Pum munud gyda Nushin Chavoshi-Nejad

- Cyhoeddwyd
Cafodd Nushin Chavoshi-Nejad ei geni yn Tehran, Iran. Daeth i fyw ym Mhrydain yn 10 oed gyda'i theulu.
Ar ôl dysgu Cymraeg am bum mlynedd gyda'r nos, cafodd swydd mewn ysgol Gymraeg, yn dysgu Ffrangeg a Sbaeneg hyd at Lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae hi bellach yn diwtor Cymraeg i oedolion ers 25 mlynedd ac felly'n deall i'r dim anghenion dysgwyr sy'n newydd i'r iaith.
I gyd-fynd ag Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Nushin wedi cyd-olygu cyfrol 'Cymry Heddiw' sydd yn cael ei lansio ar 13 Hydref.
Mae'r llyfr yn rhoi sylw ac yn gyfle i ddod i adnabod deg o bobl o gefndir mwyafrif byd-eang sy'n galw Cymru yn gartref.
Maen nhw'n ateb cwestiynau ac yn dweud eu hanes yn byw yng Nghymru heddiw.
Dyma bum munud felly i ddod i adnabod Nushin ychydig yn well.
Soniwch ychydig amdanoch chi eich hun a'ch cefndir.
Ces i fy ngeni yn Tehran, Iran. Symudais i Loegr yn ddeg oed, gyda fy mam, chwaer a brawd hŷn. Allwn i ddim siarad Saesneg pan ddechreuais y flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd yng Nghaergrawnt.
Ar ôl blwyddyn ro'n i'n hollol rugl o ran siarad ac ysgrifennu.
Mater o foddi neu nofio oedd hi!

Dyma lun o Nushin yn bedair oed tra'n byw yn Iran
Faint ydych chi'n gofio o'ch amser o fyw yn Iran?
Mae atgofion eglur iawn gyda fi o fy amser o fyw yn Iran. Ces i blentyndod hapus a chyfforddus.
Roedd Tehran yn ddinas brysur ofnadwy ac yn gosmopolitan iawn. Dw i'n cofio gweld coed Nadolig ar werth yn o'r prif rodfeydd Tehran! Bwytais fy myrgyr cyntaf yn nhŷ ein cymdogion o'r Unol Daleithiau.
Roedd yr haf yn grasboeth a'r gaeaf yn oer ac yn eiraog. Arferwn fynd ar wyliau haf gyda fy nheulu i arfordir Y Môr Caspia.
Byddai pobl yn mynd i sgïo yn y mynyddoedd y tu fas i Tehran yn y gaeaf ac am bicnic yno yn y gwanwyn.
Pam penderfynu dysgu Cymraeg a sut wnaethoch chi ddod i gysylltiad â'r iaith yn gyntaf?
Penderfynais ddysgu Cymraeg yn syth ar ôl i fi symud i Gymru. Ro'n i'n dysgu Cymraeg am bum mlynedd, mewn tafarn yn Hirwaun, gyda thiwtoriaid gwirfoddol.
Gwnaethon nhw fy ysbrydoli i ddod yn rhugl. Ro'n i eisiau bod yn rhan o'r ddau ddiwylliant yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf.
Ymwelwn â theulu fy ngŵr yng Nghwm Cynon, pan oedd y ddau ohonon ni'n byw yn Llundain. Cwympais mewn cariad â Chymru a dechreuais ymddiddori yn yr iaith a diwylliant. Daethon ni i fyw yn Aberdâr yn 1990.
Aeth fy nwy ferch i'r ysgol Gymraeg. Maen nhw'n rhugl yn yr iaith ac yn parhau i'w defnyddio ar ôl gadael yr ysgol.

Nushin gyda'i brawd ar lan y Môr Caspia yn Iran
O ble daeth y diddordeb i ddysgu ieithoedd newydd a faint o ieithoedd ydych chi'n gallu siarad?
Yn yr ysgol gyfun dechreuais ddysgu Ffrangeg a oedd fy hoff bwnc!
Roedd hi'n hawdd iawn i fi ar ôl gorfod dod yn rhugl yn Saesneg.
Astudiais Ffrangeg i Lefel A, ac yna penderfynais ddechrau astudio Sbaeneg yn ogystal â Ffrangeg yn y Brifysgol.
Y peth gorau am wneud gradd mewn dwy iaith oedd treulio chwe mis yn y ddwy wlad. Es i'n ôl i Seville am flwyddyn ar ôl graddio i ddysgu Saesneg fel iaith dramor.
Dw i'n siarad pum iaith, Ffarsi, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a'r Gymraeg.
Ymwelais â Phatagonia yn 1995, lle gallwn ddefnyddio'r Gymraeg a Sbaeneg a phrofi sut mae dau ddiwylliant a dwy iaith yn gallu cyd-fyw.
Beth ydych chi yn ei fwynhau fwyaf am eich gwaith fel tiwtor Cymraeg?
Y peth gorau am fod yn diwtor Cymraeg yw gallu helpu pobl i wneud cynnydd a'u hannog i ddefnyddio'r iaith ar bob cyfle.
Yn ystod y chwe blynedd ar hugain o weithio fel tiwtor Cymraeg, dros Brifysgol De Cymru, dw i wedi cynorthwyo llawer o bobl i ddod yn rhugl yn yr iaith.
Gan fy mod wedi dysgu Cymraeg yn oedolyn fy hunan, gallaf uniaethu â'r dysgwyr a'u helpu i oresgyn yr heriau maen nhw'n eu hwynebu.
Credaf fod oedolion yn rhan hanfodol o greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol.
Hefyd, dw i wedi mwynhau dysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg i oedolion oedd yn mynd i ymweld â Phatagonia.
Ces i'r pleser o ddysgu'r cwrs blasu Cymraeg 'Croeso i Bawb' i bobl nad ydy Saesneg eu hiaith gyntaf, a'u hannog i ymuno â chwrs dilyniant prif ffrwd.
Gobeithio y gallaf ysbrydoli mwy o bobl o gefndiroedd mwyafrif byd-eang i ddysgu Cymraeg a dod yn siaradwyr Cymraeg. Mae'r Gymraeg i bawb.

Nushin gyda'i ffrind Isabel ar y ffordd i Feria de Sevilla yn 1988
Soniwch am eich cyfrol newydd, Cymry Heddiw.
Dw i wedi cyd-ysgrifennu cyfrol newydd, Cymry Heddiw, gyda Dionne Bennett. Llyfr yng nghyfres Amdani yw e ar lefel Mynediad, i oedolion sy'n dysgu Cymraeg.
Yn y gyfrol mae deg o bobl o gefndir mwyafrif byd-eang, sy'n galw Cymru yn gartref, yn adrodd eu hanes trwy sgwrs. Maen nhw'n sôn am beth mae Cymru a'r iaith yn golygu iddyn nhw.
Mae'u cyfraniadau pwysig i ddiwylliant Cymru a'r gweithle yn cynnwys y meysydd addysg, cerddoriaeth, busnes, meddygaeth a llawer mwy! Maen nhw'n helpu i siapio dyfodol Cymru.
Beth sydd nesaf i chi?
Hoffwn ysgrifennu llyfr coginio yn Gymraeg, gyda fy hoff ryseitiau o Iran a'r byd.
Byddwn yn adrodd hanes bob rysáit a beth sy wedi fy ysbrydoli i'w mabwysiadu.
Mae bwyd yn dod â phobl at ei gilydd a thorri rhwystrau. Mae'n ffordd dda o rannu diwylliant a mwynhad.

Llun o glawr y llyfr y mae Nushin wedi'i gyd-olygu
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 Medi

- Cyhoeddwyd8 Hydref
