad Osian, sy'n rhan o Ysgol Godre'r Berwyn.

Felly wrth iddyn nhw nesáu at 20 mlynedd ers ffurfio fel band, fe fydd Candelas yn mynd yn ôl i'r ysgol lle ddechreuodd popeth.

"Mae o'n reit bonkers bod ni'n mynd ôl i'r un neuadd lle oedda ni'n practisio ar ôl ysgol - union yr un llwyfan," meddai Ifan.

Ychwanegodd Osian: "Ma'n bechod bod Neuadd Buddug ddim dal ar agor achos fan'na oedd ein hoff venue ni yn y byd bron a 'da'n ni wedi lansio'r albyms i gyd yn fan yna.

"Ond fydd 'na rywbeth sbesial am fynd nôl i'n hysgol ni hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.