'Dwi yma ers mod i'n 19 - pryd ga i ystyried fy hun yn Gymro?'

Simon RodwayFfynhonnell y llun, Simon Rodway
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Beth sy'n ein gwneud ni'n Gymry?

Symudodd Simon Rodway i Gymru fel myfyriwr, heb air o Gymraeg, ond bellach mae'n Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Ydy hynny felly yn golygu ei fod yn Gymro? Yma mae'n egluro fod hunaniaeth yn gallu bod yn gymhleth...

GanDr Simon Rodway

'Cymro da o rywle yn Lloegr'

Yn gynharach eleni recordiais i sgwrs am brosiect ymchwil ar y dystiolaeth gynharaf am yr ieithoedd Celtaidd ym Mhrydain ac Iwerddon gyda Dei Tomos ar gyfer ei raglen radio.

Cyn inni ddechrau recordio, mi fuodd e'n fy holi am fy hanes. Dwedais wrtho fy mod wedi cael fy ngeni yn yr Alban a 'nghodi yn Lloegr a fy mod wedi dod i Gymru yn 19 oed i fynd i'r brifysgol yn Aberystwyth heb air o Gymraeg.

Dwedodd e ei fod wedi cymryd yn ganiatáol mai Cymro oeddwn i, gan ychwanegu "wel, mi wyt ti'n Gymro rwan, wrth gwrs".

Simon RodwayFfynhonnell y llun, Simon Rodway
Disgrifiad o’r llun,

Simon, y myfyriwr a ddaeth i Aber heb air o Gymraeg

Nid dyna'r tro cyntaf i fi glywed rhywbeth felly. Mewn gwirionedd, mae datganiad o'r fath mewn du a gwyn yn y llyfr Pa Beth Aethoch Allan i'w Achub? gan Simon Brooks a Richard Glyn Roberts.

Wrth drafod diffiniad y gair 'Cymry', mae Richard yn crybwyll Steve Eaves, Liz Saville-Roberts a fi (a dyna i chi gwmni dethol!), pob un ohonon ni wedi dysgu Cymraeg yn oedolyn, gan ddadlau nad 'dysgwyr' mohonon ni bellach.

Mae'n datgan yn blaen 'Cymry ydynt'. Yn fy nghopi i o'r llyfr mae Richard wedi ysgrifennu ar y blaendudalen, "I Simon, Cymro da o rywle yn Lloegr".

Yn y gwaed...?

Dadl Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn ei hanfod yw mai label ieithyddol oedd 'Cymro / Cymraes' yn wreiddiol a bod yr ystyr hwn wedi parhau i raddau hyd heddiw. Mae Brooks yn trafod hyn yn ddyfnach yn ei lyfr cwbl wych Hanes Cymry.

Mae '"wrth gwrs" Dei Tomos yn dangos ei bod yn naturiol iddo fy ystyried yn Gymro a hynny er gwaethaf y ffaith nad oes, hyd i fi wybod, yr un diferyn o waed Cymreig yn fy ngwythiennau.

Mae'r diffiniad yn un cynhwysol hefyd – mae medru iaith yn sgil 'drosglwyddadwy', megis. Nid yw dysgu iaith yn hawdd, wrth gwrs, ond, yn ddamcaniaethol, mae unrhyw un yn gallu cael mynediad i glwb y Cymry, a mabwysiadu'r diffiniad hwn.

Daeth hyn i gyd i'm meddwl wrth ddarllen y sôn diweddar yn y cyfryngau am bwy sy'n cael galw eu hunain yn Saeson. Yr uniongrededd am Seisnigrwydd, am wn i, yw bod pawb sy'n cael eu geni yn Lloegr, bid a fo am eu cefndiroedd ethnig, yn Saeson.

Mae hyn yn debyg i syniadau am Gymreictod 'sifig'. Mae'n ddigon cynhwysol, mewn gwirionedd, ond mae'n golygu bod yna ddosbarth o bobl sy'n byw yn Lloegr, yn siarad Saesneg yn rhugl ac yn cyfrannu i'r diwylliant ond sy' ddim yn cael eu hystyried yn Saeson oherwydd eu man geni.

Yn ogystal, mae lleisiau yn codi bob hyn a hyn sydd am gyfyngu ar y diffiniad o Seisnigrwydd – mae rhai Saeson, oherwydd eu tras, yn fwy Seisnig nag eraill yn llygaid rhai. Mae'r sawl sy'n meddwl fel hyn yn lleiafrif, mae'n siŵr, ond eto'n gallu bod yn lleiafrif digon croch.

Mae rhai yn hoffi honni mai mater o ddewis personol yw hunaniaeth – os yw rhywun yn teimlo ei fod yn Gymro, neu'n Sais neu beth bynnag, mai dyna beth ydyw. Mewn gwirionedd, mae'n fwy cymhleth na hynny – mae hunaniaeth yn fath o gytundeb rhwng yr unigolyn a'r grŵp.

Estyn croeso y mae pobl fel Dei Tomos a Richard Glyn Roberts yn hytrach na diarddel pobl o'r grŵp maent yn ei gynrychioli. Mae hyn yn dangos rhyw haelioni, ac rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb